Gweithredu Gwelliant
Y Sgiliau Trawsgwricwlaidd
Gweithredu Gwelliant
Y Sgiliau Trawsgwricwlaidd
Pam? Arweiniad er mwyn cefnogi'r broses hunanwerthuso ar gyfer y sgiliau trawsgwricwlaidd
Beth? Mae creu diwylliant o hunanwerthuso effeithiol o fewn ysgol/lleoliad yn hanfodol er mwyn galluogi dysgu a chynnydd dysgwyr
Pwy? Arweinwyr / Cydlynwyr
Dulliau monitro posibl
Er mwyn adnabod safon ac ansawdd y dysgu ac addysgu o fewn y sgiliau trawsgwricwlaidd ar draws eich ysgol/sefydliad, ceir amrywiol ddulliau monitro posibl y gellir eu defnyddio er mwyn dod i ddeall ‘Pa mor dda ydyn ni’n gwneud?’ , ‘Sut ydyn ni’n gwybod?’ a Sut allwn ni wella?.
Mae gan bob dull monitro ei fanteision, ac mae'n debyg y byddwch yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau dros y flwyddyn i ofalu bod gennych ddarlun cyflawn o'r meysydd fel y gwelir isod:
Beth?
Mae sawl ffordd o graffu'r dysgu, e.e. craffu'r llyfrau, gwaith digidol, cynllunio/cynlluniau gwaith ac arddangosfeydd, dros gyfnod o amser.
Mae modd canolbwyntio ar gohort, ystod oedran a/neu allu penodol. Mewn rhai achosion, byddwch yn craffu ochr yn ochr â'r dysgwyr.
Pam?... Cyfle i:
ganfod beth yw y darlun cyflawn o gynnydd y dysgwyr
gwirio agweddau penodol, e.e. safonau, gwahaniaethu, lefel yr her, rhifedd/llythrennedd/cymhwysedd digidol ar draws y cwricwlwm, adborth
gwirio dilyniant mewn sgiliau a gwybodaeth ar draws y continwwm
gweld ystod y profiadau dysgu ac addysgu
Beth?
Yn ystod taith ddysgu, byddwch yn teithio drwy wahanol ddosbarthiadau er mwyn gweld, cael blas a datblygu dealltwriaeth o safon y dysgu a'r addysgu sydd ar waith. Mae taith ddysgu’n cynnwys ymweliadau byr â phob dosbarth (tua 15-20 munud) sydd yn caniatáu mwy nag un ymweliad mewn gwers. Byddwch yn sgwrsio gyda dysgwyr er mwyn cael darlun llawn o'r broses ddysgu, yn ogystal â chanfod eu barn am y gwaith a'u hyder wrth fynd ati i'w gwblhau. Mae modd cynnal taith ddysgu drwy'r ysgol gyfan neu ganolbwyntio ar ystod oedran neu adrannau penodol.
Dylai fod ffocws penodol iawn i’r taith ddysgu, e.e. safonau’r dysgwyr yn eu sgiliau cyfrifo, darpariaeth darllen sy’n hybu sgiliau darllen dysgwyr, medrau llafar y dysgwyr i siarad yn gydweithredol, defnydd effeithiol o gwestiynu neu adborth i annog cynnydd dysgwyr yn eu medrau llythrennedd, rhyngweithio, ayb.
Dylid cytuno ar ffocws cyn cynnal taith ddysgu er mwyn i'r ymarferwyr sicrhau fod y maes hwnnw ar waith yn ystod y cyfnod.
Pam?... Cyfle i:
Fonitro a gwerthuso safon y dysgu a'r addysgu gan adnabod cryfderau a'r meysydd i'w datblygu
Sgwrsio â dysgwyr
Gweld os yw lefel yr her yn addas ac yn cynnig dilyniant ar draws yr ystod oedran dan sylw
Cael blas ar sut mae'r maes yn edrych ar draws yr ystod oedran / adrannau dan sylw
Adnabod arferion effeithiol i'w rhannu
Beth?
Byddwch yn cyfweld â thrawstoriad o ddysgwyr ar draws ystod o oedrannau.
Wrth gyfweld â hwy’n unigol neu fel grŵp, bydd cyfle i chi drafod dysgu/gwaith y dysgwyr gyda nhw yn unol â’r ffocws. Gall hyn fod yn fwy effeithiol os daw dysgwyr â'u llyfrau/tasgau digidol gyda nhw iddynt ddangos y dysgu/gwaith maent yn ei drafod. Gallwch drafod yr adborth y maent yn ei dderbyn a sut y mae hwn yn eu helpu i ddysgu ac i godi safon eu dysgu/gwaith.
Pam?... Cyfle i:
ddysgwyr egluro'u dysgu a’r hyn maent wedi ei gyflawni; a hynny drwy ddefnyddio terminoleg bynciol ac iaith dechnegol yn gywir
dysgu am farn y dysgwyr am y gwaith a’u hagweddau
drafod sut mae'r addysgu wedi arwain at gynnydd yn y safonau
drafod sut mae'r dysgwyr wedi datblygu’r sgiliau trawsgwricwlaidd mewn cyd-destun bywyd go iawn
Beth?
Fel arweinydd/cydlynydd sydd â chyfrifoldeb dros llythrennedd, rhifedd a/neu gymhwysedd digidol, mae'n bwysig eich bod yn derbyn cyfleoedd i gynnal sgyrsiau proffesiynol er mwyn siarad, trafod ac esbonio sut ydych yn hyrwyddo addysgu o ansawdd uchel, a gwneud defnydd effeithiol o adnoddau a safonau dysgu er mwyn galluogi cynnydd a chyflawniad gwell i bob dysgwr ar draws yr ysgol. Os yn berthasol, bydd paratoi a chynnal awdit a holiaduron hefyd yn rhan o'ch rôl (mwy o fanylion yn y tab isod).
Pam?... Cyfle:
i'r arweinydd/cydlynydd esbonio beth yw ei rôl strategol o fewn y tri cham o weithredu gwelliant (monitro a gwerthuso, cynllunio a gweithredu).
i ganfod effeithiolrwydd rôl yr arweinydd/cydlynydd, e.e. gwneud defnydd effeithiol a phwrpasol o ganfyddiadau gweithgareddau monitro, sicrhau dysgu proffesiynol i ddatblygu'r addysgeg a sgiliau staff, ayb.
Beth?
Gall cynnal awdit neu holiadur fod yn ffordd effeithiol a chyflym o werthuso sefyllfa'r ysgol yn erbyn agwedd benodol.
Mae’r canlyniadau’n caniatáu trosolwg o sefyllfa gyfredol yr ysgol (e.e. adnabod y gwaelodlin, yr agweddau sydd angen eu targedu ac arferion effeithiol i'w rhannu).
Trwy ailymweld ag awdit / holiadur (unwaith y flwyddyn er enghraifft), gallwch fesur effaith yn ogystal ag effaith gweithredu yn ystod y cyfnod hwn.
Pam?
Gall awdit / holiadur fod yn ffordd effeithiol o werthuso’r canlynol:
Sgiliau a hyder staff mewn agweddau penodol ac wrth gynllunio a pharatoi profiadau dysgu sy’n ymwneud â rhifedd, llythrennedd a chymhwysedd digidol
Barn dysgwyr ynghylch y ffordd y maent yn cymhwyso ac yn defnyddio eu sgiliau rhifedd, llythrennedd a chymhwysedd digidol i’w helpu i ddysgu tu hwnt i’r gwersi
Agweddau dysgwyr tuag at ddysgu ac elfennau penodol
Egwyddorion Cynnydd
Yn ogystal â'r Fframweithiau Llythrennedd, Rhifedd a Chymhwysedd Digidol, mae angen rhoi ystyriaeth hefyd i'r egwyddorion cynnydd wrth fonitro, adolygu a gwerthuso'r sgiliau trawsgwricwlaidd dros gyfnod, sy'n cynnwys:
Cynyddu effeithiolrwydd fel dysgwr
Dyfnhau dealltwriaeth o'r syniadau a'r disgyblaethau o fewn y Meysydd
Ehangder a gwybodaeth cynyddol
Mireinio sgiliau a soffistigeiddrwydd cynyddol wrth eu defnyddio a'u cymhwyso
Creu cysylltiadau a throsglwyddo'r dysgu i gyd-destunau newydd
Rhoi Gweithredu Gwelliant ar waith
Canllaw i arweinwyr a chydlynwyr
Cliciwch ar yr arwyddion lliw a fydd yn eich tywys at y tri cham o weithredu gwelliant.
Y Sgiliau Trawsgwricwlaidd