🔗 Rhestr Cyrsiau
🔗 Rhestr Cyrsiau
Beth yw Gwerth Astudio Hanes?
Datblygu sgiliau addysgiadol megis darllen a deall, dadansoddi, distyllu ac allosod.
Cyflwyno myfyrwyr i syniadau pwysig megis newid a pharhâd ac achos a chanlyniad.
Deall bod gwahanol ddehongliadau mewn hanes.
Hanfodol i ddeall y byd rydym yn byw ynddo.
Esbonio sut mae ein hardal wedi datblygu.
Ein helpu i fod yn well dinasyddion.
Mae yna bedair Uned i’r cwrs TGAU:
Uned 1 - Cymru yng nghyfnod y Rhyfel Cartref, 1603 – tua 1660
Byddwch yn dysgu am Gymru yng nghyfnod y Rhyfel Cartref rhwng 1603 a thua 1660, gan gynnwys teyrnasiad Iago I, y ffactorau a arweiniodd at y Rhyfel Cartref, pwysigrwydd Cymru yn y gwrthdaro, effaith y rhyfel ar Gymru, a’r cyfnod o’r Weriniaeth hyd at yr Adferiad.
Uned 2 – Y Pla Du tua 1330 – tua 1360: Astudiaeth Achos ar Gymdeithas yn yr Oesoedd Canol
Ar gyfer yr asesiad di-arholiad, bydd dysgwyr yn cynnal ymholiad hanesyddol, gan gynnig ymateb â ffocws ar Y Pla Du. Bydd dysgwyr yn cwblhau’r asesiad yn ddigidol drwy lwyfan e-asesu CBAC.
Uned 3 – Newidiadau yng nghymdeithas yr Unol Daleithiau, tua 1880 – tua 1980
Byddwch yn dysgu am yr UDA rhwng 1880 a 1980 gyda themâu megis Hil a mewnfudo, Y ‘20au gwyllt, hawliau sifil a ffeministiaeth.
Uned 4 – Asesiad Di-arholiad: Cymdeithas sy’n newid
Gweithio fel hanesydd: byddwch yn gwerthuso amrywiaeth o ffynonellau ar destun penodol.
Uned 1 – Arholiad 1 awr (30%)
Uned 2 – Asesiad Di-arholiad (20%)
Uned 3 – Arholiad 1 awr (30%)
Uned 4 – Asesiad Di-arholiad (20%)
Miss Anna Matthews
🔗 Rhestr Cyrsiau