Uned 1 - 'Fi fy hun'
Bydd y dysgwyr yn cwblhau 'Proffil Un Tudalen'. Byddant yn adnabod eu cryfderau a'u meysydd gwella a'n ystyried sut gall yr ysgol eu cynorthwyo i ddatblygu'n unigolion iach, hyderus ac uchelgeisiol.
Uned 2 - 'Ein emosiynau'
Bydd y dysgwyr yn dysgu sut i adnabod, labelu a rheoli eu hemosiynau gan arbrofi gyda gwahanol strategaethau.
Uned ymarferol
Bydd gwersi ymarferol yn rhoi’r cyfle i ddysgwyr ddatblygu eu sgiliau llythrennedd corfforol, cyfathrebu a gwaith tîm trwy gyfrwng amryw o weithgareddau creadigol a chystadleuol.
Sgiliau a Gwybodaeth
Rhyngweithio a chydweithio trwy gyfathrebu, cyfnewid a rhannu gwybodaeth, a chwblhau tasgau a chyflwyniadau o fewn grwpiau.
Hunan werthuso'n drylwyr gan gynnwys gosod targedau byr dymor a hir dymor.
Datblygu dealltwriaeth ynghylch amrywiaeth o gampau, ac atgyfnerthu eu sgiliau mewn sefyllfaoedd gwahanol.
Profiadau
Clybiau allgyrsiol
Teithiau Iechyd a Lles
Cyfleoedd arwain
Sesiynau blasu gweithgareddau ymarferol
Cynorthwyo gyda thasgau sydd wedi eu gosod ar Teams (Gydol Oes).
Annog eich plentyn i drefnu unrhyw offer/ cit perthnasol ar gyfer eu gwersi'n annibynnol.
Annog eich plentyn i fynychu yr amrywiaeth o glybiau allgyrsiol sydd ar gael o fewn yr ysgol.