🔗 Rhestr Cyrsiau
🔗 Rhestr Cyrsiau
PAM ASTUDIO TGAU CELF A DYLUNIO?
Mae Astudio Celf a Dylunio yn darparu mynediad i amrywiaeth ddigynsail o arbenigeddau a sgiliau.
Ceisio datrysiadau creadigol drwy ddefnyddio deunyddiau a thechnegau yn ddeallus, â dychymyg ac yn arbrofol;
Datblygu eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth o sut mae celf a dylunio yn gweithredu ac yn cael ei werthfawrogi mewn diwylliannau amrywiol ac yn ystod gwahanol gyfnodau;
Datblygu ymdeimlad o ymholi, y gallu i gymryd risgiau ymarferol a deallusol, i wneud penderfyniadau ystyriol;
Gwneud dyfarniadau ansoddol esthetig a diwylliannol;
Mynegi eich rhesymau dros ddewis;
Ymgysylltu â chelf a dylunio yn y byd cyhoeddus.
PA SGILIAU FYDDAF YN EU DATBLYGU?
Byddwch yn dysgu defnyddio ystod eang o gyfryngau, technegau, offer a phrosesau yn dibynnu ar ba lwybr a ddewiswch. Byddwch yn datblygu’r sgiliau i greu arteffactau - boed hynny’n peintio, dylunio ffasiwn, cerameg neu gwaith 3D. Byddwch yn dysgu sut i ddatblygu prosesau creadigol a dulliau gweithio i ddatblygu'r canlyniadau gweledol o'ch dewis. Byddwch hefyd yn dysgu ac yn deall am weithio'n annibynnol i ddatblygu eich syniadau eich hun. Trwy hyn i gyd, byddwch yn dod yn ymwybodol o gynaliadwyedd mewn celf a dylunio yn ogystal â dealltwriaeth ddyfnach o ddiwylliant a hunaniaeth.
Uned 1 -Portffolio
Mae’r uned hon yn cynnwys prif bortffolio ymarferol a chanlyniad(au) yn seiliedig ar themâu. Astudir gwaith gan arlunwyr, dylunwyr, diwylliant arbennig neu fudiad mewn hanes Celf. Bydd disgyblion yn dechrau creu eu portfolio ar ddechrau Blwyddyn 10 ac yn gwario pedwar tymor i’w gwblhau. Bydd modd mynychu’r Clwb Celf allgyrsiol wythnosol yn yr Adran Gelf a chael cyfle i fynychu gweithgareddau gan grefftwyr ac artistiaid preswyl naill ai yn yr Ysgol neu tu allan.
Uned 2 –Aseiniad wedi’i Osod yn Allanol
Mae’r uned hon yn seiliedig ar astudiaeth baratoadol sy’n arwain at gyfnod gwaith dwys a manwl deg awr lle byddwch yn cynhyrchu ymateb i thema, symbyliadau gweledol neu friff ysgrifenedig a ddewiswyd. Mae’r arholiad yn gwbl ymarferol ei natur a does dim arholiad ysgrifenedig.
Uned 1: Portffolio 60% o'r cymhwyster.
Mae Uned 1 yn cael ei hasesu'n fewnol a'i safoni'n allanol.
Uned 2: Aseiniad wedi'i Osod yn Allanol. 40% o'r cymhwyster.
Mae Uned 2 yn cael ei hasesu'n fewnol a'i safoni'n allanol. Â
Mrs Elin.M.Davies / Mrs Hannah Sims
🔗 Rhestr Cyrsiau