Taith Ddysgu
Tymor 1
Cyflwyniad i'r Cwmwl
Bydd dysgwyr yn:
Cael cyflwyniad i'r adran a'r adnoddau.
Dysgu am storfa cwmwl a'r apiau sydd ar gael iddynt o fewn Office365 yn Hwb.
Ystyried y manteision ac anfanteision o weithio yn y cwmwl a thrafod sut i gadw eu cyfrif a'u gwaith yn ddiogel.
Llythrennedd Digidol
Bydd dysgwyr yn:
Dysgu am ddefnydd e-bost ysgol a sut i anfon e-bost.
Cael cyflwyniad i’r offer iaith sydd ar gael iddynt i gywiro gwallau sillafu a gramadeg ac hefyd sut i fformatio dogfennau.
Adnabod yr offer cynorthwyol sydd ar gael iddynt i hwyluso mynediad at waith i bawb.
Meddalwedd Cyflwyno
Bydd dysgwyr yn:
Deall beth sy'n gwneud cyflwyniad effeithiol a chreu cyflwyniadau amlgyfrwng yn PowerPoint at gynulleidfa benodol.
Gwybodaeth a Sgiliau
Cyfathrebu yn allweddol i bob thema yn nhymor 1.
Datblygu sgiliau meddwl wrth ddatrys problemau yn y dosbarth.
Ffocws penodol ar ddatblygu sgiliau llythrennedd digidol i wella safon yr iaith a diwyg y gwaith.
Profiadau
Clybiau Allgyrsiol
Cyfle i fod yn aelod o'r Pwyllgor Digidol
Cystadlaethau tymhorol
Sut alla'i gynnig cymorth ar hyd y daith?
Cynorthwyo eich plentyn gyda gwaith cartref (bydd wedi’i osod ar Teams)
Gofyn i’ch plentyn i ddangos a thrafod eu gwaith ysgol gyda chi ar Teams a Class Notebook.
Annog nhw i ymarfer eu sgiliau teipio adref.
Trafod defnydd synhwyrol o’r We ac amser sgrin.