Hanes
Taith Ddysgu Tymor 1
'Peryglon Ddoe a Heddiw’
Byddwn yn dysgu am y Pla Du a’r cysylltiad gyda pheryglon heddiw megis Covid.
Bydd dysgwyr yn datblygu dealltwriaeth o ffynonellau a dehongliadau.
Yn dilyn hynny byddwn yn dysgu am Frwydr Hastings a dealltwriaeth o effaith rhyfel trwy edrych ar Wcrain.
Bydd y dysgwyr yn datblygu:
Dealltwriaeth o'r gwahaniaeth rhwng ffaith a barn
Y gallu i feddwl yn ddadansoddiadol
Y gall i feddwl yn feirniadol ac i fynegi barn yn rhesymedig
Sgiliau gwaith ymchwil
Sgiliau ysgrifennu gan ganolbwyntio ar sillafu, atalnodi, geirfa a gramadeg.
Profiadau
Cyfle i fynegi barn ar faterion cyfoes
‘Her yr Hanesydd’
Gwaith grŵp a chyfleoedd i drafod / mynegi barn
Sut alla'i gynnig cymorth ar hyd y daith?
Gwefan BBC gyda llwyth o wybodaeth - https://www.bbc.co.uk/bitesize/articles/z7s7xyc
Annog trafodaethau am farnau a safbwyntiau gwahanol. Bydd hyn yn gyfle gwych i’w cael i feddwl yn ddadansoddiadol a mynegi eu barn eu hunain.
Annog eich plentyn i gwblhau unrhyw dasgau gwaith cartref
daearyddiaeth
Taith Ddysgu
Tymor 1
Ymchwilio’n chwilfrydig i
ardal leol
Llanelli
Bydd y dysgwyr yn:
datblygu dealltwriaeth o'r ffactorau sy’n creu “cynefin” arbennig Llanelli.
datblygu dealltwriaeth o sut i gynnal ymchwiliad daearyddol – 6 Cam Ymchwiliad.
defnyddio amrywiaeth o sgiliau map i ddehongli mapiau lleol gwahanol.
lleoli Llanelli’n fanwl gywir.
defnyddio tystiolaeth i werthfawrogi’r cyfleoedd sydd gan Lanelli I’w gynnig i’r dyfodol.
Profiadau
Cymryd rhan mewn gwaith maes ynghylch ansawdd yr amgylchedd ar dir yr Ysgol.
Defnyddio mapiau Arolwg Ordnans i gwblhau gweithgareddau ymarfeol am ardal Llanelli.
Gwaith grŵp ynghylch Llanelli cyfoes.
Sut alla'i gynnig cymorth ar hyd y daith?
Gwefan rhyngweithiol Ordnance Surey gyda llawer o wybodaeth a chwisiau hwyl i helpu datblygu sgiliau map.
Annog eich plentyn i gwblhau unrhyw dasgau gwaith cartref.
Trafod ac efallai ymweld gyda llefydd yn yr ardal leol er mwyn datblygu eu synnwyr o le.
crefydd, gwerthoedd a moeseg
Taith Ddysgu
Tymor 1
Meithrin dealltwriaeth ohonyn nhw eu hunain yn y byd ac ymwybyddiaeth o fywydau pobl eraill.
Dyfnhau eu dealltwriaeth o chwe phrif grefydd y byd am eu bod yn sylfaen i astudio’r pwnc ac yn sgil sylfaenol o fewn y ddisgyblaeth.
Deall dylanwadau ar eu bywydau nhw eu hunain ac eraill.
Bydd y dysgwyr yn:
Datblygu dealltwriaeth o wybodaeth sylfaenol crefyddol.
Deall bod pobl yn gweld/ credu pethau gwahanol oherwydd dylanwadau a chredoau gwahanol, a bod rhain yn effeithio bywydau y credinwyr.
Dod yn ymwybodol bod dilynwyr y crefyddau yma yn eu cymunedau / cynefin nhw.
Dod yn ymwybodol o grefydd yng Nghymru .
Profiadau
Her i'r Hyderus
Cyfle i ymestyn gwybodaeth tu hwn i'r gwersi
Clwb "Myfyrio ar Foeseg"
Sesiwn amser cinio i'r rhai sydd â diddordeb.
Sut alla'i gynnig cymorth ar hyd y daith?
Cefnogi nhw gyda'u pecyn Her i'r Hyderus
Gwefan BBC Bitesize yn rhoi cefndir da ar nifer o agweddau
Annog eich plentyn i fod yn ddysgwyr agored a goddefgar