🔗 Rhestr Cyrsiau
🔗 Rhestr Cyrsiau
Mae’r cymhwyster yn addas ar gyfer dysgwyr sydd am ddatblygu ymwybyddiaeth ym meysydd adeiladwaith. Bydd cyfle ymchwilio i fasnachau Bricio a Phlastro. Mae’n gyfle i gyflwyno sgiliau ymarferol sylfaenol ynghŷd â dealltwriaeth theori hanfodol i weithio’n ddiogel, cynllunio prosiectau adeiladwaith sylfaenol ac i gwblhau gwaith i safon disgwyliedig y diwydiant Adeiladwaith. Bydd disgyblion yn teithio i ysgol Bryngwyn i'r ganolfan adeiladwaith ar gyfer gwersi ymarferol ar bob bore dydd Llun.
Nodir mai uchafswm o 36 lle ar y cwrs. Fe fydd yr ysgol yn ystyried ymdrech, ymroddiad a phresenoldeb dysgwyr os oes fwy o ddiddordeb yn y cwrs na'r niferoedd a chaniateir.
Datbygir dealltwriaeth myfyrwyr sut i gydymffurfio â gofynion cyfreithiol Iechyd a Diogelwch gweithio yn y sector Adeiladwaith.Â
Datblygir gwybodaeth a dealltwriaeth sut i gynllunio i leihau risg Iechyd a Diogelwch personol ac eraill yn Adeiladwaith.
Bydd disgyblion yn dysgu sut i ddehongli gwybodaeth technegol i gynllunio ac adolygu adnewyddu adeiladau.Â
Defnyddir sgiliau ymarferol addas mewn disgyblaethau masnachau i gwblhau tasgau adnewyddu i safon disgwyliedig.
Datblygir ymhellach wybodaeth a dealltwriaeth i gynllunio prosiect sylfaenol yr amgylchedd adeiladedig yn llwyddiannus.Â
Bydd y gwaith yn cael ei asesu trwy asesiadau ymarferol a gwaith portffolio'r dysgwyr trwy gydol y cwrs. Fe fydd hyn yn cyfri at 75% o'r cwrs. Fe fydd 1 arholiad ar ddiwedd blwyddyn 10 gwerth 25%.
Mr Adam Powell
🔗 Rhestr Cyrsiau