Adnodd i ysgolion hunan adolygu diogelwch ar-lein yw 360safeCymru. Ei nod yw helpu ysgolion yng Nghymru i adolygu eu harferion a’u polisïau diogelwch ar-lein gan ddilyn llinyn mesur penodol. Nid oes gorfodaeth ar ysgolion i’w gwblhau, ond mae’n ffordd effeithiol o sicrhau eich bod yn talu sylw at faes pwysig ac eang.
Pa mor aml sydd angen diweddaru’r adnodd 360safeCymru?
Yn ddelfrydol, byddai diweddaru'r adnodd 360safeCymru unwaith yn nhymor yr Hydref ac unwaith yn nhymor yr Haf yn syniad da. Wrth wneud yr hunan adolygiad yn nhymor yr Hydref, gellid yna dewis elfen (neu fwy nag un elfen os ydych yn dymuno) oedd yn sgorio yn isel o ran yr adolygiad er mwyn ei ddatblygu fel ysgol yn ystod y flwyddyn. Ceir syniadau o’r math o weithgareddau allwch eu gwneud i ddatblygu yn yr adran ‘Argymhellion ar gyfer gwella’.
Beth mae’r adnodd 360safeCymru yn ddangos?
Wrth gwblhau'r 21 elfen wahanol sydd yn yr adolygiad, mae modd graddio eich ysgol ar raddfa pump lefel (lefel 1 yw’r sgôr uchaf a lefel 5 yw’r sgôr isaf). Mae’r elfennau yn amrywio o sut mae’r ysgol yn diogelu data i ba raglen o addysg Diogelwch ar-lein mae‘r ysgol yn cynnig i’w dysgwyr. Wedi cwblhau eich hunan adolygiad, mae graff radar yn cael ei gynhyrchu sy’n rhoi trosolwg o gyrhaeddiad yr ysgol o’i gymharu â'r lefel cenedlaethol ar gyfer bob elfen a’r safonau ar gyfer cyrraedd y Marc Diogelwch ar–lein (achrediad sydd rhaid talu amdano i’w gwblhau pe baech yn dymuno). Mae modd hefyd lawrlwytho adroddiad o gyrhaeddiad yr ysgol yn 360safeCymru fel PDF os ydych yn dymuno.
Mae’r portffolio hwn o dempledi Polisi Diogelwch Ar-lein ar gyfer ysgolion neu leoliad addysg yn ceisio helpu arweinwyr lunio Polisi Diogelwch Ar-lein addas sy’n ystyried yr holl faterion presennol a pherthnasol, mewn cyd-destun ysgol gyfan, a'u cysylltu â pholisïau perthnasol eraill, megis polisïau diogelu, ymddygiad a gwrth-fwlio yr ysgol.
Mae'r polisïau templed hyn yn awgrymu datganiadau polisi a fyddai, ym marn Llywodraeth Cymru, yn hanfodol mewn unrhyw Bolisi Diogelwch Ar-lein ysgol, yn seiliedig ar arfer da.
Rhaid teilwra'r Polisi Diogelwch Ar-lein ar gyfer eich ysgol a bydd y drafodaeth a'r ymgynghoriad sydd yn digwydd yn ystod ysgrifennu neu adolygu'r polisi yn rhan bwysig o'r broses. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod y polisi yn cael ei berchnogi a'i dderbyn gan gymuned gyfan yr ysgol.
Yn y templedi hyn, bydd adrannau sy’n cynnwys gwybodaeth neu arweiniad mewn testun GLAS. Rhagwelir y bydd ysgolion yn addasu neu’n dileu’r adrannau hyn o’u dogfen bolisi terfynol, ond penderfyniad i'r grŵp ysgol sy’n llunio’r polisi fydd hwn.
Cynghorir yn gryf bod adrannau sydd wedi’u fformatio mewn print TRWM yn cael eu cadw, gan y dylent fod yn rhan hanfodol o Bolisi Diogelwch Ar-lein yr ysgol.
Pan fo adrannau yn y templed wedi’u fformatio mewn italig rhagwelir y bydd ysgolion eisiau ystyried yn ofalus pa un ai i gynnwys neu hepgor yr adran neu’r datganiad hwnnw yn eu polisi terfynol.