🔗 Rhestr Cyrsiau
🔗 Rhestr Cyrsiau
CBAC Lefel 1/2 Dyfarniad Galwedigaethol mewn Busnes Adwerthu (Dyfarniad Technegol)
Amcan y cwrs yw galluogi myfyrwyr i feithrin dealltwriaeth o’r byd gwaith. Mae’r cwrs yn rhoi’r gwybodaeth a’r sgiliau ymarferol er mwyn cyflawni swydd gweinyddol o fewn nifer o fusnesau, diwydiannau a chyfundrefnau amrywiol.
Uned 1
Mae Uned 1 yn cyflwyno dysgwyr i fusnes yr adwerthu ac yn rhoi cyfle iddynt archwilio natur ddynamig a chystadleuol y diwydiant adwerthu. Byddant yn meithrin gwybodaeth a dealltwriaeth o fathau gwahanol o fusnes adwerthu a gweithgaredd adwerthu, yn ogystal ag effaith ffactorau allanol ar y diwydiant.
Uned 2
Mae Uned 2 yn galluogi dysgwyr i ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o egwyddorion gwasanaeth i gwsmeriaid ar gyfer busnes adwerthu, ac yn rhoi cyfle i ddysgwyr ddatblygu sgiliau wrth ymchwilio i’r profiad gwasanaeth i gwsmeriaid ar draws sefydliadau adwerthu.
Uned 3
Mae Uned 3 yn rhoi cyfle i ddysgwyr ddatblygu eu dealltwriaeth o bwysigrwydd marsiandïo a marchnata cynhyrchion adwerthu, a sut mae busnesau adwerthu yn defnyddio marsiandïo a marchnata i gyflawni eu nodau. Bydd dysgwyr hefyd yn cymhwyso eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth i ddatblygu sgiliau wrth ddylunio gosodiadau marsiandïaeth weledol a deunyddiau hyrwyddo sy’n cyflawni nodau penodol.
Uned 1 – Busnes yr adwerthu – Arholiad Allanol (40%)
Uned 2 – Gwasanaeth i gwsmeriaid ar gyfer busnes adwerthu – Asesiad dan rheolaeth mewnol (30%)
Uned 3 – Marsiandïo a marchnata cynhyrchion adwerthu – Asesiad dan rheolaeth mewnol (30%)
Mr Matthew Gower
🔗 Rhestr Cyrsiau