Mae’r cymhwyster TGAU Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg yn gymhwyster cyfunol sy’n cefnogi dysgwyr i allu:
Deall sut mae iaith yn ein helpu i gysylltu â'r byd trwy wrando, gwylio a darllen gwahanol fathau o destunau.
Darllen, gwylio a gwrando ar destunau amrywiol, gan feddwl sut mae geiriau, arddull a chywair yn trosglwyddo ystyr.
Gwybod pam, i bwy, ble a phryd mae iaith yn cael ei defnyddio wrth gyfathrebu ac ymateb.
Siarad ac ysgrifennu yn Gymraeg yn glir, cywir, rhugl a chreadigol.
Dysgu a defnyddio geirfa, gramadeg a rheolau'r Gymraeg yn gywir.
Cymhwyster unedol, di-haen yw hwn.
Er mwyn ennill y cymhwyster Gradd Unigol, mae’n rhaid i ddysgwyr sefyll Uned 1, Uned 2, Uned 3 ac Uned 4a.
Er mwyn ennill y cymhwyster Dwyradd, mae’n rhaid i ddysgwyr sefyll Uned 1, Uned 2, Uned 3, Uned 4b, Uned 5 ac Uned 6.
Uned 1 Naratif
Bydd dysgwyr yn astudio nofel ac yn ateb cwestiynau arholiad bydd yn gofyn iddynt: werthfawrogi cynnwys, themâu, plot a datblygiad cymeriad; adnabod a gwerthfawrogi arddull yr awdur; cyflwyno ymateb personol a chreadigol i'r nofel; ac ysgrifennu'n glir ac yn ddealladwy.
Uned 2 Hunaniaeth
Bydd dysgwyr yn astudio ffilm ac yn cael eu hasesu ar lafar mewn grwpiau o 3. Yn yr asesiad bydd angen i ddysgwyr: werthfawrogi cynnwys, themâu, plot a datblygiad cymeriad; adnabod a gwerthfawrogi technegau ffilm, a deialog; a datblygu sgiliau llafaredd.
Uned 3 Agweddau
Bydd dysgwyr yn paratoi dwy dasg, a gaiff eu hasesu’n fewnol, ar sail barddoniaeth. Bydd gofyn iddynt ysgrifennu traethawd sy’n cymharu tair cerdd o fewn thema benodol a bennir gan CBAC. Bydd hefyd gofyn i ddysgwyr baratoi cyflwyniad llafar unigol, drwy gyflwyno gwybodaeth am destun o fewn yr un thema.
Uned 4a/4b Cysylltiadau Ieithyddol
Bydd dysgwyr yn sefyll arholiad ysgrifenedig sy'n canolbwyntio ar sgiliau darllen, ysgrifennu a defnyddio iaith.
Uned 5 Ymateb a Chreu
Y dasg gyntaf o fewn yr uned hon yw trafodaeth grŵp ar sail deunyddiau ysgogi a ddarperir gan CBAC. Yma bydd dysgwyr yn datblygu eu sgiliau dadansoddi a thrafod. Bydd ail dasg yr uned hon yn gofyn i ddysgwyr gyflwyno gwaith creadigol ysgrifenedig a fydd wedi’i sbarduno gan ddeunydd ysgogi Tasg 1.
Uned 6 Cyfleu Ystyr
Arholiad ysgrifenedig yw’r uned hon ble bydd disgwyl i ddysgwyr ddadansoddi stori fer. Bydd dysgwyr wedi astudio tair stori fer o fewn eu gwersi, gan drafod un o’r straeon mewn arholiad. Bydd hefyd disgwyl iddynt gymharu’r stori hon gyda thestun arall.
Uned 1 – Arholiad ysgrifenedig (1 awr 30 munud) 30% o’r cymhwyster gradd unigol, 15% o’r cymhwyster dwyradd.
Uned 2 – Asesiad di-arholiad. Trafodaeth grŵp 15 munud o hyd 20% o’r cymhwyster gradd unigol, 10% o’r cymhwyster dwyradd.
Uned 3 – Asesiad di-arholiad. Tasg ysgrifenedig o dan amodau arholiad (2 awr 30 munud) a thasg lafar unigol (5 munud) 20% o’r cymhwyster gradd unigol, 10% o’r cymhwyster dwyradd.
Uned 4a – Arholiad ysgrifenedig (1 awr 30 munud) 30% o’r cymhwyster (unigol yn unig).
Uned 4b – Arholiad ysgrifenedig (2 awr) 22.5% o’r cymhwyster (dwyradd yn unig).
Uned 5 – Asesiad di-arholiad. Tasg 1 – trafodaeth grŵp (10 munud). Tasg 2 – Ysgrifennu creadigol (3 awr) 20% o’r cymhwyster (dwyradd yn unig).
Uned 6 – Arholiad ysgrifenedig (1 awr 30 munud) 22.5% o’r cymhwyster (dwyradd yn unig).
Miss Ffion Williams