Gwybodaeth Cyffredinol

Ysgol Bro Lleu

Cliciwch ar y llun i ddysgu mwy am wreiddiau enw ein hysgol.

Cafodd Ysgol Bro Lleu ei henwi ar ol un o chwedlau 'Pedair Cainc y Mabinogi'. Pedair stori sy'n dwyn cysylltiad â'i gilydd ond sydd eto'n sefyll ar wahân yw rhain, sef straeon 'Pwyll Pendefig Dyfed', 'Branwen ferch Llŷr', 'Manawydan fab Llŷr' a 'Math fab Mathonwy'.

Daw enw'r ysgol o'r chwedl olaf 'Math fab Mathonwy'. Mae llawer yn ei chofio hi fel chwedl 'Blodeuwedd'. I ddarllen y chwedl yma ac ymgyfarwyddo'ch hun gyda'r stori, cliciwch y llun.

Llawlyfr yr Ysgol

Cliciwch y llun i lawrlwytho 'Llawlyfr 2022-23 Ysgol Bro Lleu'

Dyffryn Nantlle

Cliciwch ar y llun i ddysgu mwy am hanes arbennig Dyffryn Nantlle.

Mae'r wefan wedi'i chreu gan grŵp o bobl leol er lles ardal Dyffryn Nantlle a'i thrigolion yn gyffredinol. Bwriad y wefan yw cadw hanes Dyffryn Nantlle yn fyw yn ogystal â rhannu gwybodaeth am weithgaredddau, adnoddau a busnesau y Dyffryn.

Mae llu o wybodaeth, llun a hanes lleol i'w ddarganfod ar y wefan - mwynhewch!