Cam 1
Monitro a Gwerthuso
(ailymweld)
Cam 1
Monitro a Gwerthuso
(ailymweld)
Cofnodi cynnydd ac effaith y gweithredu
Ar ôl gweithredu'r ffordd ymlaen/strategaeth, mae’n bwysig ailymweld drwy fonitro, gwerthuso ac adolygu effaith y gweithredu gan adrodd ar gynnydd.
Dylai'r adroddiad gyfeirio at gynnydd yn:
y dysgu (sef safonau’r dysgwyr)
ansawdd yr addysgu (sef y ddarpariaeth)
erbyn y camau gweithredu e.e. diwygio cynlluniau gwaith, datblygu systemau/trefniadau newydd, ayb.
Cwblhewch adolygiad o'r camau gweithredu a'u heffaith yn eich taflen gofnodi canfyddiadau.
Gweler yr adran 'Cofnodi canfyddiadau' (Cam 1) parthed ysgrifennu adroddiad effeithiol.
Rhannu arferion da
Mae adolygu'r ffordd ymlaen/strategaeth a gafodd ei weithredu yn gyfle da i ddathlu llwyddiannau.
Ystyriwch:
Beth weithiodd yn dda a pham?
Beth oedd yr heriau? Sut wnaethoch chi oresgyn yr heriau hynny?
Ydych chi'n meddwl y gallai ysgolion/ymarferwyr eraill elwa o'ch arferion chi? Beth am ysgrifennu astudiaeth achos?
Dyma dempled enghreifftiol ar gyfer ysgrifennu astudiaeth achos. Pe dymunwch, defnyddiwch trosglwyddwch y penawdau a'r wybodaeth i Adobe Express ar gyfer diwyg mwy proffesiynol. Cliciwch yma am fynediad i dempled posib.
Meysydd i'w datblygu
Ystyriwch pa gymorth pellach sy'n angenrheidiol arnoch chi fel arweinydd/cydlynydd ac ar gyfer eich cydweithwyr pe bai meysydd pellach i'w datblygu, e.e. dysgu proffesiynol, rhannu adnoddau, cyd-gynllunio, modelu, rhwydweithio, ayb.