Ysgol Bro Lleu

Ein gweledigaeth yw rhoi’r cyfle gorau i bob disgybl ddatblygu’n dysgwyr hyderus ac annibynnol. Dysgwyr sy’n dathlu eu llwyddiant ac yn ymwybodol o’u cryfderau. Hyn oll mewn amgylchedd cartrefol a phositif sydd wedi selio ar gyfeillgarwch, parch, tegwch a gofal.

Rydym yn anelu i ddarparu addysg gyfoes a pherthnasol o'r ansawdd uchaf bosib i bob disgybl allu cyrraedd eu llawn botensial.

Mae'r wefan yma yn rhoi gwybodaeth am waith a bywyd yr ysgol yn ogystal ag adnoddau a chysylltiadau defnyddiol i ddisgyblion, rhieni a staff eu defnyddio i hybu dysgu pawb yn yr ysgol.

Mr Gerallt Jones

Cliciwch 'Like' i'n tudalen Facebook!
Dilynwch ni ar Trydar.