🔗 Rhestr Cyrsiau
🔗 Rhestr Cyrsiau
Mae Tecstilau yn bwnc creadigol a chyffrous sy’n annog disgyblion i chwilio am atebion creadigol drwy ddefnyddio deunyddiau a thechnegau’n ddeallus, yn ddychmygus ac yn arbrofol.Â
Mae Dylunio Tecstilau yn canolbwyntio ar greu dyluniadau a chynhyrchion gwreiddiol ar gyfer ffabrigau wedi’u gwehyddu, eu gwau, eu pwytho neu eu hargraffu, gan roi cyfle i ddisgyblion weld sut y gellir troi syniadau’n ganlyniadau go iawn.Â
Drwy’r cwrs, mae disgyblion yn datblygu dealltwriaeth gadarn o ffibrau, edafedd a ffabrigau, tra’n meithrin sgiliau ymarferol, hyder mewn dylunio, gwneud a datrys problemauÂ
Uned 1 -Portffolio
Mae’r uned hon yn cynnwys prif bortffolio ymarferol a chanlyniad(au) yn seiliedig ar themâu. Astudir gwaith gan arlunwyr, dylunwyr, diwylliant arbennig neu fudiad mewn hanes Celf. Bydd disgyblion yn dechrau creu eu portfolio ar ddechrau Blwyddyn 10 ac yn gwario pedwar tymor i’w gwblhau.Â
Uned 2 –Aseiniad wedi’i Osod yn Allanol
Mae’r uned hon yn seiliedig ar astudiaeth baratoadol sy’n arwain at gyfnod gwaith dwys a manwl deg awr lle byddwch yn cynhyrchu ymateb i thema, symbyliadau gweledol neu friff ysgrifenedig a ddewiswyd. Mae’r arholiad yn gwbl ymarferol ei natur a does dim arholiad ysgrifenedig.
Uned 1: Portffolio 60% o'r cymhwyster.
Mae Uned 1 yn cael ei hasesu'n fewnol a'i safoni'n allanol.
Uned 2: Aseiniad wedi'i Osod yn Allanol. 40% o'r cymhwyster.
Mae Uned 2 yn cael ei hasesu'n fewnol a'i safoni'n allanol. Â
Mrs Hannah Owens
🔗 Rhestr Cyrsiau