🔗 Rhestr Cyrsiau
🔗 Rhestr Cyrsiau
Ffrangeg a Sbaeneg yw rhai o ieithoedd pwysicaf y byd gyda dros 500 miliwn o bobl yn ei siarad fel mamiaith gyda dros 250 miliwn o bobl yn ei dysgu. Â
Golyga hyn taw Ffrangeg yw pumed iaith fwyaf y byd yn ôl nifer o siaradwyr. Mae’n iaith swyddogol mewn 32 gwlad a llywodraethau gyda chynrychiolaeth ar bob cyfandir. Mae sawl sefydliad rhyngwladol megis FIFA, Y Pwyllgor Olympaidd a’r Cenhedloedd Unedig yn defnyddio Ffrangeg fel iaith swyddogol ac yn eu gwaith dydd i ddydd a dogfennaeth.
Sbaeneg yw ail iaith fwyaf y byd, ar ôl Mandarin, yn ôl nifer o siaradwyr brodorol. Mae’n iaith swyddogol ym 21 gwlad ac mae cymunedau hanesyddol ar bob cyfandir yn siarad yr iaith. Mae Sbaeneg hefyd yn iaith swyddogol mewn sawl sefydliad rhyngwladol megis FIFA, Y Cenhedloedd Unedig ac INTERPOL.
Yn Lloegr, mae Iaith Ryngwladol yn bwnc gorfodol TGAU ac yn ôl astudiaeth achos gan y Confederation of British Industry (CBI) mae Ieithoedd Rhyngwladol yn hanfodol ar gyfer ffyniant dyfodol Prydain.
Peidiwch â gadael i'ch CV fod heb y sgil hanfodol hon.
Er bod yr ieithoedd yn wahanol mae strwythur y cwrs o ran y sgiliau a datblygwyd a'r dulliau asesu union yr un peth yn y ddwy iaith.
Rhennir y cwrs mewn i dri phrif thema sef;
Iaith ar gyfer hamdden a llesiant
Iaith ar gyfer teithio
Iaith ar gyfer astudio a gweithio Â
Seilir pob arholiad/asesiad ar y tair thema eang hyn sy’n cael eu hastudio yn y gwersi. Mae CBAC yn rhoi rhestr geirfa ar gyfer y cwrs TGAU a dim ond yr eirfa yma bydd yn codi yn yr arholiadau.
Erbyn diwedd y cwrs, bydd dysgwyr yn medru mynegi ei hunain mewn nifer o wahanol sefyllfaoedd “byd go-iawn" fel archebu bwyd mewn siop goffi, esbonio pam eu bod nhw angen gweld doctor a bwcio tocynnau trên a llawer mwy.
Yn ychwanegol i hyn, bydd disgyblion yn astudio un darn o lenyddiaeth fel stori fer neu ffilm. Bydd angen i'r disgyblion ysgrifennu pwt bach 200 gair am y gwaith/themâu a chynhelir fel gwaith cwrs yn yr ysgol.
 Mi fydd y disgyblion yn gallu ymarfer y sgil bwysig iawn o gyfieithu i Gymraeg/Saesneg.
Mae pob asesiad ar ddiwedd blwyddyn 11 / All assessments are at the end of year 11
Uned 1: Siarad
7-10 munud
30% o’r cymhwyster
Uned 2: Darllen ac Ysgrifennu
1 awr
15% o’r cymhwyster
Uned 3: Gwrando
45 munud
20% o’r cymhwyster
Unit 4: Darllen ac Ysgrifennu
1 awr 30
35% o’r cymhwyster
Mr Sion Acciaioli
🔗 Rhestr Cyrsiau