Grantiau Gwella Addysg ac Datblygu Disgyblion
Dyma amlinelliad o sut mae’r ysgol yn gwario Grant Gwella Addysg.
Mae’r Grant Gwella Addysg (GGA) wedi selio ar niferoedd o ddisgyblion a staff sydd yn yr ysgol eleni.
Yn 2022/23 cawsom GGA o £72,653. Rydym wedi cynllunio i wario’r arian yma ar:
Datblygu strategaethau Ysgol i Ysgol
Datblygu Arweinyddiaeth Dosranedig yn yr ysgol
Sicrhau fod pob aelod o staff yn cael mynediad i ddatblygiad proffesiynol parhaus.
Cyllido’n rhannol blaenoriaethau’r ysgol
Dyma amlinelliad o sut mae’r ysgol yn gwario Grant Datblygu Disgyblion.
Dyranir Grant Datblygu Disgyblion (GDD) ar sail niferoedd o ddisgyblion sydd yn hawlio prydau ysgol am ddim. Fel ysgol rydym wedi cynllunio ar gyfer strategaethau ymyrraeth i fynd i gau’r bwlch cyrrhaeddiad. Byddwn yn monitro ac yn arfarnu effaith y grant dros y flwyddyn.
Yn 2022/23 cawsom Grant Amddifadedd Disgyblion o £44,850. Rydym wedi defnyddio’r arian yma i:
Cyflogi cymhorthydd dosbarth i dargedu plant sydd yn gymwys i’r grant GDY.
Hyfforddi staff ar strategaethau ymyrraeth
Nid yw’r cynllun manwl yn cael ei gyhoeddi oherwydd mae’n bosibl adnabod teuluoedd / plant penodol.