Bwletin Rhieni Bl.7

Prif bwrpas y bwletin yma yw cynnig braslun o 'daith ddysgu' eich plentyn dros y tymor nesaf.

Rydym wedi trefnu'r wybodaeth fesul Meysydd Dysgu a Phrofiad lle gallwch ddarllen crynodeb o ffocws y tymor, y prif sgiliau a gwybodaeth sy'n cael eu datblygu ynghyd â'r profiadau sy'n cael eu cynnig i'ch plentyn.

Sylwch hefyd fod pob maes yn nodi sut y gallwch chi, fel rhieni a gofalwyr, gynnig cymorth pellach i'ch plentyn ar hyd y daith ddysgu.

Ar hyd eu taith ddysgu yn y Strade bydd eich plentyn yn;​

  • cynyddu ehangder a dyfnder eu gwybodaeth;​

  • dyfnhau eu dealltwriaeth a​

  • mireinio eu sgiliau

wrth ddod yn fwy annibynnol a chymhwyso eu dysgu i sefyllfaoedd newydd.

Byddant yn gwneud hyn o fewn ac ar draws y chwe Maes Dysgu a Phrofiad (MDaPh) isod;​

Gwasgwch y botwm 'Cartref' (top cornel dde y dudalen) er mwyn darllen mwy am y Meysydd Dysgu a Phrofiad yma.

💬Lleisiwch eich barn...

Rydym yn awyddus iawn i glywed eich sylwadau ac unrhyw awgrymiadau pellach er mwyn i ni allu eu hystyried tra'n dylunio cwricwlwm eich plentyn.

Dyma eich cyfle i leisio eich barn!

Gofynnwn yn garedig i chi gwblhau'r holiadur Forms yma erbyn dydd Gwener 14/10/22.

Diolch yn fawr iawn o flaen llaw am eich cymorth 😊

📲Dilynwch ni...

Cofiwch fod modd dilyn yr ysgol a nifer o'n adrannau trwy gyfrwng ein tudalennau Trydar!