Mae Prydain yn ynys, ac mae Cymru yn wlad arfordirol, gyda thua 60% o’n poblogaeth yn byw o fewn 5 cilomedr i’r arfordir. Mae Climate Central yn adnodd sy’n dangos faint o’r arfordir fyddai’n cael ei golli i’r môr wrth i lefelau’r cefnfor godi – edrychwch ar eich ardal chi i weld a ydych mewn perygl ai peidio. Yn fyd-eang, dywedir bod 900,000 o bobl mewn perygl mewn ardaloedd arfordirol gydag uchder isel – mae hynny’n un o bob deg o bobl ar y ddaear, a byddai hyn yn achosi argyfwng enfawr o ffoaduriaid.
Yn y DU yn benodol, gallai hafau cynhesach a gwlypach ei gwneud yn haws i dyfu rhai cnydau yn haws, ond yn anos i dyfu eraill. Adroddwyd yn 2022 mai Caerdydd oedd y ddinas a oedd yn wynebu’r risg fwyaf ym Mhrydain o lifogydd sy’n gysylltiedig â’r newid yn yr hinsawdd.
Mae’r cefnfor yn storfa allweddol ar gyfer carbon – yn anffodus, pan fydd carbon yn cael ei amsugno i ddŵr y môr (ar hyn o bryd mae’r cefnfor yn amsugno tua 25% o’r CO2 a gynhyrchir gan ddynolryw), mae’n ffurfio asid carbonig, sy’n gwneud y cefnfor ei hun yn
fwy asidig, gan ddisbyddu ocsigen ac effeithio ar geryntau’r cefnfor.