Llwybr EBSA Conwy

Mae’r llwybr EBSA wedi’i ddynllunio i ddarparu fframwaith i ysgolion i’w helpu i nodi, asesu a chefnogi EBSA.

1. Yr ysgol/cartref/gweithiwr proffesiynol arall yn dynodi angen

Mae’r ysgol yn chwarae rhan allweddol o ran adnabod plant a phobl ifanc sydd yn profi, neu mewn risg o EBSA ar hyn o bryd. Mae’n bwysig i ysgolion;

  • Ddatblygu systemau ysgol gyfan effeithiol er mwyn cefnogi pobl ifanc,

  • Bod yn wyliadwrus o ffactorau risg cynnar a phatrymau presenoldeb.

  • Dylai’r ysgol ddilyn cylchred asesu, cynllunio, gweithredu ac adolygu trylwyr, gan roi’r unigolyn ifanc yn ganolbwynt i’r ymyraethau.

Dangosyddion posibl

  • Mae’n bwysig iawn bod yn rhyngweithiol gydag EBSA. Os nad eir i’r afael â phroblemau yn syth, ni fydd y canlyniad gystal oherwydd gall yr anawsterau a’r ymddygiadau gael eu sefydlu. Rhaid i ysgolion fod yn wyliadwrus wrth fonitro presenoldeb pobl ifanc, gan adnabod unrhyw batrymau o absenoldebau neu newid mewn ymddygiad. Gellir dod o hyd i Broffil Risg EBSA yn adnoddau.

2. Cydlynydd EBSA i oruchwylio achosion

  • Goruchwylio prosesau EBSA

  • Derbyn ‘atgyfeiriadau’ gan staff, rhieni neu weithwyr proffesiynol eraill

  • Sicrhau y dilynir gweddill y broses a phenderfynu pwy sydd yn y sefyllfa orau i gwblhau’r tasgau.

  • Mae’n debyg y bydd y cydlynydd EBSA yn rhywun sydd eisoes â chyfrifoldebau dros bresenoldeb.

  • Byddant wedi cwblhau hyfforddiant cydlynydd EBSA.

3. Aelod dynodedig o staff i gasglu gwybodaeth a data cychwynnol, yn cynnwys ffonio’r cartref

Unwaith y bydd yr anhawster wedi’i ddynodi mae’n hanfodol ennill dealltwriaeth o’r amrywiol elfennau sy’n achosi ac yn cynnal yr ymddygiadau EBSA.

Amcan pennaf hyn yw:

  • Cadarnhau mai EBSA sy’n achosi absenoldeb y plentyn yn hytrach na thriwantiaeth neu absenoldeb gyda chydsyniad rhiant.

  • Ennill dealltwriaeth o’r ffactorau gwthio a thynnu yn ogystal â swyddogaeth yr EBSA - bydd hyn yn cynnwys ystyried ffactorau risg.

  • Casglu gwybodaeth am yr amrywiolffactorau perthnasol i’r plentyn, y teulu a’r ysgol a allent fod yn cyfrannu at yr EBSA.

4. Cyfarfod â’r ysgol, y teulu a’r plentyn/unigolyn ifanc er mwyn sicrhau cyd-ddealltwriaeth

Gall bob person fod â safbwynt gwahanol ar EBSA a stori wahanol i’w adrodd. Mae’n hanfodol fod safbwyntiau gwahanol pobl yn cael eu parchu a bod gwahaniaethau mewn safbwyntiau yn cael eu cydnabod. Os oes safbwyntiau gwahanol yn aml mae’n fwy defnyddio i ganolbwyntio ar sut mae’r ymddygiad yn digwydd yn hytrach na pham.

Yn sgil natur cymhleth EBSA, ni ellir dilyn un ‘proses asesu’ sefydlog. Fodd bynnag, ymhob achos mae’n hanfodol fod barn yr unigolyn ifanc, y teulu a phersonél allweddol yr ysgol yn cael eu casglu a’u hystyried.

Gweithio gyda’r plentyn

Mae unrhyw blentyn sy’n osgoi mynd i’r ysgol yn debygol o fod yn orbryderus pan fydd gofyn iddo siarad am ddychwelyd i’r ysgol. Maent yn rheoli eu teimladau o orbryder drwy ddefnyddio ymddygiad osgoi mynd i’r ysgol, felly mae unrhyw sgwrs am fynd yn ôl i’r ysgol yn siŵr o godi eu gorbryder, gan eich bod yn cynnig cymryd eu ffordd nhw o ymdopi gyda’i hofnau i ffwrdd. Lle da i ddechrau unrhyw asesiad gydag unigolyn ifanc yw cydnabod y gall fod yn anodd ond hoffech wybod beth maent yn ei feddwl a’i deimlo. Mae’n bwysig nad yw’r oedolyn yn diystyru gorbyrderon neu ofnau’r plentyn, ac yn dangos empathi gyda’r unigolyn ifanc ond nid ddylai esgusodi na hyrwyddo EBSA.

Bydd y dulliau a ddefnyddir yn dibynnu ar oedran y plentyn a lefel o ddeallusrwydd ac iaith. Hyd yn oed os oes ganddynt y gallu, mae plant yn ei gweld yn anodd lleisio’r hyn maent yn ei feddwl a’i deimlo ac efallai bod well ganddynt dynnu llun o’r hyn maent yn ei deimlo neu gael ysgogiad gweledol.

Gall rai enghreifftiau o weithgareddau neu gwestiynau gynnwys:

  • Meddyliwch am eich meddyliau a theimladau am yr ysgol a sut fyddai’r rhain yn edrych mewn llun?

  • Mae hefyd yn helpu i allanoli’r gorbryder:

o Pa enw fyddech chi’n rhoi ar y teimlad rydych yn ei brofi pan rydych yn meddwl am fynd i’r ysgol?

o Os fuasai’n beth, sut fyddai’n edrych? Beth fyddai’n ei ddweud?

o Sut mae’r ________ yn rhwystro i chi fynychu’r ysgol? Pryd mae’r ______ yn rheoli a phryd ydych chi’n rheoli?

  • Gofynnwch iddynt dynnu llun sut mae eu corff yn teimlo pan maent yn poeni.

  • Defnyddiwch thermomedr gorbryder neu raddfa er mwyn gofyn i’r plentyn pa agweddau o’r ysgol maent yn ei weld yn anodd, mae rhai agweddau i’w hystyried yn cynnwys:

o Yr amgylchedd ffisegol e.e. toiledau, coridorau, neuadd

o Amseroedd yn y diwrnod neu ryngweithio cymdeithasol e.e. cyrraedd yr ysgol, amser chwarae ac egwyl, ciwio i fynd i’r ysgol neu ddosbarth, amser cinio, mynd adref, newid ar gyfer addysg gorfforol

o Gwersi neu weithgareddau penodol o fewn gwersi e.e. ysgrifennu, gweithio fel rhan o grŵp, darllen yn uchel, ateb cwestiwn ar lafar

  • Gall lwybr neu graff bywyd eu helpu i ddweud eu ‘stori hyd yn hyn’ a beth maent eisiau yn y dyfodol

Gweithio gyda Rhieni
Fel y nodwyd yn flaenorol, gall rieni ei gweld yn anodd siarad am y pryderon sydd ganddynt a’r anawsterau maent yn ei brofi wrth geisio cael eu plentyn i fynychu’r ysgol. Mae’n bwysig bod yr ysgol yn cymryd amser i adeiladu partneriaeth cydweithredol i gydweithio er lles gorau’r plentyn. Weithiau gall rieni fod â phrofiadau tebyg i’w plentyn a gallent brofi eu gorbryder eu hunain gan ei wneud yn sefyllfa anodd iddynt.

Yn ystod y cyfarfod cychwynnol, mae’n bwysig casglu gwybodaeth gefndirol, gan sefydlu’r sefyllfa bresennol a barn y rhieni. Dylai’r cwestiynau fod yn sensitif a dylai’r unigolyn sy’n gofyn y cwestiynau ddefnyddio sgiliau gwrando gweithredol. Gellir dod o hyd i gwestiynau i’w gofyn yn y tabl isod. Cynghorir fod cyswllt rheolaidd yn cael ei wneud gyda’r rhieni a dylai staff yr ysgol ganfod pwy fydd yr unigolyn allweddol i gyfathrebu gyda rheini a chytuno ar sut i wneud hyn.

Gweithio gyda staff yr ysgol

Mae’n hanfodol fod cynrychiolwyr o ysgolion yn ceisio gwybodaeth gan aelodau o staff sy’n gweithio agosaf gyda’r plentyn neu unigolyn ifanc. Rydym oll yn ymateb yn wahanol yn unol â’r amgylchedd, sefyllfa neu dasg a gyda phobl wahanol. Efallai bydd gan bob aelod o staff wybodaeth werthfawr i helpu adnabod sbardunau gorbryder a strategaethau y mae’r unigolyn ifanc yn ymateb iddynt yn gadarnhaol. Yn benodol, mae’n bwysig ceisio barn unrhyw aelod o staff mae’r unigolyn ifanc yn siarad amdanynt mewn modd cadarnhaol ac unrhyw aelod o staff sydd â pherthynas mwy anodd gyda’r plentyn.

Mae gwybodaeth allweddol i gasglu yn cynnwys:

· Beth yw cryfderau’r unigolyn ifanc?

· Beth sy’n mynd yn dda?

· Unrhyw anawsterau maent wedi sylwi arnynt?

· Perthnasoedd â chyfoedion

· Perthnasau gydag oedolion

· Ymateb i dasgau academaidd

· Os ydynt wedi bod yn dyst i drallod emosiynol, sut oedd hyn yn edrych a beth achosodd hyn?

· Pa gymorth neu wahaniaethau sydd mewn lle a sut mae’r unigolyn ifanc yn ymateb i hyn

· Unrhyw syniadau ar gyfer cymorth ychwanegol

Mae hefyd yn hanfodol ystyried os oes gan y plentyn Anghenion Dysgu Ychwanegol heb eu nodi, anghenion meddygol neu anabledd. Os nad ydynt eisoes ynghlwm, dylai staff ysgol ymgynghori gyda Chydlynydd ADY yr ysgol. Gellir dod o hyd i enghraifft o ffurflen ‘casglu gwybodaeth’ yn lawrlwythiadau.

Dehongli’r wybodaeth a chynllunio

Ar ôl casglu gwybodaeth gan y plentyn, teulu a’r ysgol ac unrhyw weithiwr proffesiynol arall, mae’n hanfodol fod y wybodaeth yn cael ei roi ynghyd er mwyn gwneud synnwyr ohono. Bod trosolwg o’r darlun cyflawn a ffactorau amrywiol sydd ynghlwm yn cael eu casglu a bod damcaniaeth posibl yn cael ei ffurfio. Yna dylai’r rhain lywio’r cynllun cefnogi dychweliad i’r ysgol.

Mae’r ffurflen wedi’i ddylunio i’ch helpu i integreiddio’r wybodaeth a gesglir gan yr unigolyn ifanc, yr ysgol a’r teulu. Nid yw wedi cael ei ddylunio i fod yn holiadur, ond yn hytrach, adnodd i’w gwblhau ar ôl casglu gwybodaeth i’ch helpu goladu, integreiddio a dadansoddi’r wybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau. Gellir dod o hyd i gopi gwag yn lawrlwythiadau.


5. Datblygu cynllun cymorth a gweithredu gyda mewnbwn y plentyn/unigolyn ifanc a’u teulu.

Ar ôl i’r broses casglu gwybodaeth a dadansoddi ddigwydd, dylid gwneud cynllun cefnogi neu ddychwelyd i’r ysgol. Rhaid i’r holl gynlluniau gael eu cyd-gynhyrchu gyda rhieni, y plentyn ac unrhyw asiantaethau priodol eraill. Rhaid i’r holl bartïon fod yn rhan. Bydd pob cynllun yn wahanol yn ôl y camau gweithredu a nodwyd yn yr asesiad, bydd yr hyn a weithiodd gydag un plentyn, ddim o reidrwydd yn gweithio gyda phlentyn arall.

Dylai’r cynlluniau bob amser fod yn realistig ac yn gyflawnadwy gyda’r nod o ailintegreiddio’r unigolyn ifanc Bydd cynllun sy’n rhy uchelgeisiol yn debygol o fethu. Dylai’r dychweliad fod yn raddol a fesul cam a dylai pawb gydnabod nad yw ‘datrysiad sydyn’ bod amser yn bosibl. Efallai bydd angen amserlen rhan amser fel rhan o’r broses hon, ond dylai hyn fod yn ddatrysiad dros dro ac nid fel dewis hirdymor, oherwydd bod gan holl blant yr hawl i addysg llawn amser.

Dylai holl bartïon fod yn ymwybodol y gall anawsterau godi wrth weithredu’r cynllun, a dylid rhagweld y rhain a chanfod datrysiadau. Dylid cymryd dull optimistaidd, os yw’r plentyn wedi methu â mynd i’r ysgol un diwrnod, dechreuwch eto’r diwrnod canlynol. Dylai rhieni a’r ysgol ragweld y bydd mynd i'r ysgol ar ôl gwyliau ysgol, cyfnod o salwch neu ar ôl y penwythnos, yn debygol o fod yn anoddach.

Ar ddechrau’r cynllun mae’r plentyn yn debygol o ddangos mwy o drallod a dylai pawb fod yn ymwybodol o hyn. Rhaid i staff ysgol a rhieni gydweithio er mwyn cytuno ar ddull cadarn a chyson. Ni ddylid rhannu unrhyw bryder am y broses gyda’r plentyn, argymhellir eich bod chi’n ‘sefyll ynghyd’ yn gadarnhaol. Dylai unrhyw bryderon gael eu codi heb y plentyn.

Dylai ysgolion gymryd dull unigol a hyblyg i anghenion yr unigolyn ifanc. Dylai holl staff ysgol sy’n dod i gyswllt gyda’r unigolyn ifanc fod yn ymwybodol o’r cynllun dychwelyd i’r ysgol ac unrhyw addasiadau o’r arferion neu ddisgwyliadau sydd mewn lle i gefnogi’r plentyn.

Unwaith y cytunir ar y camau gweithredu yn y cynllun cefnogi gyda’r unigolyn ifanc, e.e. dychwelyd i’r ysgol mewn camau graddol, dylid glynu at yr hyn sydd wedi cael ei gytuno ar yr wythnos honno, hyd yn oed os yw pethau’n mynd yn dda iawn, oherwydd gall wthio pethau ymlaen yn gyflymach na’r hyn a gytunwyd, godi gorbryder, lleihau ymddiriedaeth a chael effaith negyddol ar y cyfan. Dylai fformat y cynllun cefnogi fod yn hyblyg. Os yw’n briodol, dylid creu fersiwn unigolyn ifanc. Gellir dod o hyd i enghreifftiau o gynllun cefnogi yn addnoddau.

Mae llenyddiaeth wedi canfod elfennau allweddol i gymorth a ddylai fod mewn lle er mwyn i gynllun gweithredu ailintegreiddio fod yn llwyddiannus.

6. Adolygu cynnydd ac ystyried atgyfeiriad at y Gweithiwr Cymdeithasol

Unwaith y bydd holl gamau'r llwybr wedi'u cwblhau, gellir rhoi'r cymorth a'r cynllun gweithredu ar waith gyda'r ddealltwriaeth o pam mae'r EBSA yn digwydd. Efallai y bydd angen ymyriadau pellach, yn dibynnu ar swyddogaeth yr ymddygiad. Amlygir ymyriadau ac awgrymiadau strategaeth yn y canllawiau.

Adolygu

Mae’n hanfodol fod unrhyw gynllun yn cael ei adolygu’n rheolaidd. Dylid gosod dyddiadau penodol ar gyfer adolygu sut mae unrhyw gynllun cefnogi yn gwneud cynnydd a dylai personél allweddol fynychu. Mae’n hanfodol fod y bobl ifanc a’r rhieni yn rhan weithredol o’r adolygiad.

Dylai’r adolygiad ganfod a dathlu unrhyw gynnydd a waned, ac adolygu os oes unrhyw wybodaeth bellach wedi dod i’r golwg er mwyn helpu i lywio’r camau nesaf. Gall y camau hyn gynnwys:

  • Atgyfnerthu a chynnal y cynllun cefnogi presennol

  • Gosod canlyniadau a/neu gamau gweithredu newydd ar gyfer yr unigolyn ifanc, ysgol a rhieni

  • Canfod os oes angen ymgynghoriad pellach gydag asiantaethau eraill, a all, os oes angen, arwain at atgyfeiriad i wasanaethau eraill.


Unwaith y bydd holl gamau'r llwybr wedi'u cwblhau, gellir rhoi'r cymorth a'r cynllun gweithredu ar waith gyda'r ddealltwriaeth o pam mae'r EBSA yn digwydd. Efallai y bydd angen ymyriadau pellach, yn dibynnu ar swyddogaeth yr ymddygiad. Amlygir ymyriadau ac awgrymiadau strategaeth yn y canllawiau.


Os nad oes cynnydd, dylech ystyried cyfeirio at eich Gweithiwr Cymdeithasol Addysgol.