Y peth cyntaf y gallwch ei wneud i leihau eich allyriadau yw eu deall. Gall cyfrifo eich allyriadau carbon eich helpu i ddod yn fwy cynaliadwy fel unigolyn, neu fusnes, drwy dargedu eich ymdrechion a’ch adnoddau lle maent yn fwyaf effeithiol. Wrth asesu allyriadau, rydym yn eu rhannu’n dri maes i fusnesau:
Maes 1 – yn cynrychioli allyriadau uniongyrchol o ffynonellau y mae eich busnes yn berchen arnynt neu’n eu rheoli – er enghraifft, gweithgynhyrchu ar y safle neu ddefnydd o danwydd, oeryddion o gyflyrwyr aer neu oerwyr.
Maes 2 – yn cynrychioli allyriadau anuniongyrchol o drydan a ddefnyddir gan y busnes, oeri, gwresogi. Nid ydych yn berchen ar yr orsaf ynni sy’n allyrru’r carbon i bweru eich busnes, ond mae eich defnydd o ynni yn ysgogi’r allyriadau hynny.
Maes 3 - yn aml y gyfran fwyaf arwyddocaol, sy’n cynnwys allyriadau anuniongyrchol eraill ar hyd eich cadwyn gyflenwi gyfan. Mae hyn yn cynnwys allyriadau o brosesau cynhyrchu cyflenwyr, teithio cyflogeion a gwaredu eich cynnyrch ar ddiwedd ei oes. Er mai hwn yw’r maes mwyaf, yn aml iawn hwn yw’r un mwyaf cymhleth i’w olrhain.
Mae yna lawer o gwmnïau sy’n arbenigo mewn asesu eich allyriadau a darparu arweiniad ar sut i’w lleihau. Mae’n werth cysylltu â hwy ac esbonio beth sy’n hyfyw yn ariannol ar gyfer eich busnes oherwydd gallent fod yn hyblyg gyda’r hyn y gallent ei gynnig, neu roi cyngor ar y grantiau a allai fod yn berthnasol. Mae llawer o fusnesau a sefydliadau wedi dechrau cyhoeddi eu hallyriadau yn flynyddol – mae creu strategaeth gynaliadwyedd briodol a chyhoeddus hefyd yn rhagofyniad cynyddol ar gyfer cyflawni contractau’r sector cyhoeddus wrth i gorfforaethau mawr a’r sector cyhoeddus symud tuag at eu nodau sero net.
Ffordd arall o leihau eich ôl-troed yw lleihau eich defnydd. Mae’r economi gylchol yn gysyniad sy’n ceisio dileu gwastraff, a sicrhau bod cynnyrch yn parhau i weithio neu’n cael eu dosbarthu cyhyd ag y bo’n bosibl, wrth adfywio byd natur. Mae’n bosibl ymgorffori’r egwyddorion hyn yn eich busnes neu eich bywyd personol mewn gwahanol ffyrdd – o ganfod ffyrdd newydd creadigol o ddefnyddio cynnyrch gwastraff fel adnoddau gwerthfawr, i ddefnyddio neu wneud cynnyrch ag oes hir, a diben diwedd oes, er enghraifft ailgylchu. Gall dod yn fusnes mwy cylchol eich helpu i gael buddion sylweddol. Yng Nghymru, gallai eich busnes fod yn gymwys hyd yn oed i dderbyn cyllid arloesedd o hyd at £200,000 y flwyddyn drwy Gyllid yr Economi Gylchol.
Mae gwrthbwyso carbon yn bwnc llosg – a ddyfeisiwyd fel ffordd i ddarparu iawndal ariannol i’r rhai na ellir dileu eu hallyriadau’n llwyr ar hyn o bryd. Dylid rhoi blaenoriaeth bob amser i leihau carbon a dylid ystyried gwrthbwyso fel y dewis olaf ac nid fel ffordd o gyfiawnhau allyriadau. Gall prosiectau gwrthbwyso amrywio, o fuddsoddi mewn seilwaith gwyrdd sy’n lleihau allyriadau, i blannu coed neu waith natur arall. Dylent fod yn ychwanegol – sy’n golygu na fyddai’r gweithgarwch gwrthbwyso wedi digwydd heb yr arian. Dylai unrhyw garbon sy’n cael ei atafaelu neu ei wrthbwyso fod yn barhaol.