🔗 Rhestr Cyrsiau
🔗 Rhestr Cyrsiau
Prif pwrpas y cymhwyster yw caniatà u dysgwyr i ddatblygu sgiliau gwallt a harddwch, technegau a gwybodaeth i’w paratoi am astudiaethau galwedigaethol bellach. Paratoir dysgwyr yn uniongyrchol ym mhob uned ar gyfer astuiaethau bellach yn y sector harddwch. Cynlluniwyd y cwrs fel sylfaen i weithio yn y sector Gwallt a Harddwch. Datblygir gwybodaeth o’r sector gwallt a harddwch i ganiatà u dilyniant i Trin Gwallt neu therapi harddwch. Bydd disgyblion yn teithio i ganolfan hamdden yng Nghaerfyrddin a nol i’r ysgol a chaiff y cwrs ei gyflwyno un prynhawn yr wythnos dros gyfnod o ddwy flynedd gan staff Coleg Sir Gâr.
Nodir mai uchafswm o 36 lle ar y cwrs. Fe fydd yr ysgol yn ystyried ymdrech, ymroddiad a phresenoldeb dysgwyr os oes fwy o ddiddordeb yn y cwrs na'r niferoedd a chaniateir.
Mae’r cwrs yn cynnwys unedau celf ewinedd sylfaenol, gofal croen sylfaenol, sychu a pharatoi gwallt sylfaenol, golchi a thrin gwallt, platio a throelli gwallt sylfaenol, triniaeth dwylo, gweithio gyda’r diwydiannau gwallt a harddwch a lliwio gwallt gan ddefnyddio lliwiau dros dro. Bydd rhaid i fyfyrwyr gwblhau amrywiaeth o asesiadau ymarferol ynghÅ·d ag aseiniadau ym mhob uned.Â
Nid oes unrhyw arholiadau ynghlwm a'r cymhwyster yma. Bydd y gwaith yn cael ei asesu trwy asesiadau ymarferol a gwaith portffolio'r dysgwyr trwy gydol y cwrs.
Mr Adam Powell
🔗 Rhestr Cyrsiau