Prototeip


Adeiladu cynrychiolaethau go iawn o'ch syniadau

Beth mae'r model dylunio yn ei ddweud?

Nod y cam hwn yw deall pa elfennau o'ch syniadau sy'n gweithio, a'r rhai nad ydynt.

Beth mae hyn yn ei olygu ar gyfer dylunio'r cwricwlwm?

  • Cyd-lunio model cwricwlwm lefel uchel gan gynnwys trefniant asesu. Ystyried yn benodol:

    • cynnydd 3-16

    • dethol a dilyniannu gwybodaeth, sgiliau a phrofiadau gan ofyn y cwestiynau canlynol:

pam hyn?

pam nawr?

o le mae wedi dod?

ble mae'n mynd?

    • dulliau cwricwlwm

    • cydlyniant

    • dysgu

    • asesiad

  • Treialu agweddau penodol ar eich dulliau a'ch trefniadau cwricwlwm, addysgu a dysgu ac asesu sy'n datblygu


Beth mae Llywodraeth Cymru yn dweud o fewn y daith i weithredu’r cwricwlwm?

'Schools should trial aspects of design, new approaches and pedagogy, using the learning to evaluate and refine their approach.'

(WG, p 10)


'Schools should work in clusters to develop thinking around the effective transition of learners along the 3 to 16 continuum. This should bring coherence between curricula across different phases while reflecting each school’s distinct vision. It should support learner progression and involve jointly developing and trialling processes to support the transition of learners.'

(WG, p 10)


'Schools should consider approaches to how the areas of learning and experience, statements of what matters and disciplines will be used to inform curriculum and assessment design.'

(WG, p 10)


'Consider a range of approaches (e.g. disciplinary, interdisciplinary, multidisciplinary) to curriculum design and how approaches can support progression. Determine which approaches to test and evaluate in the context of the school and in different areas of learning and experience.'

(WG, p10)


'Consider how knowledge, skills and experiences can be sequenced to best support learners’ progress.'

(WG, p 11)


'Undertake short- and medium-term planning and trialling of new approaches in teaching and learning, using the enquiry process.'

(WG, p 11)


'Jointly developing and trialling progression across a cluster is critical to developing high expectations and a coherent trajectory of progression for learners.'

(WG, p 11)

'Dylai ysgolion dreialu agweddau ar ddylunio, dulliau newydd ac addysgeg, gan ddefnyddio'r dysgu i werthuso a mireinio eu dull.'

'Dylai ysgolion gydweithio mewn clystyrau i sicrhau bod dilyniant yn eiddo ar y cyd. Mae hyn yn hanfodol er mwyn sicrhau trosglwyddiad effeithiol dysgwyr ar hyd y continwwm 3 i 16. Dylai hyn ddod â chydlyniant rhwng cwricwla ar draws gwahanol gyfnodau wrth adlewyrchu gweledigaeth benodol pob ysgol. Dylai gefnogi cynnydd dysgwyr a chynnwys datblygu a threialu prosesau ar y cyd i gefnogi trosglwyddo dysgwyr. '

'Dylai ysgolion ystyried dulliau o ddefnyddio sut y bydd y Meysydd, datganiadau o'r hyn sy'n bwysig, egwyddorion cynnydd a disgyblaethau'n cael eu defnyddio i lywio'r cynllun cwricwlwm ac asesu.'

'Ystyriwch ystod o ddulliau (e.e. disgyblaethol, rhyngddisgyblaethol, amlddisgyblaethol) tuag at ddylunio'r cwricwlwm a sut y gall dulliau gefnogi cynnydd. Penderfynu pa ddulliau i brofi a gwerthuso yng nghyd-destun yr ysgol, ac mewn gwahanol Feysydd sicrhau bod holl anghenion dysgwyr yn cael eu hystyried mewn cyd-destun cynhwysol.'

'Ar ôl datblygu cynnydd lefel uchel, ystyriwch sut y gellir dilyniannu gwybodaeth, sgiliau a phrofiadau i gefnogi cynnydd dysgwyr orau.'

'Gyda chyd-destun y cwricwlwm lefel uchel, ymgymryd â chynllunio tymor byr a chanolig a threialu dulliau newydd o ddysgu ac addysgu.'

'Mae datblygu a threialu cynnydd ar y cyd ar draws clwstwr yn hanfodol i ddatblygu disgwyliadau uchel a llwybr dilyniannol cydlynol i ddysgwyr.'

Cwestiynau allweddol i gefnogi'r camau nesaf o: Cwricwlwm i Gymru: y daith i weithredu’r cwricwlwm

  • Sut ydyn ni'n disgwyl i ddysgwyr symud ymlaen? Sut allwn ni sicrhau bod hyn yn seiliedig ar ddealltwriaeth o gynnydd a datblygiad plant? Sut olwg ddylai fod ar y cynnydd hwn yn ystod eu taith ddysgu?

  • Pa feysydd, datganiadau a disgyblaethau y mae'r wybodaeth, y sgiliau a'r profiadau hyn yn cyfrannu atynt? Pa gysylltiadau naturiol y gellir eu gwneud sy’n ehangu ac yn dyfnhau dealltwriaeth dysgwyr?

  • Sut gall dulliau disgyblaethol, rhyngddisgyblaethol ac amlddisgyblaethol gynorthwyo dysgwyr i ddatblygu gwahanol wybodaeth, sgiliau a phrofiadau? Pa ddulliau a allai fod yn briodol ar wahanol gamau yn nhaith dysgwr?

  • Sut y byddwn yn gosod disgwyliadau digon uchel i ddysgwyr ar draws y continwwm dysgu?

  • Sut y byddwn yn sicrhau bod ein cwricwlwm yn cynnwys yr holl ddysgwyr?

I gael rhagor o wybodaeth neu gymorth, cysylltwch â Kathryn Lewis ar Kathryn.A.Lewis@cscjes.org.uk