Cam 1
Monitro a Gwerthuso
(gwaelodlin)
Cam 1
Monitro a Gwerthuso
(gwaelodlin)
Mae’n hanfodol bwysig eich bod chi'n adnabod pwrpas eich gweithgareddau monitro a gwerthuso drwy ddewis ffocws / trywydd ymholi benodol.
Bydd hyn yn sicrhau ffocws miniog gan osgoi proses sy'n rhy benagored.
Dewis ffocws / trywydd ymholi
Wrth fonitro a gwerthuso Llythrennedd, ystyriwch y canlynol:
Gwrando
Siarad
Darllen
Ysgrifennu
Trawsieithu
Dulliau monitro posibl
Er mwyn adnabod gwaelodlin, dewiswch y dull(iau) monitro fwyaf pwrpasol ar gyfer casglu tystiolaeth parthed y dysgu a'r addysgu o fewn ffocws/trywydd ymholi penodol. Byddwch yn monitro naill ai ar draws yr ysgol, dosbarthiadau neu grwpiau penodol.
Mae pob dull monitro (gweler y teils isod) yn cynnig cwestiynau procio ac adnoddau perthnasol i'ch cefnogi chi fel arweinydd/cydlynydd yn y broses hunanwerthuso a gwella.
Wrth graffu'r dysgu (llyfrau, tystiolaeth digidol, ayb), cynnal teithiau dysgu a/neu sgyrsiau cynnydd, defnyddiwch y daflen gofnodi er mwyn crynhoi Pa mor dda ydyn ni'n gwneud?, Sut ydyn ni'n gwybod? a Sut allwn ni wella?
Ar ôl i chi fonitro'r ffocws/trywydd ymholi, ewch ati i goladu a chrynhoi'r wybodaeth o'r dysgu ac addysgu mewn adroddiad cryno a gonest sy'n:
Cyfeirio'n fanwl at y ffocws/trywydd ymholi
Cyfeirio at y dystiolaeth a welwyd sydd wedi arwain at ganfyddiadau
Nodi’r cryfderau
Nodi’r meysydd i'w datblygu
Gosodwch y camau gweithredu i ddatblygu’r ffocws/trywydd ymholi ymhellach.
Mae'n bwysig ysgrifennu'n arfarnol i fynegi eich canfyddiadau'n glir, e.e. cynnydd gwan/cryf/arwyddocaol er mwyn sicrhau bod y cryfderau a'r meysydd i'w datblygu'n gwbl glir i bawb.
Cliciwch yma am dempled cofnodi canfyddiadau.
Amrediad o eirfa arfarnol ar gael wrth lunio adroddiadau cynnydd
Wrth adrodd ar safonau a/neu gynnydd, defnyddiwch iaith arfarnol wrth ysgrifennu am wahanol grwpiau / cohort o ddysgwyr, fel â ganlyn:
bron i gyd = gydag ychydig iawn o eithriadau
y rhan fwyaf = 90% neu fwy
llawer = 70% neu fwy
mwyafrif = dros 60%
hanner = 50%
tua hanner = yn agos i 50%
lleiafrif = o dan 40%
ychydig = o dan 20%
ychydig iawn = llai na 10%
Canllawiau ysgrifennu
Enghreifftiau o adroddiadau Estyn
Mae'r enghreifftiau isod yn adroddiadau craffu'r dysgu sy'n canolbwyntio ar ansawdd y dysgu o fewn Llythrennedd. Sgroliwch drwy'r lluniau i weld pa nodweddion sydd angen cynnwys mewn adroddiad effeithiol:
Enghraifft 1 (Cynradd):
Enghraifft 2 (Uwchradd):
Dysgu (Safonau)
Ar draws yr ysgol, mae’r disgyblion yn ymfalchïo yn yr iaith Gymraeg, gyda’r rhan fwyaf yn cyfathrebu’n hyderus gan ddefnyddio geiriau cyfarwydd yn gywir. Maent yn siarad yn hyderus ac mae acen yr ardal i’w chlywed ar eu lleferydd. Mae’r disgyblion ieuengaf yn cyfathrebu’n hyderus yn y Gymraeg gan wrando’n astud ar gyfarwyddiadau staff a chyfraniadau ei gilydd. Maent yn frwdfrydig wrth sgwrsio, er enghraifft wrth gymharu ffrwythau sy’n tyfu ar draws y byd. Mae’r disgyblion ar frig yr ysgol yn defnyddio ystod addas o eirfa a phatrymau iaith mewn cyd-destunau diddorol, er enghraifft wrth gyfansoddi a pherfformio Cân Sianti Môr.
Mae medrau darllen y rhan fwyaf o ddisgyblion ar draws yr ysgol yn datblygu’n llwyddiannus. Mae’r disgyblion ieuengaf yn dod i adnabod ffurf a sain llythrennau o oedran cynnar ac yn mwynhau gwrando ar storïau, gan gymryd sylw da o’r lluniau. Erbyn Blwyddyn 3, mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn cymhwyso eu medrau darllen mewn cyd-destunau gwahanol ac yn darllen a deall testunau mwy heriol yn y ddwy iaith. Er enghraifft, maent yn darllen erthygl am antur mynyddwr lleol a deithiodd mewn balŵn dros Fynydd Everest. Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion ar frig yr ysgol yn darllen gyda mynegiant, gan ystyried cynulleidfa a’r gwrandawyr wrth ddarllen ar goedd.
Ar draws yr ysgol, mae medrau ysgrifennu disgyblion yn datblygu’n dda ac mae ystod eang o gyfleoedd i ysgrifennu i bwrpas. Mae llawer o’r disgyblion ieuengaf yn dechrau ysgrifennu’n annibynnol ac yn defnyddio banciau o eiriau, a fframweithiau, i’w helpu i ffurfio brawddegau. Ceir cyfleoedd buddiol i ddisgyblion ddefnyddio’u gwybodaeth am lythrennau a seiniau i ysgrifennu’n annibynnol a rhoi cynnig ar sillafu geiriau anghyfarwydd. Wrth iddynt symud drwy’r ysgol, mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn ysgrifennu’n bwrpasol ac mae ganddynt dealltwriaeth dda o dechnegau sy’n eu helpu i wella eu gwaith. Ar frig yr ysgol, maent yn defnyddio’u gwybodaeth am anifeiliaid ymfudol i ysgrifennu adroddiadau ffeithiol sy’n esbonio’r rhesymau dros y newidiadau daearyddol.
Profiadau Dysgu ac Addysgu
Mae staff wedi dechrau cynllunio’n fwriadus er mwyn bodloni gofynion y cwricwlwm newydd i Gymru. Mae’r newid yn y cynllunio ar draws yr ysgol wedi arwain at gynyddu ehangder y profiadau i ddisgyblion trwy roi ystyriaeth dda i’w barn a’u diddordebau. Mae’r dull cynllunio newydd wedi ehangu ar y cyfleoedd i ddisgyblion ddatblygu eu medrau a chymryd perchnogaeth dros eu dysgu. Er enghraifft, cânt gyfleoedd gwerthfawr ar ddechrau bob tymor i gyfrannu’n gadarnhaol at themâu ysgogol fel ‘Tir a Môr’ a ‘Trychfilod’ sy’n hybu chwilfrydedd ac ymgysylltiad disgyblion â’u dysgu yn llwyddiannus. Ar y cyfan, mae profiadau dysgu’n galluogi llawer o’r disgyblion i gaffael y medrau angenrheidiol mewn gwersi penodol. Fodd bynnag, nid yw athrawon bob tro’n darparu cyfleoedd bwriadus i’r disgyblion ddatblygu a chymhwyso eu medrau rhifedd ac ysgrifennu estynedig yn gyson ac adeiladol wrth symud drwy’r ysgol.
Siarad a Gwrando
Mae gan yr ysgol ystod o strategaethau gwerthfawr er mwyn datblygu medrau llythrennedd disgyblion ar draws y cwricwlwm. Mae effaith gadarnhaol y gwaith i gryfhau medrau llafaredd disgyblion i’w gweld yn amlwg. Mae llawer o ddisgyblion yn eiddgar i gyfrannu at drafodaethau dosbarth, gan roi ar waith y strategaethau mae Adroddiad ar Ysgol **********wedi eu dysgu er mwyn strwythuro’u hymatebion. Maent yn hyderus ar lafar ac yn mynegi’u hunain yn rhugl gan ddefnyddio cystrawen naturiol Gymreig. Mae’r mwyafrif ohonynt yn gwneud cyfraniadau synhwyrol, gan gynnig sylwadau aeddfed o fewn trafodaethau dosbarth. Er hyn, mae Saesneg yn britho ymatebion Cymraeg lleiafrif o ddisgyblion ac maent yn rhy barod i droi i Saesneg mewn trafodaethau pâr neu grŵp. Mae mwyafrif y disgyblion yn defnyddio terminoleg pwnc yn bwrpasol ac, yn gyffredinol, mae safon dda o gywirdeb pan maent yn siarad Ffrangeg a Sbaeneg. Mae ychydig o ddisgyblion yn cynnig ymatebion llafar ymestynnol sy’n dwysáu eu dealltwriaeth, fel pan maent yn trafod cymeriad Scrooge yn ‘A Christmas Carol’. Mae ychydig yn rhoi ymatebion cryno iawn sydd yn rhy arwynebol.
Darllen
Mae disgyblion yn elwa o ystod o gyfleoedd buddiol i ddatblygu’u medrau darllen ar draws y cwricwlwm, er bod tasgau darllen a deall yn sylfaenol iawn, gan ofyn am fedrau adalw yn unig, mewn ychydig o achosion. Pan mae cyfleoedd, mae llawer o’r disgyblion yn darllen ar goedd yn fedrus, gan amrywio mynegiant a goslef. Mae llawer ohonynt yn cywain gwybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau yn gymwys ac yn dechrau cyfuno gwybodaeth. Yn Ffrangeg, maent yn gallu defnyddio strategaethau’n llwyddiannus i ddehongli geirfa anghyfarwydd a heriol.Gall llawer o ddisgyblion ddehongli ystyr yn briodol, er enghraifft pan maent yn darllen rhwng y llinellau wrth ddarllen y gerdd ‘Bws Ysgol’. Mae mwyafrif y disgyblion yn adnabod a thrafod effaith technegau llenyddol yn briodol yn eu gwersi Cymraeg. Yn gyffredinol, fodd bynnag, nid yw disgyblion yn dadansoddi arddull ysgrifennu na defnyddio terminoleg lenyddol nac ieithyddol yn ddigon hyderus nac aml yn eu gwersi Saesneg.
Ysgrifennu
Mae’r ysgol wedi adnabod yr angen i gryfhau medrau ysgrifennu disgyblion fel blaenoriaeth. Mae amrywiaeth o gyfleoedd i ddisgyblion ddatblygu’u medrau ysgrifennu, gan gynnwys ysgrifennu estynedig, ar draws y cwricwlwm. Mae llawer o ddisgyblion yn strwythuro’u hymatebion ysgrifenedig yn briodol, ar y cyfan, gan ddefnyddio brawddegau a pharagraffau’n drefnus. Maent yn defnyddio terminoleg pwnc yn gywir ac mae eu geirfa’n addas. Pan gânt y cyfle, mae mwyafrif y disgyblion yn dangos medrau ysgrifennu cadarn mewn tasgau ysgrifennu estynedig, gan ysgrifennu’n gymwys mewn ystod o ffurfiau ac ar gyfer amrywiaeth o gynulleidfaoedd. Serch hyn, nid yw’r ysgol bob amser yn manteisio ar gyfleoedd naturiol i atgyfnerthu medrau ysgrifennu estynedig disgyblion nac yn darparu cyfleoedd digon cyson iddynt ymarfer y medrau hyn. Mae’r angen i wella cywirdeb ieithyddol disgyblion hefyd wedi cael ei adnabod fel blaenoriaeth gan yr ysgol. Mae staff wedi datblygu strategaethau ysgol gyfan fel ‘iaith ar waith’ a chod marcio llythrennedd er mwyn mynd i’r afael â hyn. Serch hyn, mae defnydd ac effeithiolrwydd y strategaethau hyn yn anghyson. Mae mwyafrif y disgyblion yn ysgrifennu’n gywir, at ei gilydd, ond, yn y Gymraeg a Saesneg, mae lleiafrif yn gwneud gwallau sillafu, treiglo a gramadegol cyffredin.
Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn y cyfnod cynradd yn galw dysgu blaenorol i gof yn dda. Er enghraifft, mae disgyblion ym Mlwyddyn 3 a 4 yn cyfeirio’n ôl at ffeithiau a ddysgwyd am ‘Y Llwyn’ i ysgrifennu sgript ar gyfer rhaglen ddogfen am yr adfeilion. Mae llawer o ddisgyblion oed uwchradd yn galw gwaith blaenorol i gof yn addas, tra mae’r mwyafrif ohonynt yn cymhwyso gwybodaeth flaenorol yn briodol i sefyllfaoedd newydd. Mewn ychydig o achosion, nid yw disgyblion yn gallu galw ffeithiau a gwybodaeth a gyflwynwyd yn ddiweddar i gof yn gadarn ac nid ydynt yn cymhwyso eu dysgu yn ddigon da. Mae gan lawer o ddisgyblion yn y dosbarthiadau dysgu sylfaen fedrau siarad a gwrando da ar gyfer eu cam datblygu. Maent yn trafod materion ag oedolion yn hyderus ac yn gallu esbonio’r tasgau maent yn eu cwblhau. Erbyn diwedd Blwyddyn 2, mae llawer o ddisgyblion yn siarad Cymraeg yn ddigymell ag oedolion, er enghraifft i wneud ceisiadau neu ddisgrifio newid yn y tywydd. Erbyn Blwyddyn 6, mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn siarad Cymraeg a Saesneg yn glir ac yn esbonio eu hunain yn dda. Mae ychydig o ddisgyblion yn dangos medrau siarad a gwrando cryf, er enghraifft wrth ddynwared galwad ffôn rhwng rhywun sy’n gwerthu tŷ a rhywun sy’n prynu tŷ. Mewn ychydig o sesiynau yn y cyfnod uwchradd, mae bron pob un o’r disgyblion yn gwrando’n astud ac yn ymateb yn briodol i’r athrawon a’u cyfoedion. Mae’r rhan fwyaf ohonynt yn sgwrsio am eu gwaith yn Saesneg ac yn gofyn cwestiynau perthnasol. Yn y sesiynau hyn, mae mwyafrif y disgyblion yn rhannu eu syniadau a’u safbwyntiau’n Adroddiad ar Ysgol Llanfyllin Mawrth 2024 4 frwdfrydig. Mae ychydig ohonynt yn rhoi ymatebion llafar difyr ac ystyriol gan ddefnyddio geirfa gymharol soffistigedig. Yn y ffrwd cyfrwng Cymraeg, mae ychydig o ddisgyblion yn siarad Cymraeg yn helaeth a heb anogaeth ac mae’r mwyafrif ohonynt yn siarad Cymraeg yn hyderus heb gael eu hannog gan yr athro. O oed cynnar, mae llawer o ddisgyblion yn datblygu dealltwriaeth addas o lythrennau a’r seiniau maent yn eu cynrychioli. Mae’r disgyblion ieuengaf yn mynd i’r afael â geiriau anghyfarwydd yn hyderus ac mae ganddynt ddealltwriaeth dda o’r strategaethau sydd eu hangen i ddeall eu hystyr. Wrth iddynt symud drwy’r cyfnod cynradd, mae llawer o ddisgyblion yn dangos rhuglder da wrth ddarllen; er enghraifft, maent yn darllen y cwestiynau parod ar gynnwys fideo am Ysgolion Fictoraidd a’r ‘Welsh Not’ yn hyderus. Mae lleiafrif o ddisgyblion yn darllen llyfrau heriol iawn y maent yn dewis eu hunain. Dangosant wydnwch wrth fynd i’r afael â geirfa anghyfarwydd ond, ar adegau, maent yn ansicr ynghylch ffyrdd o ddehongli ystyr. Mae llawer o ddisgyblion yn mwynhau darllen ac yn gallu siarad am eu llyfrau’n hyderus. Mae llawer o ddisgyblion yn y cyfnod uwchradd yn cipddarllen a llithrddarllen amrywiaeth o destunau’n llwyddiannus i ddod o hyd i wybodaeth berthnasol i ymateb i’r cwestiwn sy’n cael ei ofyn gan yr athro. Mae mwyafrif y disgyblion yn defnyddio rhesymu a chasglu mewn testunau mwyfwy heriol i gryfhau eu dealltwriaeth. Mae disgyblion mwy abl yn dehongli gwybodaeth ac yn dod i’w casgliadau eu hunain yn dda. Mae ychydig o ddisgyblion yn dangos ymwybyddiaeth ddatblygol o sut mae ysgrifenwyr, fel Maya Angelou, yn creu naws ac awyrgylch trwy ddefnyddio geirfa. Pan gânt y cyfle, mae ychydig o ddisgyblion yn darllen ar goedd yn hyderus i’w cyfoedion ac yn gwneud hynny ag eglurder, cywirdeb a rhuglder. Mae mwyafrif y disgyblion yn darllen barddoniaeth â dealltwriaeth gadarn, sy’n eu helpu i wneud cymariaethau ystyrlon, yn ôl y gofyn. Mae llawer ohonynt yn dadansoddi barddoniaeth Gymraeg yn effeithiol gan gyfeirio at effaith dyfeisiau llenyddol. Fodd bynnag, nid yw lleiafrif o ddisgyblion yn defnyddio ystod ddigonol o strategaethau darllen i gefnogi eu dysgu mewn pynciau gwahanol. Mae llawer o ddisgyblion yn datblygu eu medrau ysgrifennu’n briodol yn y cyfnod cynradd. Mae mwyafrif y disgyblion dysgu sylfaen yn datblygu llawysgrifen weddol ddarllenadwy ac, erbyn Blwyddyn 2, mae disgyblion yn dechrau ysgrifennu’n fwyfwy hyderus ac â chywirdeb priodol. Erbyn Blwyddyn 6, mae llawer ohonynt yn cymhwyso eu medrau ysgrifennu’n briodol yn Gymraeg a Saesneg, er enghraifft wrth gyflwyno gwybodaeth am famaliaid gwahanol. Yn y cyfnod uwchradd, mae llawer o ddisgyblion yn ysgrifennu mewn ystod briodol o ffurfiau ar draws y pynciau. Maent yn ysgrifennu darnau o destun ffeithiol sydd wedi’u strwythuro’n briodol ac yn defnyddio termau pwnc cywir, er enghraifft i esbonio nodweddion cell planhigyn. Mae gan lawer o ddisgyblion ddealltwriaeth glir o ddiben eu hysgrifennu, ond nid oes gan y lleiafrif ohonynt ymdeimlad cadarn o gynulleidfa. Yn aml, gwnânt ddewisiadau anghywir o ran iaith ac nid yw eu hysgrifennu yn cynnwys y naws gywir. Mae lleiafrif o ddisgyblion yn gwella elfennau o’u gwaith ysgrifenedig yn llwyddiannus ar ôl cael adborth gan athrawon. At ei gilydd, nid yw medrau ysgrifennu disgyblion yng nghyfnod allweddol 3 wedi’u datblygu’n ddigon da. Nid yw disgyblion yn prawfddarllen eu gwaith ysgrifenedig yn ddigon aml ac mae lleiafrif ohonynt yn parhau i wneud gwallau sylfaenol o ran sillafu a gramadeg.