Diffinio

Deall anghenion eich defnyddwyr


Beth mae'r model dylunio yn ei ddweud?

Diffinio anghenion.

Cyfuno eich ymchwil a dechrau nodi anghenion rhanddeiliaid.

Beth mae hyn yn ei olygu ar gyfer dylunio'r cwricwlwm?


  • Dealltwriaeth ddofn o Fframwaith Cwricwlwm i Gymru

  • Gweledigaeth yr ysgol – pam, beth, pwy, pryd,

  • Sut mae cynllun datblygu'r ysgol:

    • blaenoriaethau ar gyfer gwella

    • rolau a chyfrifoldebau

    • camau gweithredu - pam, beth, pwy, pryd,

  • Adnabod anghenion a chefnogaeth dysgu proffesiynol holl staff – pam, beth, pwy, pryd, sut

  • Ystyried cydweithio a phartneriaethau - pam, beth, pwy, pryd, sut

Beth mae Llywodraeth Cymru yn dweud o fewn y daith i weithredu’r cwricwlwm?

'Dylai ysgolion ddatblygu dealltwriaeth o fodel cysyniadol y cwricwlwm: mae hyn yn cynnwys ymgysylltu a gwneud synnwyr â deunyddiau a llenyddiaeth, a datblygu neu ddiweddaru eu gweledigaeth.'


'Mae'n hanfodol wrth i ysgolion ac ymarferwyr gychwyn ar ddyluniad cwricwlwm manwl eu bod yn deall egwyddorion, strwythur a goblygiadau allweddol y Cwricwlwm i Gymru.'


'Dylai arweinwyr gydnabod pwysigrwydd datblygu'r ddealltwriaeth hon ar draws yr ysgol, gan gynorthwyo'r holl staff i ymgysylltu o gamau cynharaf y broses. Bydd datblygu dealltwriaeth ddofn yn cymryd amser a dylai fod yn broses barhaus. '


'Mae gweledigaeth ar gyfer y cwricwlwm yn nodi'r hyn y mae cwricwlwm ysgol yn ceisio'i gyflawni a'i blaenoriaethau. Dylai wneud synnwyr o'r cwricwlwm yn ei gyfanrwydd, a sut mae'n cefnogi dysgwyr i ddatblygu tuag at y pedwar diben.'


'Dylai'r weledigaeth hon gael ei chyd-lunio: yn eiddo i bawb, yn cael ei deall a'i defnyddio'n gyffredin i lywio dyluniad a gwireddu'r cwricwlwm.'

Cwestiynau allweddol i gefnogi'r camau nesaf o: Cwricwlwm i Gymru: y daith i weithredu’r cwricwlwm

  • Sut mae sicrhau dealltwriaeth gyffredin o gwricwlwm a arwenir gan ddibenion?

  • Beth yw ein meddwl mewn ymateb i'r cwestiynau a ofynnir wrth gyflwyno Dylunio'ch Cwricwlwm?

I gael rhagor o wybodaeth neu gymorth, cysylltwch â Kathryn Lewis ar Kathryn.A.Lewis@cscjes.org.uk