PAM ASTUDIO TGAU CERDDORIAETH?
Bydd cymhwyster CBAC TGAU Cerddoriaeth yn eich cefnogi i:
ddatblygu sgiliau perfformio
ddatblygu sgiliau creadigol
ddeall ffurfiau, arddulliau a genres cerddorol
werthfawrogi sut i gyfathrebu’n gerddorol
archwilio cerddoriaeth a grëwyd ac a berfformir gan bobl eraill i helpu i ddatblygu eich doniau eich hun
adfyfyrio ar eich gwaith eich hunain, ei fireinio a’i werthuso
archwilio amrywiaeth, hunaniaeth a diwylliant
PA SGILIAU FYDDAF YN EU DATBLYGU?
Archwilio: byddwch yn cael y cyfle i archwilio amrywiol arddulliau a genres cerddorol sy’n gysylltiedig â gwahanol ddiwylliannau yng Nghymru a’r byd ac i ddeall sut cafodd y rhain eu creu i gynhyrchu’r bwriad arfaethedig. Byddwch yn gallu defnyddio’r syniadau hyn i greu a datblygu eich cerddoriaeth eich hun. Gallech hefyd gyfansoddi drwy archwilio syniadau wrth greu’n fyrfyfyr.
Ymateb ac adfyfyrio: byddwch yn gallu gwerthuso a mireinio eich gwaith drwy adfyfyrio a chael adborth gan eraill, i greu cynnyrch gorffenedig llwyddiannus.
Creu: byddwch yn creu cerddoriaeth wreiddiol eich hun mewn arddull o’ch dewis, a darn i fodloni briff a fydd wedi’i bennu gan CBAC gan ddefnyddio’r technegau rydych wedi’u harchwilio ac adfyfyrio arnynt.
BETH FYDDAF YN EI ASTUDIO?
Mae’r cymhwyster TGAU Cerddoriaeth yn seiliedig ar astudio a chymhwyso’r elfennau cerddoriaeth a restrir isod:
· Dynameg
· Ffurf ac adeiledd
· Harmoni
· Alaw a thraw
· Technegau perfformio/cynaniad
· Soniaredd ac ansawdd
· Tempo, rhythm a mesur
· Gwead
· Cyweiredd
SUT BYDDAF YN CAEL FY ASESU?
Uned 1- Perfformio. Asesiad di-arholiad. 32.5% o’r cymhwyster. O leiaf 2 ddarn, 4-6 munud. Unawd a/neu ensemble. Byddwch yn dewis darnau yr hoffech eu perfformio, yn unigol neu fel rhan o ensemble.
Uned 2 – Cyfansoddi. Asesiad di-arholiad. 32.5% o’r cymhwyster. 2 gyfansoddiad, cyfanswm o 3-6 munud.
Byddwch yn cyfansoddi eich cerddoriaeth eich hun mewn arddull a ddewiswch, un i friff a osodir ac un i’ch briff eich hunain. Byddwch hefyd yn cyflwyno log adfyfyriol wedi’i asesu.
Uned 3 – Gwerthuso. Arholiad digidol (1awr 30 munud). 35% o’r cymhwyster.
Bydd cwestiynau’r arholiad yn seiliedig ar ddarnau o gerddoriaeth y byddwch yn gallu gwrando arnynt, a bydd disgwyl i chi wybod a deall yr elfennau cerddoriaeth a sut maent yn cael eu defnyddio. Byddwch yn astudio 2 ddarn o waith gosod yn fanwl.
Mr Christopher Davies