Cam 1
Monitro a Gwerthuso
(gwaelodlin)
Cam 1
Monitro a Gwerthuso
(gwaelodlin)
Mae’n hanfodol bwysig eich bod chi'n adnabod pwrpas eich gweithgareddau monitro, adolygu a gwerthuso drwy ddewis ffocws / trywydd ymholi benodol.
Bydd hyn yn sicrhau ffocws miniog gan osgoi proses sy'n rhy benagored.
Dewis ffocws / trywydd ymholi
Wrth fonitro a gwerthuso Mathemateg a Rhifedd, ystyriwch y canlynol:
Dilyniant, hyblygrwydd, effeithlonrwydd a chywirdeb mewn dulliau cyfrifo
Datrys problemau a rhesymu
Rhifedd ar draws y cwricwlwm
Y pum hyfedredd
Dulliau monitro posibl
Er mwyn adnabod gwaelodlin, dewiswch y dull(iau) monitro fwyaf pwrpasol ar gyfer casglu tystiolaeth parthed y dysgu a'r addysgu o fewn ffocws/trywydd ymholi penodol. Byddwch yn monitro naill ai ar draws yr ysgol, dosbarthiadau neu grwpiau penodol.
Mae pob dull monitro (gweler y teils isod) yn cynnig cwestiynau procio ac adnoddau perthnasol i'ch cefnogi chi fel arweinydd/cydlynydd yn y broses hunanwerthuso a gwella.
Wrth graffu'r dysgu (llyfrau, tystiolaeth digidol, ayb), cynnal teithiau dysgu a/neu sgyrsiau cynnydd, defnyddiwch y daflen gofnodi er mwyn crynhoi Pa mor dda ydyn ni'n gwneud?, Sut ydyn ni'n gwybod? a Sut allwn ni wella?
Ar ôl i chi fonitro'r ffocws/trywydd ymholi, ewch ati i goladu a chrynhoi'r wybodaeth o'r dysgu ac addysgu mewn adroddiad cryno a gonest sy'n:
Cyfeirio'n fanwl at y ffocws/trywydd ymholi
Cyfeirio at y dystiolaeth a welwyd sydd wedi arwain at ganfyddiadau
Nodi’r cryfderau
Nodi’r meysydd i'w datblygu
Gosodwch y camau gweithredu i ddatblygu’r ffocws/trywydd ymholi ymhellach.
Mae'n bwysig ysgrifennu'n arfarnol i fynegi eich canfyddiadau'n glir, e.e. cynnydd gwan/cryf/arwyddocaol er mwyn sicrhau bod y cryfderau a'r meysydd i'w datblygu'n gwbl glir i bawb.
Cliciwch yma am dempled cofnodi canfyddiadau.
Amrediad o eirfa arfarnol ar gael wrth lunio adroddiadau cynnydd
Wrth adrodd ar safonau a/neu gynnydd, defnyddiwch iaith arfarnol wrth ysgrifennu am wahanol grwpiau / cohort o ddysgwyr, fel â ganlyn:
bron i gyd = gydag ychydig iawn o eithriadau
y rhan fwyaf = 90% neu fwy
llawer = 70% neu fwy
mwyafrif = dros 60%
hanner = 50%
tua hanner = yn agos i 50%
lleiafrif = o dan 40%
ychydig = o dan 20%
ychydig iawn = llai na 10%
Canllawiau ysgrifennu
Enghreifftiau / Modelu
Enghraifft 1:
Dyma enghraifft o ddarn o adroddiad ar gyfer adolygiad craffu llyfrau Gwyddoniaeth, yn canolbwyntio ar ansawdd y dysgu o fewn Rhifedd.
Enghraifft 2:
Dyma enghraifft o ddarn o adroddiad ar gyfer adolygiad craffu llyfrau Daearyddiaeth, yn canolbwyntio ar ansawdd y dysgu o fewn Rhifedd.
Dysgu (Safonau)
Mae llawer o ddisgyblion yn datblygu medrau rhif yn briodol ar draws yr ysgol. Mae’r disgyblion ieuengaf yn dechrau adnabod rhifau, ac yn defnyddio'u medrau rhifedd mewn cyd-destunau gwahanol, er enghraifft drwy gyfri coesau trychfilod a thrwy ganu caneuon rhif yn hyderus. Erbyn Blwyddyn 2, maent yn datblygu ystod dda o fedrau mathemateg ac yn gwneud cynnydd cadarn, er enghraifft wrth drafod a llunio cymesuredd pili pala ac wrth roi cyfarwyddiadau i ffrind ddarganfod y trychfil. Wrth i ddisgyblion symud drwy’r ysgol, maent yn adeiladu ar eu medrau yn fuddiol; er enghraifft, mae llawer ym Mlwyddyn 3 a 4 yn defnyddio eu medrau rhif wrth luosi a rhannu gyda 10 a 100. Erbyn Blwyddyn 6, mae llawer o ddisgyblion yn defnyddio eu medrau rhif i drefnu gwibdaith i Ben y Fan yn bwrpasol. Fodd bynnag, nid yw eu medrau rhifedd yn adeiladu’n systematig ar eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth flaenorol. O ganlyniad, nid yw lleiafrif y disgyblion yn datblygu eu medrau hyd eithaf eu gallu.
Profiadau Dysgu ac Addysgu
Mae staff wedi dechrau cynllunio’n fwriadus er mwyn bodloni gofynion y cwricwlwm newydd i Gymru. Mae’r newid yn y cynllunio ar draws yr ysgol wedi arwain at gynyddu ehangder y profiadau i ddisgyblion trwy roi ystyriaeth dda i’w barn a’u diddordebau. Mae’r dull cynllunio newydd wedi ehangu ar y cyfleoedd i ddisgyblion ddatblygu eu medrau a chymryd perchnogaeth dros eu dysgu. Er enghraifft, cânt gyfleoedd gwerthfawr ar ddechrau bob tymor i gyfrannu’n gadarnhaol at themâu ysgogol fel ‘Tir a Môr’ a ‘Trychfilod’ sy’n hybu chwilfrydedd ac ymgysylltiad disgyblion â’u dysgu yn llwyddiannus. Ar y cyfan, mae profiadau dysgu’n galluogi llawer o’r disgyblion i gaffael y medrau angenrheidiol mewn gwersi penodol. Fodd bynnag, nid yw athrawon bob tro’n darparu cyfleoedd bwriadus i’r disgyblion ddatblygu a chymhwyso eu medrau rhifedd ac ysgrifennu estynedig yn gyson ac adeiladol wrth symud drwy’r ysgol.
Dysgu (Safonau)
Mae llawer o ddisgyblion yn datblygu eu medrau rhif yn llwyddiannus yn y gwersi mathemateg a phynciau perthnasol eraill. Maent yn llunio graffiau’n gywir gyda phenawdau a llinell ffit orau. Pan gânt gyfle, mae’r disgyblion hyn yn dadansoddi graffiau yn synhwyrol, er enghraifft i ddarganfod y berthynas rhwng graddfa ffurfio hydoddyn wrth i hydoddiant oeri. Mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion mwy abl yn cyflawni eu gwaith rhif yn llwyddiannus heb fawr ddim camgymeriadau. Mae’r rhan fwyaf yn deall cysyniadau elfennol algebra ac mae mwyafrif y disgyblion yn aildrefnu fformiwlâu, cyfnewid unedau, amcangyfrif a thalgrynnu’n llwyddiannus. Llwydda llawer o ddisgyblion i gymhwyso eu medrau rhif i ddatrys problemau. Enghreifftiau penodol o hyn yw defnyddio graddfa i gyfrifo pellter rhwng gwahanol lefydd, cymhwyso theorem Pythagoras i gynorthwyo’r awyrlu i dargedu’n gywir a rhannu’r bil rhwng cwsmeriaid mewn caffi. Mae llawer o ddisgyblion yn defnyddio hafaliadau’n gywir. Nid yw ychydig o ddisgyblion yn ddigon sicr ynghylch sut i ymdrin â ffracsiynau nac i wneud cyfrifiadau sydd angen mwy nag un cam.
Profiadau Dysgu ac Addysgu
Mae cynllunio gofalus ar gyfer datblygu medrau o fewn y gwersi, ac yn fwy diweddar, yn ystod cyfnodau cofrestru. Caiff y profiadau hyn eu datblygu ymhellach mewn sesiynau ymyrraeth i grwpiau penodol o ddysgwyr. Mae’r cydlynwyr medrau llythrennedd a rhifedd yn cynnig arweiniad a chefnogaeth addas i arweinwyr canol ac athrawon drwy hyfforddiant a chyfarfodydd. Mae cyfleoedd cyson i ddisgyblion ymarfer eu medrau llafar, darllen ac ysgrifennu ac mae cyfleoedd tebyg i ddatblygu medrau rhifedd a digidol yn dechrau gwreiddio er nad ydynt bob amser yn cynnig lefel ddigonol o her y tu allan i’r adran mathemateg, gwyddoniaeth a TGCh.
Dysgu (Safonau)
Mae medrau rhifedd y rhan fwyaf o ddisgyblion yn datblygu’n dda yn y gwersi mathemateg a meysydd dysgu eraill. Mae llawer o ddisgyblion ym mlynyddoedd isaf yr ysgol yn dod yn fwy hyderus wrth greu ac adnabod patrymau sy’n ailadrodd, er enghraifft wrth osod offer mawr mewn grwpiau yn ôl eu lliwiau ac yna’n trefnu’r offer yn ôl patrwm lliw. Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn hyderus wrth ddewis yr offer cywir i fesur gwrthrychau. Maent yn darllen mesuriadau’n gywir gan ddefnyddio unedau safonol. Mae llawer o ddisgyblion yn defnyddio dulliau cyfrifo i gael cyfansymiau penodol ac mae ganddynt afael gadarn ar y cysylltiad rhwng adio a lluosi.
Mae llawer o ddisgyblion o oedran uwchradd yn cyfrifo’n gywir yn y pen gan ddefnyddio’r pedair rheol. Er enghraifft, yn eu gwersi technoleg, maent yn cyfrifo’r elw neu golled y bydd busnes yn ei wneud ar wahanol lefel o werthiant. Mae gan leiafrif o ddisgyblion fedrau rhif cryf iawn. Er enghraifft, maent yn gallu cyfrifo arffiniau isaf ac uchaf buanedd car rasio. Mae llawer yn datblygu eu medrau siâp a mesur yn dda. Maent yn gallu cyfrifo arwynebeddau a chyfeintiau amrywiaeth o siapiau. Mae medrau dadansoddi data datblygedig gan lawer o ddisgyblion. Maent yn cyfrifo mesurau ystadegol crynodol ac yn llunio graffiau cywir. Gallant ddefnyddio’u cyfartaleddau a’u graffiau i ddod i gasgliadau synhwyrol. Er enghraifft, mewn gwyddoniaeth, maent yn plotio graffiau cywir i ddangos effaith crynodiad siwgr ar y lefel mae burum yn codi.
Profiadau Dysgu ac Addysgu
Mae’r sylw a roddir i ddatblygu medrau’r disgyblion yn gyson dda. Trefna’r athrawon gyfleoedd bwrpasol i ddatblygu medrau llythrennedd, rhifedd a medrau meddwl y disgyblion.