Cyngor Eco
Eryrod Eco
Plant sy’n arwain Ysgolion Eco. Maent yn arwain Cyngor Eco sydd yn canolbwyntio ar asesu perfformiadau amgylcheddol yr ysgol. Gan gydweithio hefo’r gymuned ehangach mae’r Cyngor yn gwneud penderfyniadau ar beth sydd angen gwella yn yr ysgol.
Trwy mesur a monitro manwl, mae’r Cyngor yn gallu profi eu bod wedi gwella perfformiad yr Ysgol er mwyn ennill achrediadau Eco-Sgolion sef Efydd, Arian yno’r Faner Werdd.
Eco-sgolion
Mae Eco-Sgolion yn rhaglen addysg amgylcheddol a ddatblygwyd ym 1994 ac fe’i cynhelir yng Nghymru gan Gadwch Gymru’n Daclus. Mae Eco-Sgolion yn unigryw – caiff ei arwain gan fyfyrwyr sy’n golygu mai pobl ifanc sydd yn llywio’r rhaglen.
Mae wedi ei ddylunio i rymuso ac ysbrydoli pobl ifanc i wneud newidiadau amgylcheddol cadarnhaol i’w hysgol a’r gymuned ehangach, tra’n datblygu eu sgiliau allweddol, yn cynnwys rhifedd a llythrennedd, a chwmpasu Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang.
Aelodau Cyngor Eco 2022-23
Amelia
Bl.6
Brayden
Bl.6
Isla
Bl.5
Owain
Bl.5
Nel
Bl.4
Efan
Bl.4
Marged
Bl.3
Eban
Bl.3
Tobi
Bl.2