๐ Rhestr Cyrsiau
๐ Rhestr Cyrsiau
Pam astudio Astudiaethau Crefyddol?ย
Oherwydd ei fod yn berthnasol, a bydd bob amser yn berthnasol. Mae'r mwyafrif o boblogaeth y byd yn grefyddol; Mae TGAU Astudiaethau Crefyddol yn eich helpu chi i ddeall rhai o'r credoau a'r dysgeidiaethau sy'n greiddiol i fywydau pobl. Byddwch chi hefyd yn dysgu am agweddau a safbwyntiau anghrefyddol gan fod hyn yn gynyddol berthnasol yn y byd modern. Nid oes diwrnod yn mynd heibio lle nad oes cyfeiriad at grefydd neu destun moesegol ar y newyddion, felly drwy ddewis TGAU Astudiaethau Crefyddol, byddwch chi'n fwy gwybodus am y materion pwysig hyn!
Mae TGAU Astudiaethau Crefyddol yn cynnwys pedair uned. Bydd dwy ohonyn nhw'n cael eu harholi gan asesiad di-arholiad.
UNED 1 - Credoau, crefyddol ac anghrefyddol - yn yr uned hon, byddwch chi'n dysgu'n gyntaf am natur cred (beth yw cred a pham mae pobl yn dewis bod yn grefyddol neu'n anghrefyddol) ac yna byddwch chi'n mynd ymlaen i edrych ar amrywiaeth o credoau, allweddol yn ymwneud a safbwyntiau crefyddol ac anghrefyddol, gan gynnwys credoau am fywyd a marwolaeth, hunaniaeth, ymdeimlad o berthyn, moesoldeb a rhoi credoau ar waith. Byddwch chi'n dysgu'r cynnwys hwn o safbwynt Cristnogaeth Islam ac o safbwyntiau anghrefyddol.
UNED 2 - Crefydd a pherthnasoedd - Mae Uned 2 yn asesiad di-arholiad sy'n golygu y byddwch chi'n dysgu am berthnasoedd ac yna'n cynnal ymchwiliad i destun sy'n ymwneud a hwn, gan archwilio safbwyntiau crefyddol ac anghrefyddol.
UNED 3 - Rolau, hawliau a chyfrifoldebau - Archwilio themau crefyddol allweddol, gan gynnwys stiwardiaeth, hawliau anifeiliaid, rhyddid mynegiant crefyddol, defnyddio cyfoeth personol, a'r testunau moeseg meddygol o ran erthylu ac ewthanasia. Byddwch chi'n dysgu'r rhain o safbwynt Cristnogol, Islam yn ogystal ag edrych ar safbwyntiau anghrefyddol.
UNED 4 - Crefydd ac hawliau dynol - Asesiad di-arholiad arall. Yn gyntaf, byddwch chi'n dysgu am rai credoau, dysgeidiaethau, arferion a safbwyntiau sy'n ymwneud a hawliau dynol ac yna byddwch chi'n cwblhau asesiad di-arholiad sy'n archwilio gwaith elusennau a sefydliadau sy'n ymgyrchu dros hawliau dynol.
Uned 1 - Arholiad 75ย -munud, 60 marc, 30% o'r cymhwyster
Uned 2 - Asesiad di - arholiad, 6 awr, 20% o'r cymhwyster
Uned 3 - Arholiad 75 - munud, 60 marc, 30% o'r cymhwyster
Uned 4 - Asesiad di - arholiad, 6 awr, 20% o'r cymhwyster
Mrs Llinos Jones
๐ Rhestr Cyrsiau