Cwricwlwm i Gymru
Model meddwl dylunio wedi'i egluro
Mae meddwl dylunio yn fodel a dderbynnir yn rhyngwladol, a fydd, o'i gymhwyso i ddylunio'r cwricwlwm, yn eich helpu i ystyried y camau yn y broses o gynllunio cwricwlwm lefel ysgol. Mewn ymateb i geisiadau gan ysgolion, rydym wedi alinio pob un o'r camau o fewn y daith i weithredu’r cwricwlwm i gyfnodau o fewn y model meddwl dylunio i'ch helpu i lywio'r broses o ddylunio'r cwricwlwm.
Gweler y model ac archwiliwch bob un o'r camau trwy sgrolio isod.
Beth yw meddwl dylunio?
Mae meddwl dylunio yn ddull a ddefnyddir ar gyfer datrys problemau ymarferol a chreadigol. Mae wedi'i seilio'n drwm ar y dulliau a'r prosesau y mae dylunwyr yn eu defnyddio ond mae wedi esblygu o amrywiaeth o feysydd gwahanol – gan gynnwys pensaernïaeth, peirianneg a busnes.
Mae meddwl dylunio yn canolbwyntio ar y defnyddiwr. Mae'n ceisio deall anghenion pobl ac yn mynd â'r dylunydd drwy broses i ddod o hyd i atebion effeithiol i ddiwallu'r anghenion hynny.
Gallai gweithio drwy'r cyfnodau meddwl dylunio gefnogi ymarferwyr i ddatblygu a gwerthuso eu cwricwlwm lefel ysgol.
Cliciwch ar yr eiconau isod i archwilio nodweddion pob cam o'r model ac i weld dysgu proffesiynol gan CCD sy'n gysylltiedig â'r cyfnodau.