Chwedl Blodeuwedd
Hanes trist yw hanes Blodeuwedd. Mae'n stori am bobl yn caru'i gilydd ond hefyd yn twyllo'i gilydd. Dewch gyda ni nawr i le o'r enw Caer Dathl gerllaw Abermenai, rhwng Dinas Dinlle ac Ynys Môn. Dyma lle mae'r brenin yn byw. Brenin o'r enw Math.
Nawr, cyn mynd dim pellach, gadewch i ni ddod i adnabod y cymeriadau sydd yn ein stori ni. Gwydion yw un ohonyn nhw. Mae gan Gwydion, sy'n ddewin, ddau frawd, ac un ohonyn nhw yw Gilfaethwy. Daeth Goewin yn wraig i Gilfaethwy.
Oherwydd bod Math wedi colli Goewin, roedd rhaid iddo ddod o hyd i rywun arall i wneud y gwaith. Awgrymodd Gwydion y dylai Math ofyn i ferch o'r enw Arianrhod ddod i ofalu amdano. Ac felly y bu.Felly pwy oedd Arianrhod? Wel, roedd gan Arianrhod ddau blentyn - un mab golygus a gwallt melyngoch o'r enw Dylan, ac un babi bach oedd yn rhy ifanc i fod ag enw.
Roedd hyn yn broblem i Arianrhod; yn y dyddiau hynny, doedd dim hawl gan ferch i ofalu am frenin os oedd ganddi blant, ac roedd Arianrhod eisiau gofalu am y Brenin Math. Felly, syniad Arianrhod oedd cuddio'r plant, ac fe helpodd Gwydion hi drwy gymryd y babi bach a rhoi gwisg sidan amdano a'i guddio mewn cist.
Bu Arianrhod yn gofalu am y Brenin Math, ac anghofiodd bopeth am ei mab Dylan ac am y babi bach yn cuddio yn y gist. Ond, fel pob babi, un diwrnod, dechreuodd y babi bach dienw hwn grio am ei fod eisiau bwyd arno. Pan glywodd Gwydion y sŵn crio, toddodd ei galon, ac fe benderfynodd ofalu amdano.
Babi arbennig iawn oedd hwn. Pan oedd e'n flwydd oed, roedd yr un maint â phlentyn dwy flwydd oed. Erbyn iddo droi'n bedair oed, roedd e fel bachgen wyth mlwydd oed. Ac roedd Arianrhod ei fam wedi anghofio popeth amdano. Un diwrnod, aeth Gwydion â'r plentyn am dro i gartref ei fam, sef Caer Arianrhod. Pan welodd Arianrhod y plentyn a chofio mai hi oedd ei fam, roedd hi'n gandryll. Roedd hi mor flin nes iddi dyngu llw a dweud,
'Fydd y plentyn hwn BYTH yn cael enw, oni bai mai fi fydd yn ei enwi.'
Roedd Gwydion yn siomedig iawn. Ond cyn digalonni'n llwyr, penderfynodd y byddai'n defnyddio'i hud a lledrith i wneud yn siŵr fod Arianrhod yn rhoi enw ar y plentyn bach da yn fuan iawn. Aeth Gwydion â'r plentyn 'nol adref i Gaer Dathl, ac ar y ffordd yno, cafodd Gwydion syniad ardderchog!
Fore trannoeth, dyma fe'n creu llong o hesg a brwyn. Gwnaeth ddarnau o ledr hefyd a'u peintio mewn lliwiau godidog. Pan hwyliodd y llong i Gaer Arianrhod, dyma Gwydion yn bwrw hud drosto fe a'r bachgen bach a'u troi'n ddau grydd, sef pobl sy'n gwneud esgidiau. Roedd Arianrhod wedi mopio gyda’r esgidiau, a dyma hi'n rhoi mesuriadau ei thraed i'w gweision a dweud wrthyn nhw orchymyn i'r ddau grydd wneud pâr o esgidiau hardd iddi hi, ond chafodd hi ddim mo’i phlesio gyda’r esgidiau.
`A! Wel, ' meddyliodd Arianrhod, 'does dim amdani ond mynd at y ddau grefftwr fy hunan er mwyn iddyn nhw gael y mesuriadau'n gywir.'
Ta roedd Gwydion yn mesur traed Arianrhod, sylwodd hi ar y crydd arall yn saethu dryw bach a oedd wedi glanio ar fwrdd y llong. Doedd ganddi hi ddim syniad, wrth gwrs, mai ei mab ei hunan oedd y crydd hwn, ac meddai,
'Lleu Llaw Gyffes wyt ti!' sef yn ein hiaith ni heddiw, ‘rwyt ti'n saethwr medrus!'
`Ha!' bloeddiodd Gwydion yn llawen.
‘Dyna ti wedi enwi dy fab dy hunan! O hyn allan bydd pawb yn ei alw fe'n Lleu Llaw Gyffes!'
Roedd Arianrhod yn gandryll! A thyngodd lw arall. Y tro hwn taerodd fel hyn: 'Fydd y bachgen hwn BYTH yn cael arfau oni bai mai fi fydd yn eu rhoi nhw iddo.'
Unwaith eto, penderfynodd Gwydion y byddai'n defnyddio'i hud a lledrith i wneud yn sir y byddai Arianrhod yn rhoi arfau i Lleu. Fore trannoeth, aeth Lleu a Gwydion i le o'r enw Cefn Cludno a dwyn ceffylau. Gan ddefnyddio hud a lledrith unwaith eto, newidiwyd golwg y ddau fel eu bod yn edrych yn gwbl wahanol. Y tro hwn, roedden nhw'n edrych fel dau fardd o Forgannwg.
Ar ôl iddyn nhw gyrraedd Caer Arianrhod, fe gawson nhw groeso i'r wledd, ond y noson honno, defnyddiodd Gwydion ei hud i greu sŵn mawr a chodi ofn ar bawb nes i Arianrhod ddod at Gwydion a Lleu (heb eu hadnabod, wrth gwrs) a gofyn iddyn nhw am gymorth i warchod y castell rhag y gelyn. Roedd y ddau fardd o Forgannwg (sef Gwydion a Lleu) yn barod iawn i'w helpu, ond roedd un anhawster! Doedd ganddyn nhw ddim arfau...
`Dim problem!' meddai Arianrhod. `Rhoddaf i arfau i chi!' Ac fel hyn y rhoddodd Arianrhod arfau i'w mab ei hunan. Pan ddeallodd Arianrhod ei bod wedi cael ei thwyllo'r eilwaith, roedd gandryll unwaith eto, a thyngodd lw arall, gan ddweud:
'Rydych chi wedi fy nhwyllo i ddwywaith! Rwyf wedi rhoi enw i'm mab ac arfau iddo, ond rwy'n benderfynol na fydd e BYTH yn cael gwraig o blith pobl y ddaear hon!'
Aeth Gwydion at Math i ofyn am gymorth. Ymhen hir a hwyr, cafodd y ddau syniad. Os nad oedd Lleu yn gallu priodi gwraig gyffredin, byddai'n rhaid iddyn nhw greu gwraig anghyffredin iddo. Ac aeth y ddau ohonyn nhw ati i gasglu blodau - blodau'r dderwen, blodau'r banadl a blodau'r erwain - ac o'r blodau hyn, drwy hud a lledrith, dyma greu'r ferch brydferthaf a fu erioed. Ei henw oedd Blodeuwedd.
Ar ol ychydig o amser, pan oedd Lleu wedi mynd am dro i Gaer Dathl i weld Math, clywodd Blodeuwedd sŵn corn a chŵn a helwyr. Holodd pwy oedd yn arwain yr helfa a chlywodd mai gŵr o'r enw Gronw Pebr, Arglwydd Penllyn, ydoedd, a rhoddodd hi wahoddiad iddo i'w llys. Syrthiodd Blodeuwedd a Gronw Pebr mewn cariad. Roedden nhw'n gwybod na fyddai Lleu yn fodlon i hyn ddigwydd ac felly dyma ddechrau cynllwynio sut i gael gwared ar Lleu Llaw Gyffes. Roedden nhw am ei ladd!
Roedd Blodeuwedd yn gwybod yn iawn nad dyn cyffredin oedd Lleu. Roedd hi'n gwybod hefyd fod cyfrinach fawr ynglŷn â sut y gellid ei ladd, a gofynnodd iddo am y gyfrinach hon:
`Paid â phoeni amdana i!' meddai Lleu. 'Dim ond mewn un ffordd y gall unrhyw un fy lladd ac mae'n gymhleth iawn. Byddai'n rhaid i fi fod yn ymolchi mewn cafn ar lan afon. Wedyn, byddai'n rhaid i mi fod ag un troed ar ymyl y cafn a'r llall ar gefn bwch, a byddai'n rhaid i rywun fy lladd â gwaywffon. Ac nid unrhyw hen waywffon, cofia di, ond un a fyddai wedi cymryd blwyddyn gyfan i'w gwneud - a hynny bob dydd Sul o'r flwyddyn.'
A-ha! Roedd Blodeuwedd yn gwybod beth oedd y gyfrinach! Anfonodd y cyfarwyddiadau at Gronw Pebr ar unwaith.
Yna, ymhen blwyddyn, dyma Blodeuwedd yn gofyn i Lleu fynd â hi at yr afon i ddangos ble roedd y cafn, gan esgus, unwaith eto, mai gofidio amdano yr oedd hi. Yn ddisymwth, dyma Gronw, a oedd wedi bod yn cuddio'n dawel y tu ôl i goeden, yn taflu'r waywffon farwol tuag ato. Yna digwyddodd rhywbeth rhyfeddol. Gydag un sgrech ofnadwy, trodd Lleu yn eryr a hedeg i ffwrdd.
Pan glywodd Math a Gwydion fod Gronw Pebr a Blodeuwedd wedi priodi, penderfynodd y ddau fynd i weld beth oedd wedi digwydd i Lleu. Ymhen hir a hwyr, daeth y ddau i le o'r enw Nantlleu a chael yno goeden dderwen rhwng dau lyn. Fry ar gangau'r goeden, gwelodd Gwydion eryr, ac roedd rywsut yn gwybod ym mêr ei esgyrn mai Lleu Llaw Gyffes oedd yr eryr hwnnw. Cyffyrddodd adenydd yr aderyn yn ysgafn gyda’i ffon hud. Yn y fan a'r lle, trodd yr eryr yn ddyn ifanc hardd. Ie, hwn oedd neb llai na Lleu!
Yn ei ddicter, aeth Lleu yn syth i chwilio am Gronw Pebr. Wedi iddo'i ddal, dywedodd Lleu wrtho ei fod yn mynd i ddial arno a'i daro â gwaywffon. Ymbiliodd Gronw am un cyfle arall, a gofynnodd am gael sefyll tu ôl i garreg wrth i Lleu daflu'r waywffon. Cytunodd Lleu. Ond roedd nerth braich Lleu mor gryf, a'r waywffon mor gadarn nes iddi hollti'r garreg a lladd Gronw Pebr yn y fan a'r lle.
Yn y cyfamser, roedd Gwydion wedi mynd chwilio am Blodeuwedd. Pan glywodd hi fod Gwydion filwyr ar ei hôl, ceisiodd ddianc gyda'i morynion, ond fe ddaliodd Gwydion hi. Roedd Blodeuwedd yn gwybod bod ei bywyd ar ben ac roedd ei chalon yn curo fel carnau ceffylau. Dywedodd Gwydion wrthi mewn llais tawel a thrist, `Dydw i ddim yn mynd i dy ladd di, Blodeuwedd, ond yn lle hynny, rwy'n mynd i'th newid di'n dylluan fawn. Dim ond yn y nos y cei di agor dy lygaid am fod holl adar y dydd yn elynion i ti.'
Ac felly bu. Trowyd Blodeuwedd yn dylluan, a hyd heddiw, ar ambell noson dywyll, gallwch glywed ei chrio trist rhwng canghennau'r coed.