Siarter Iaith
Sgwad Siarter Iaith
Beth yw'r Siarter Iaith?
Mae Siarter Iaith yn gynllun er mwyn hybu’r defnydd o Gymraeg yn gymdeithasol yn ysgolion cynradd Cymru a hefyd mewn sefyllfaoedd cymdeithasol tu allan i'r ysgol. Uchelgais y Cynulliad yw cael mwy o’r boblogaeth i siarad Cymraeg.
Yn ddiweddar, maent wedi cyflwyno dau gymeriad newydd 'Seren a Sbarc'. Bydd y ddau arwr yma ar bosteri a bathodynnau yn annog plant rhwng 4 a 7 oed i ddefnyddio’r iaith ar yr iard, yn y cartref ac yn y dosbarth.
Fel rhan o'r Siarter, mae pob ysgol unigol yn cwblhau ymarfer sylfaenol i bennu defnydd o'r iaith cyn datblygu cynllun gweithredu i weithio tuag at wobr efydd, arian neu aur. Mae'r cynllun yn annog cyfranogiad gan bob aelod o gymuned yr ysgol - yn ddisgyblion, rhieni, llywodraethwyr ysgol a'r gymuned ehangach.
Mae cyfathrebu yn rhan bwysig o fywyd cyfoes - mae tyfu fyny yn ddwyieithog yn golygu bydd plant yn datblygu sgiliau bywyd.
Pwy ydym ni a beth rydym yn ei wneud?
Meilir
Bl.6
Olwen
Bl.5
Molly
Bl.4
Dion
Bl.3
Rory
Bl.2
Ein targedau eleni yw:
Parhau i siarad Cymraeg o fewn yr ysgol a thu allan i dir yr ysgol.
Gwylio rhaglenni Cymraeg ar y teledu adref ac amser chware gwlyb yn yr ysgol.
Gwrando ar gerddoriaeth Cymraeg yn yr ysgol ac adref.
Defnyddio apiau a gwefannau Cymraeg.
Dysgu'r anthem genedlaethol o'r cof.
Oeddech chi'n gwybod?
Mae 65% o bobl Gwynedd yn siarad Cymraeg a Saesneg.
Mae tua thri chwarter o bobl y byd yn siarad dwy iaith neu fwy!
Cymraeg yw un o’r ieithoedd hynaf yn Ewrop sy’n dal i gael ei siarad.
Manteision Addysgol
Mae ymchwil academaidd yn cadarnhau fod plant dwyieithog yn fwy creadigol, ac yn cael canlyniadau gwell mewn profion IQ na phlant sy'n siarad un iaith yn unig.
Mae plant dwyieithog yn tueddu ymdopi’n well o ran gweithio dan bwysau.
Mae plant dwyieithog yn ei gweld i’n haws dysgu ieithoedd ychwanegol.
Manteision Ddiwylliannol
Yn hanes, yn gerddoriaeth, llyfrau neu fyd teledu - mae gan blentyn dwyieithog fwy o ddewis.
Dwy iaith, dwy ffenest ar y byd!
Manteision Cymdeithasol
Mae siarad mwy nag un iaith yn cynnig dewis ehangach o weithgareddau cymdeithasol ac yn ehangu gorwelion. Dwy iaith, dwywaith y dewis!
Mae’r Gymraeg yn magu perthynas agosach â hanes, treftadaeth a thraddodiadau Cymru.
Rydych chi o fewn cyrraedd uniongyrchol o ddywediadau, idiomau, cerddoriaeth, barddoniaeth a llenyddiaeth Gymraeg sy’n cael eu dathlu a’u parchu ledled y byd.
Manteision Economaidd
Mae pobl ddwyieithog yng Nghymru yn ennill rhwng 8% a 10% yn fwy mewn cyflog bob blwyddyn o’i gymharu â phobl sy’n siarad un iaith yn unig.
Mae siarad dwy iaith yn cynnig rhagor o gyfleoedd cyflogaeth i chi - bydd gennych chi sgil ychwanegol ar eich CV, sy’n rhoi ‘gwerth’ a mantais gystadleuol i chi yn nhermau busnes