Mae’r hinsawdd eisoes yn newid – awgrymodd ymchwilwyr yn 2023 bod 66% o siawns y bydd tymheredd y ddaear wedi cynyddu rhwng 1.5C ar gyfartaledd rhwng heddiw a 2027.
Mae’n rhwydd mesur tymheredd y blaned. Mae cannoedd ar filoedd o orsafoedd tywydd o amgylch y byd sy’n ei fonitro. Maent i gyd yn adrodd yr un stori – mae’r hinsawdd yn newid yn gyflym.
Mae gan Lywodraeth Cymru darged o 2050 ar gyfer cyflawni sero net (sy’n gyflwr o gydbwyso lle byddwn yn tynnu’r un swm neu fwy o garbon na’r hyn yr ydym yn ei allyrru i’r atmosffer). Fe wnaethant hefyd basio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn 2015, sy’n pennu sylfaen gyfreithiol i’n hymdrechion hinsawdd, gan orfodi cyrff cyhoeddus i ystyried effaith hirdymor eu penderfyniadau ar genedlaethau’r dyfodol, gan ymgorffori cynaliadwyedd i waith cyhoeddus o bob math, gan gynnwys cyfreithiau newydd.