Cyflwyniad
Croeso i Hyfforddiant ar Ymwybyddiaeth o Garbon Grŵp Llandrillo Menai. Bwriad y cwrs hwn yw eich cyflwyno i rai o’r cysyniadau allweddol sy’n gysylltiedig â’r newid yn yr hinsawdd, ac ateb rhai o’ch cwestiynau, a galluogi i chi ateb cwestiynau pobl eraill ar pam fod hyn yn flaenoriaeth frys – yn lleol, yn genedlaethol ac yn fyd-eang.
Mae Ymwybyddiaeth o Garbon yn cyfeirio at ddealltwriaeth o effaith ein gweithgareddau o ddydd i ddydd ar yr amgylchedd - ac yn benodol yr allyriadau nwyon tŷ gwydr sy’n newid hinsawdd y blaned. Mae llythrennedd carbon yn cynnwys bod yn ymwybodol o sut mae ein dewisiadau a’n ffordd o fyw yn cyfrannu at newid yn yr hinsawdd, effaith newid yn yr hinsawdd arnom ni a’r blaned, a sut y gallwn leihau ein ôl-troed carbon a bod yn fwy cynaliadwy.
O safbwynt busnes, mae ymwybyddiaeth carbon yn mynd y tu hwnt i ddealltwriaeth unigol. Mae’n dod yn ddull strategol ar gyfer cynaliadwyedd ac mae’n helpu i’n hysbysu ynglŷn â sut i redeg pethau yn y ffordd fwyaf gwyrdd bosibl.
Mae’r cwrs hwn yn ceisio darparu’r wybodaeth ddiweddaraf i chi ar y syniadau allweddol sy’n sail i’r newid yn yr hinsawdd a sut y gallwn wneud ein gorau i fynd i’r afael â hyn.
I gyrchu'r cwrs: - Dewiswch yr iaith (y gornel dde uchaf) a gweithiwch eich ffordd trwy'r pynciau. Wedi i chi gwblhau pob un o'r pynciau, ewch i'r adran “Beth wnaethoch chi ei ddysgu"
Introduction
Welcome to the Grŵp Llandrillo Menai Carbon Awareness Training course. This course aims to introduce you to some of the key concepts around climate change, and to answer some of your questions, and allow you to answer other people’s questions on why this is such an urgent priority - locally, nationally, and globally.
Carbon Awareness refers to the understanding of the environmental impact of our everyday activities - specifically relating to the emission of greenhouse gases which are changing the climate of the planet. Carbon awareness involves being aware of how our choices and lifestyles contribute to climate change, the impact of climate change on ourselves and the planet, and how we can reduce our carbon footprint and be more sustainable.
From a business perspective, carbon literacy goes beyond individual understanding. It becomes a strategic tool for sustainability and helps inform us on how to run things in the greenest way possible.
This course aims to bring you up to speed on some of the key ideas behind climate change and how we can do our best to tackle it.
To access the course: - Select the language ( top right-hand side) and work your way through the topics. Once you have completed all the topics access the “What did you learn section"