Gweithredu

Rhoi'r weledigaeth ar waith.

Beth mae'r model dylunio yn ei ddweud?

Rhoi'r weledigaeth ar waith.

Beth mae hyn yn ei olygu ar gyfer dylunio'r cwricwlwm?

  • Rhoi eich gweledigaeth ar waith

  • Mabwysiadu'ch cwricwlwm

  • Gweithredu'ch trefniadau cwricwlwm, addysgu, dysgu ac asesu

  • Parhau i ddefnyddio dull ymholi, wedi'i lywio gan dystiolaeth, i ymchwilio ac ehangu ymarfer dosbarth

  • Ymchwilio a oes unrhyw fwlch gweithredu? Sut wyt ti'n gwybod?

  • Adolygu'ch trefniadau cwricwlwm, addysgu, dysgu ac asesu trwy eich cylch gwella a gwerthuso ysgol

  • Parhau i fireinio a datblygu dulliau o ddylunio cwricwlwm, addysgu, dysgu ac asesu

  • Parhau i ddatblygu eich ysgol fel sefydliad sy'n dysgu

Beth mae Llywodraeth Cymru yn dweud o fewn y daith i weithredu’r cwricwlwm?

'Dylai ysgolion fabwysiadu eu cwricwlwm a dechrau ei weithredu, fel y cytunwyd gan y pennaeth a'r corff llywodraethu. Dylai ysgolion fireinio eu dyluniad cwricwlwm wrth i'w dysgwyr symud ymlaen yn barhaus. Dylai ysgolion fyfyrio ar effeithiolrwydd eu cwricwlwm a defnyddio'r mewnwelediad hwnnw i wella. '


'Mae mabwysiadu cwricwlwm yn ddechrau cyfnod parhaus o ddatblygu a mireinio'r cwricwlwm. Dylai’r cwricwlwm fod yn esblygu’n barhaus, gan ymdrechu am ddisgwyliadau uwch, lles â chefnogaeth well ac ymateb i anghenion newidiol dysgwyr, gyda chefnogaeth esblygu a gwella dysgu ac addysgu. '

Cwestiynau allweddol i gefnogi'r camau nesaf o: Cwricwlwm i Gymru: y daith i weithredu’r cwricwlwm

  • Sut gallwn ni barhau i godi disgwyliadau dysgwyr?

  • Sut y byddwn yn sicrhau bod ein cwricwlwm yn ymateb i anghenion newidiol dysgwyr a'n profiad a'n dealltwriaeth gynyddol o ddylunio'r cwricwlwm?

  • Sut y byddwn yn parhau i ddatblygu ein cwricwlwm fel ysgol ac fel sefydliad sy'n dysgu?

I gael rhagor o wybodaeth neu gymorth, cysylltwch â Kathryn Lewis ar Kathryn.A.Lewis@cscjes.org.uk