🔗 Rhestr Cyrsiau
🔗 Rhestr Cyrsiau
Nid yw pob cyrchfan yr un peth, nid yw pawb yn teithio am yr un rhesymau. Sut mae cyrchfannau twristiaeth yn cael eu marchnata? Beth sy'n ddeunyddiau marchnata priodol? Beth am y cyfleoedd a tueddiadau cyflogaeth? Beth yw’r pwysau allanol i gyrchfannau? Sut gall diwydiannau ymateb i terfysgaeth ac afiechydon? Sut mae'r sectorau gwahanol yn ymateb i bygythiadau’r dyfodol?
Twristiaeth yw un o ddiwydiannau mwyaf y byd yn nhermau cyflogaeth a chyllid. Mae’r ddiwydiant yn hanfodol i economi Cymru gan gynhyrchu biliynau mewn Gwerth Gros Ychwanegol a chyfrannu’n economaidd tuag at sawl sector wahanol.
Pam fod rhai cyrchfannau twristiaeth yn fwy poblogaidd nag eraill? Ydy twristiaid busnes yn chwilio am rywbeth gwahanol i gyrchfan na thwrist hamdden? Ydy pob traeth yn apelio? Os nad oes gan gyrchfan orsaf reilffordd, a all fod yn boblogaidd o hyd? Pa mor bwysig yw llety i apêl cyrchfan? A all atyniad ddod â thwristiaid newydd i gyrchfan?
Asesir Dyfarniad Galwedigaethol Lefel 1/2 CBAC mewn Twristiaeth gan ddefnyddio cyfuniad o asesu mewnol ac allanol.
Asesir yr unedau canlynol yn fewnol;
Uned 1: Profiad y Cwsmer
Uned 3: Datblygu Cyrchfannau Twristiaeth y DU
Bydd Uned 2: Busnes Twristiaeth yn cael ei hasesu’n allanol (arholiad 75 munud)
Mr Jonathan Lewis