Cyfle i drafod, gwrando a dangos empathi mewn grŵp.
Deall sut i roi cyngor a chyfarwyddiadau gan ddefnyddio berfau gorchmynnol.
Cyfle i fod yn greadigol wrth greu eu hysgol ddelfrydol.
Deall sut mae defnyddio iaith yn effeithiol i gyfleu eu syniadau yn ysgrifenedig ac wrth gyflwyno ar lafar.
Bydd y dysgwyr yn datblygu:
sgiliau cydweithio mewn grŵp e.e. cyfathrebu’n glir ac effeithiol gydag eraill gan holi cwestiynau a gwrando gydag empathi.
sgiliau darllen a deall.
dealltwriaeth pa ferfau sydd angen eu defnyddio wrth ysgrifennu ar gyfer cynulleidfa benodol.
cywirdeb ieithyddol yn ysgrifenedig gan ganolbwyntio ar atalnodi, sillafu a threigladau.
sgiliau cyflwyno eu syniadau ar lafar yn glir ac yn hyderus.
Profiadau
Cyfle i ddatblygu hyder ar lafar wrth gydweithio gydag eraill ac wrth gyflwyno’n unigol.
Dathlu diwrnod ‘Shwmae, Sumae?
Ymuno â gweithgareddau'r Clwb Cymreictod.
Annog iddynt ddarllen yn annibynnol ac yn gyson. Bydd rhestr ddarllen ar gael.
Ymuno â’r Urdd er mwyn cael profiadau arbennig: www.urdd.cymru.
Defnyddio ‘Cysill ar lein’ wrth wirio cywirdeb gwaith ysgrifenedig: https://www.cysgliad.com/cysill/arlein
Astudio'r nofel Boy gan Roald Dahl.
Cyfle i ddysgu sut i ffurfio barn ystyriol ar bwnc.
Deall sut i gyfleu barn ar lafar o fewn grwp.
Deall sut i gyfleu barn yn ysgrifenedig gyda hyder a soffistigeiddrwydd cynyddol.
Bydd y dysgwyr yn datblygu gwybodaeth a sgiliau ynghylch:
Sut i lunio barn; deall y gwahaniaeth rhwng ffaith a barn.
Safonau gwaith grŵp - holi cwestiynau a chydweithio ar lafar.
Siarad gyda phwrpas, eglurder, hyder, ac ymwybyddiaeth o iaith.
Gwrando am ystyr, deall a datblygu eu defnydd o'r iaith.
Ysgrifennu gan ganolbwyntio ar sillafu, atalnodi, geirfa a gramadeg.
Profiadau
Cystadlaethau ysgrifennu creadigol.
Trafod y defnydd o gosb mewn ysgolion uwchradd
Apiau defnyddiol: Spellbee, Word Connect, Words of Wonders, Spelling Shed, Reading Eggs, Wordoid.
Gwefannau:
Dod i adnabod rheolau ynganiad yr iaith Ffrangeg
Datblygu banc o eirfa Ffrangeg er mwyn gallu cyflwyno manylion personol amdanyn nhw eu hunain
Dod i adnabod yr hyn sy'n debyg rhwng pob un o'u hieithoedd er mwyn gwella eu dealltwriaeth o'r iaith Ffrangeg a'u hieithoedd gyntaf.
Bydd y dysgwyr yn...
datblygu dealltwriaeth o reolau ynganiad Ffrangeg
dysgu am fathau o eiriau, e.e ansoddeiriau a berfau
dysgu sut i dorri geiriau'n ddarnau llai a'u cymharu gyda ieithoedd eraill er mwyn darganfod eu hystyron
Profiadau
Cwrdd â Simon y gwningen yn ystod ein stori gyntaf.
Creu cymeriad 'Monstre'
Help llaw i ddysgu geirfa – e.e. gosod 'post its' o amgylch y tŷ neu ymarfer yn y car
Geiriadur Ffrangeg ar y we - Linguee