🔗 Rhestr Cyrsiau
🔗 Rhestr Cyrsiau
Pam dewis TGAU Drama?Â
Byddwch chi’n datblygu ystod eang o sgiliau. Byddwch chi’n meithrin hyder ac yn cael hwyl. Byddwch chi’n dysgu i weithio fel rhan o dîm ac yn cydbwyso amrywiaeth o syniadau. Bydd gennych chi gymysgedd o waith ymarferol ac ysgrifenedig yn wahanol i unrhyw bwnc arall. Â
Mae’r cwrs Drama yn cynnig cyfleoedd i chi arbrofi gyda thechnegau ac arddulliau ymarferwyr gwahanol. Byddwch yn astudio un testun yn fanwl ac yn paratoi ymatebion o safbwynt actor, cyfarwyddwr a dylunydd. Fel rhan o’ch dysgu, byddech yn ymweld â’r theatr yn gyson er mwyn dadansoddi a gwerthfawrogi perfformiadau byw o genres gwahanol. Â
Bydd gwaith byrfyfyr yn rhan bwysig o’r cwrs er mwyn datblygu eich creadigrwydd fel aelod o grŵp ac fel unigolyn. Cewch gyfle i ddyfeisio darn o theatr eich hun, fel grŵp, felly mae cyfrannu syniadau creadigol eich hun i waith sgript yn hollbwysig. Yn ogystal, byddwch yn datblygu eich sgiliau perfformio drwy ddehongli rolau allan o ddramâu gwahanol. I lwyddo yn y pwnc, bydd angen cryn dipyn o hunan ddisgyblaeth fel perfformiwr, gwydnwch a’r gallu i gydweithio yn effeithiol ag eraill.Â
Uned 1: Dyfeisio Theatr (40%) Â (Aseswyd gan y ganolfan/Cymedrolwyd gan CBAC)
Gall dysgwyr ddewis naill ai perfformio neu ddylunio (golau, sain, gwisg, set a phropiau).
Bydd dysgwyr yn dewis UN ysgogiad a osodir gan CBAC i greu, mireinio a pherfformio darn o theatr eu hunain.
Fel rhan o’r asesiad, bydd dysgwyr yn cynhyrchu Log Adfyfyriol o'r broses. Gall dysgwyr weithio mewn grwpiau sy'n cynnwys rhwng dau a phump o actorion.
Uned 2: Perfformiad o Destun (30%) (Aseswyd gan arholwr ymweld)
Gall dysgwyr ddewis naill ai perfformio neu ddylunio.
Bydd dysgwyr yn dewis ddwy olygfa allan o ddrama, eu paratoi a’u perfformio i'r arholwr.
Uned 3: Dehongli Theatr Arholiad ar-sgrin (30%)Â (Aseswyd gan arholwr allanol)
Bydd dysgwyr yn ateb cwestiynau mewn ymateb i destun gosod ‘Cysgu’n Brysur’ a thestunau heb eu gweld o'r blaen.
Bydd angen i ddysgwyr cyfeirio at ddylanwadau perfformiadau byw yn eu hatebion.
Uned 1: Dyfeisio Theatr Asesiad ymarferol di-arholiad (40%)
Uned 2: Perfformiad o Destun Asesiad ymarferol di-arholiad (30%)
Uned 3: Dehongli Theatr (Arholiad ar-sgrin) 2 awr (30%)
70% Gwaith ymarferol/ADAÂ Â 30% Arholiad mis MaiÂ
Miss Angharad Rees-Jones
🔗 Rhestr Cyrsiau