Apple RTC

Canolfan Hyfforddi Rhanbarthol Apple

Mae Canolfannau Hyfforddi Rhanbarthol Apple yn cynnal cyrsiau i ddatblygu sgiliau a hyder staff i allu defnyddio adnoddau Apple ar lawr y dosbarth.

Maent yn gymunedau sy’n rhannu arferion rhagorol ac yn ysbrydoli addysgwyr.

Mae’r fraint o gael ein adnabod fel Canolfan Hyfforddi Rhanbarthol yn amlygu ein ymroddiad i gynnal cyrsiau i ysgolion i wella sgiliau TGCh.

Ar draws Prydain ac Iwerddon, targedau’r Ganolfan Hyfforddi Rhanbarthol yw:

  • cynnig hyfforddiant i athrawon ddatblygu sgiliau wrth ddefnyddio offer Apple ar lawr y dosbarth
  • hyrwyddo Apple ym myd addysg a rhannu adnoddau
  • ysgogi mwy o Athrawon Apple ar draws y rhanbarth
  • rhannu arferion gorau, adeiladu cymunedau ac ysbrydoli rhagoriaeth

I ddarganfod mwy, ewch i wefan Athrawon Apple:

https://www.apple.com/uk/education/apple-teacher/