Adnodd hunanadolygu dwyieithog sy'n eich galluogi i adolygu eich ysgol neu’ch lleoliad yn erbyn nifer o feini prawf gwahanol sy’n cefnogi’r daith dysgu proffesiynol digidol. Nid oes gorfodaeth ar ysgolion i’w gwblhau, ond mae’n ffordd effeithiol o helpu ysgolion a lleoliadau i werthuso pa mor dda y maent yn cynllunio dysgu digidol, ei roi ar waith a'i gynnal wrth iddynt barhau â'u taith dysgu ddigidol.
Mae'r adnodd rhyngweithiol hwn yn cynnwys pedair elfen i arweinwyr ysgol eu hystyried:
Arweinyddiaeth
Dysgu proffesiynol ac arloesi
Cwricwlwm, darpariaeth ac addysgeg
Technoleg addysg
Pa mor aml sydd angen diweddaru’r adnodd 360digiCymru?
Gan fod hwn yn offeryn gymharol newydd, efallai fyddai'n syniad i ffocysu ar gwblhau un elfen ar y tro. Bydd hyn yn rhoi cyfle i'r ysgol ffocysu ar yr elfen benodol a gosod cynllun ar waith i ddatblygu effeithiolrwydd yr elfen. Unwaith fydd y pedair elfen wedi eu cwblhau, gellid diweddaru'r adnodd 360digiCymru unwaith yn nhymor yr Hydref ac unwaith yn nhymor yr Haf.
Beth mae’r adnodd 360digiCymru yn ddangos?
Mae'r offeryn wedi’i rannu’n bedair elfen ac o fewn yr elfennau yma ceir dair agwedd ar hugain gwahanol. Mae pob agwedd yn cynnwys pedwar datganiad lefel – lefel 4 yw’r lefel cyflawniad isaf a lefel 1 yw’r lefel cyflawniad uchaf. Bydd ysgolion yn dewis y datganiad sy’n adlewyrchu eu sefyllfa bresennol nhw orau. Drwy hunanasesu yn erbyn pob agwedd, gallwch greu darlun o daith dysgu digidol eich ysgol.