Dyma rai cwestiynau y gellid eu holi i'r Arweinydd/Cydlynydd wrth ddatblygu Cymhwysedd Digidol ar draws yr ysgol, sydd wedi eu gosod o dan penawdau megis:
Gwerthuso a Gwella
Cynllunio
Cynnydd dysgwyr
Dysgu Proffesiynol
Heriau
Ffordd ymlaen
Arweiniad Atodol Estyn
Ceir cwestiynau addas i uwch arweinwyr ar dudalen 13 o'r ddogfen
Awdit/ Holiaduron Sgiliau Staff
Mae'n bwysig fod gan aelodau staff yn eich ysgol y sgiliau digidol, hyder a dealltwriaeth i fedru cyflwyno'r gwahanol elfennau sy'n rhan o'r Fframwaith Cymhwysedd Digidol. Un ffordd o geisio datblygu'r agwedd yma yw casglu gwybodaeth am sgiliau digidol presennol y staff yn gyntaf. Yna, blaenoriaethu pa sgiliau sydd angen eu datblygu'n gyntaf ac yn y dyfodol. Yna, gellid mynd ati i drefnu amserlen o hyfforddiant ar eu cyfer er mwyn diwallu'r anghenion cafodd eu hamlygu yn yr holiadur.
Dyma rhai enghreifftiau o holiaduron Microsoft Forms gallwch eu defnyddio neu eu haddasu ar gyfer casglu gwybodaeth gwaelodlin am sgiliau digidol eich staff. Ceir dwy enghraifft wahanol un i staff dysgu ac un i staff cynorthwyol i'w gwblhau. Gallwch wneud copi personol o'r holiaduron drwy glicio ar y ddolen ac yna dyblygu'r holiadur a'i haddasu os ydych yn dymuno. Mae'r holiaduron yn ddwyieithog ond i gwblhau'r holiadur yn y Gymraeg rhaid mynd i'r opsiynau iaith ar ran uchaf y sgrîn a dewis 'Cymraeg'.
Offer hunanwerthuso sydd ar Hwb
Ceir dau offeryn ar Hwb i helpu ysgolion i hunanwerthuso systemau diogelwch ar-lein ysgol, sef yr offeryn 360SafeCymru, a dysgu digidol yn gyffredinol, sef yr offeryn 360digiCymru. Cliciwch ar y botymau isod i ddarganfod mwy o wybodaeth am yr offer.