Un o’r pethau pwysicaf y gallwch ei wneud gyda’ch ymwybyddiaeth o carbon newydd yw siarad gyda’ch ffrindiau, eich teulu a’ch cymuned am newid hinsawdd. Rhannwch y ffeithiau rydych wedi’u dysgu ac esbonio sut y gall dewisiadau fel newid y ffordd rydych yn bwyta, teithio a defnyddio ynni wneud gwahaniaeth. Meddyliwch sut y gall grwpiau rydych eisoes yn rhan ohonynt wneud pethau’n wahanol – os ydych mewn tîm chwaraeon, ystyriwch sut y gallwch wneud dewisiadau mwy cynaliadwy ar gyfer eich cit, neu os ydych yn ymwneud â chynnal adeiladau cymunedol fel neuadd y pentref neu dref, dechreuwch sgwrs am gynaliadwyedd yn y cyd-destun hwnnw. Gyda’ch gilydd, gallwch helpu i wneud eich cymuned yn fwy cydnerth a gwyrdd.
Mae sawl rheswm da i fusnesau fuddsoddi amser ac ymdrech mewn bod yn fwy cynaliadwy. Mae newid yn yr hinsawdd a'r lleihad mewn bioamrywiaeth yn fygythiad i bob un ohonom ac mae'r Canllawiau i Fusnesau Cynaliadwy adnodd sydd ar gael am ddim i'ch helpu chi i gael effaith fwy cadarnhaol ar yr amgylchedd
Yn y canllawiau hyn ceir cyngor ymarferol i'ch helpu i
Roi cynlluniau gwyrdd ar waith
Lleihau gwastraff a defnydd o ynni
Dod o hyd i ddefnyddiau a chyflenwyr ecogyfeillgar
Gwella ymwybyddiaeth eich brand o gynaliadwyedd
Denu cwsmeriaid sy'n awyddus i ofalu am yr amgylchedd
Bwriad y Canllawiau i Fusnesau Cynaliadwy yw eich helpu i arbed arian trwy gynnig cyngor ynghylch sut y gall camau arbed ynni gynyddu effeithlonrwydd yn y cartref a'r gweithle, lleihau eich ôl troed carbon a gwella cynaliadwyedd.
Lawr lwythwch Y Canllaw am ddim, rhannwch y ddolen, a gwnewch eich rhan tuag at ddod yn fwy cynaliadwy.
Cofrestrwch heddiw a lawr lwythwch eich canllaw yn rhad ac am ddim.