🔗 Rhestr Cyrsiau
🔗 Rhestr Cyrsiau
Pam dewis TGAU Bwyd a Maeth?
 Mae TGAU Bwyd a Maeth CBAC yn rhoi'r wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r sgiliau sydd eu hangen arnoch chi i goginio a chymhwyso egwyddorion gwyddor bwyd, maeth a bwyta'n iach. Bydd yn eich annog i goginio amrywiaeth o seigiau a bydd yn rhoi'r wybodaeth a'r ddealltwriaeth ofynnol i chi er mwyn eich caniatáu i wneud penderfyniadau gwybodus am fwyd a maeth. Gyda'r wybodaeth rydych chi'n ei hennill byddwch yn gallu bwydo eich hun ac eraill yn fforddiadwy ac yn faethlon, nawr ac yn ddiweddarach mewn bywyd.
Drwy astudio bwyd a maeth, byddwch yn gallu:
Dangos sgiliau coginio effeithiol a diogel drwy gynllunio, paratoi a choginio amrywiaeth o nwyddau bwyd tra'n defnyddio technegau ac offer coginio gwahanol.
Datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o nodweddion gweithredol a phriodoleddau cemegol bwyd yn ogystal a gwybodaeth gadarn am gynnwys maethol bwyd a diodydd
Deall y berthynas rhwng deiet, maeth ac iechyd, yn cynnwys effeithiau corfforol a seicolegol deiet ac iechyd gwael.
Deall effeithiau economaidd, amgylcheddol, moesegol a chymdeithasol-ddiwylliannol argaeledd bwyd, prosesau cynhyrchu, deiet a dewisiadau iechyd.
Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth o nodweddion gweithredol a maethol, rhinweddau synhwyraidd ac ystyriaethau diogelwch bwyd microbiolegol wrth baratoi, prosesu, storio, coginio a gweini bwyd.
Deall ac archwilio amrywiaeth o gynhwysion a phrosesau o wahanol draddodiadau coginio (y traddodiadol Gymreig, Prydeinig a'r rhyngwladol) er mwyn ysbrydoli syniadau newydd neu addasu ryseitiau sy'n bodoli
Byddwch yn astudio:
1. Â Â Â Â Grwpiau cynwyddau bwyd:
bwydydd carbohydrad
bwydydd llaeth a dewisiadau eraill
brasterau ac olewau
ffrwythau a llysiau
bwydydd protein, gan gynnwys wyau, pysgod, cig a dewisiadau eraill seiliedig ar blanhigion. Â
2. Â Â Â Â Maetholion ar gyfer deiet cytbwys:
Macrofaetholion
Microfaetholion
Deiet cytbwys Â
3. Â Â Â Â Deiet ac iechyd:
Sut mae anghenion maeth yn newid dros gamau bywyd
Anghenion deietegol a diffygion maeth
Ffactorau eraill sy'n effeithio ar ddewisiadau bwydÂ
4. Â Â Â Â Coginio bwyd:
Pam rydym yn coginio bwyd
Dulliau trosglwyddo gwres
Dulliau coginio
5. Â Â Â Â Dirywiad bwyd:
Storio a rheoli tymheredd
Hylendid a diogelwch • Cadwoli
Gwenwyn bwyd
6. Â Â Â Â O'r fferm i'r fforc:
Tarddiad bwyd
Bwyd a’r amgylchedd
Prosesu bwyd cynradd ac eilaiddÂ
Uned 1: Egwyddorion Bwyd a Maeth: Â Arholiad digidol ysgrifenedig, 1 awr 30 munud (40% o'r cymhwyster)
Uned 2:Â Ymchwiliad Bwyd:Â Asesiad di-arholiad:Â tasg 8 awr (20% o'r cymhwyster)
Bydd hwn yn cynnwys gwaith arbrofol ymarferol ac ysgrifenedig yn seiliedig ar nwydd bwyd penodol
Uned 3: Bwyd a Maeth ar Waith: Asesiad di-arholiad: tasg 12 awr (40% o'r cymhwyster)Â
Bydd yn cynnwys gwaith ymchwil i ymateb i friff penodol ynghyd a chynllunio, paratoi, coginio (1 x sesiwn 3 awr) a chyflwyno tair saig i greu bwydlen.
Mrs Rhian Ruddall
🔗 Rhestr Cyrsiau