Cyflwyno Cwricwlwm i Gymru

Fel ysgol, rydym wedi bod wrthi'n paratoi ar gyfer diwygiadau Cwricwlwm i Gymru ers cwpwl o flynyddoedd.

Erbyn hyn, o fis Medi 2022 ymlaen, rydym yn darparu cwricwlwm i bob dysgwr ym mlwyddyn 7 yn unol â gofynion Cwricwlwm i Gymru.

Canolbwynt gweledigaeth Llywodraeth Cymru yw'r dyhead i bob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru wireddu'r pedwar diben, a datblygu'n:

  • ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes

  • cyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a’u gwaith

  • dinasyddion egwyddorol, gwybodus Cymru a’r byd

  • unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.

Dysgwch mwy am ein datblygiadau mwyaf diweddar, gan gynnwys ein cyfraniad at astudiaeth achos ar y cyd gyda Llywodraeth Cymru.


📋Gwybodaeth bellach i rieni a gofalwyr

220209-canllaw-i-rieni.pdf

Am ragor o wybodaeth, dilynwch y ddolen isod -

Gwefan Hwb - Gwybodaeth i Rieni a Gofalwyr