๐ Rhestr Cyrsiau
๐ Rhestr Cyrsiau
Mae cymhwyster CBAC TGAU Technoleg Ddigidol yn ffordd wych o ymuno รข'r byd technoleg ddigidol, ehangu eich sgiliau a'ch gwybodaeth am y pwnc hwn rydym i gyd yn ei ddefnyddio.ย
Bydd yn eich helpu i ddod yn ddefnyddiwr annibynnol, hyderus a gwybodus o dechnolegau digidol ac yn cyflwyno cyfleoedd gyrfa cyffrous ar gyfer eich dyfodol.
Byddwch yn astudio cymysgedd o gynnwys damcaniaethol ac ymarferol, gan gynnwys systemau technoleg ddigidol, dadansoddi data, creu gwefannau ac ymgyrchoedd ar y cyfryngau cymdeithasol.ย
Datblygu eich sgiliau digidol Byddwch yn cael profiad ymarferol gydag offer a thechnolegau digidol safonol y diwydiant.
Datrys problemau
Dysgu sut i fynd i'r afael รข phroblemau yn y byd go iawn gan ddefnyddio atebion digidol.
Datblygu projectau go iawn
Gweithio ar brojectau cyffrous sy'n gadael i chi gymhwyso'ch sgiliau a'ch creadigrwydd.ย
Uned 1 - Y Byd Digidol (40%)
Arholiad ar-sgrin gydag amrywiaeth o fathau o gwestiynau.
Mae'r uned hon yn ymdrin ag agweddau damcaniaethol technoleg ddigidol i gefnogi eich gwaith ymarferol yn unedau 2 a 3. Byddwch yn dysgu am hanes, seiberddiogelwch, rheoli data, meddalwedd, caledwedd, meddalwedd rhaglenni, roboteg ac olion traed digidol.ย
Uned 2 - Arferion Digidol (40%)
Asesu drwy broject ymarferol gan ddefnyddio briff bywyd go iawn a fydd yn cael ei ryddhau ymlaen llaw.
Mae'r uned hon yn canolbwyntio arnoch chi yn defnyddio rhaglenni yn ymarferol. Byddwch yn gweithio ar brojectau gyda briff bywyd go iawn sy'n cynnwys dadansoddi data, creu asedau eich hun, creu animeiddiad a dylunio a chreu gwefannau.
Uned 3 - Cyfathrebu yn y Byd Digidol (20%)
Asesu drwy broject ymarferol gan ddefnyddio briff bywyd go iawn a fydd yn cael ei ryddhau ymlaen llaw.ย
Mae'r uned hon yn ymwneud รข marchnata digidol, creu asedau a defnyddio ac ymchwilio i amrywiaeth o lwyfannau cyfryngau cymdeithasol. Yn olaf, byddwch yn dylunio ac yn datblygu ymgyrch eich hun gan ddefnyddio briff bywyd go iawn ar gyfer llwyfan cyfryngau cymdeithasol o'ch dewis.ย
Uned 1 - Y Byd Digidol (40%)
Arholiad ar sgrin, 90 munud.
Bydd dysgwyr yn sefyll yr arholiad ar sgrin ar ddiwedd blwyddyn 11.
Uned 2 - Arferion Digidol (40%)
Asesiad dan reolaeth, tua 45 awr.
Bydd dysgwyr yn cyflawni'r asesiad o fewn y gwersi.
Uned 3 - Cyfathrebu yn y Byd Digidol (20%)
Asesiad dan reolaeth, tua 15 awr
Bydd dysgwyr yn cyflawni'r asesiad o fewn y gwersi.
Mrs Julie Fletcher
๐ Rhestr Cyrsiau