Osgoi Ysgolion ar Sail Emosiynol- Canllaw Ysgolion. 

Defnyddir y term Osgoi’r Ysgol ar Sail Emosiwn (EBSA) i ddisgrifio’r anhawster mae rhai plant a phobl ifanc yn ei brofi wrth fynychu’r ysgol yn sgil ffactorau emosiynol, sy’n aml yn arwain at gyfnodau estynedig o absenoldeb. Yn aml, gorbryder yw’r prif emosiwn sy’n cael ei brofi gan blant a phobl ifanc sy’n dangos arwyddion o EBSA. Gall rai plant siarad am eu hofnau, ar gyfer plant eraill gall yr ofnau ymddangos yn eu hymddygiad, a gall rai, yn arbennig plant ifanc, brofi teimladau corfforol sy’n gysylltiedig â’u teimladau o ofn a phryder.

 

Gall effeithiau EBSA fod yn sylweddol. Mae ymchwil yn dangos y gall EBSA fod yn gysylltiedig â chyrhaeddiad academaidd gwael, llai o gyfleoedd cymdeithasol a llai o gyfleoedd gwaith.

 

Nod y dudalen hon yw darparu canllawiau ar gyfer ysgolion ar sut i gefnogi disgyblion sy’n profi, neu mewn risg o brofi EBSA.  

Beth yw Osgoi’r Ysgol ar Sail Emosiwn? 

Diffiniad

Mae Osgoi’r Ysgol ar Sail Emosiwn yn derm ambarél eang a ddefnyddir i ddisgrifio plant a phobl ifanc sy’n cael anhawster mynychu ysgol yn sgil ffactorau emosiynol, ac yn aml mae’n arwain at absenoldebau o’r ysgol. Mae’n wahanol i blant a phobl ifanc sy’n absennol yn sgil chwarae triwant a gall fod yn hynod o anodd ar gyfer y plentyn neu’r unigolyn ifanc.

Achos

Nid oes un achos penodol ar gyfer EBSA, mae fel arfer wedi ei seilio ar nifer o ffactorau gan gynnwys yr unigolyn ifanc, y teulu ac amgylchedd yr ysgol. Fel arfer mae pedwar prif reswm ar gyfer osgoi’r ysgol:

Cyffredinrwydd

Gall EBSA ddechrau yn sydyn neu’n raddol, yn aml gydag EBSA ar ei waethaf yr un pryd â’r trosglwyddiad rhwng camau yn yr ysgol.  Mae’r ffactorau mwyaf cyffredin wedi’u rhestru isod:

Cyffredinrwydd yn Sir Conwy

Fel rhan o gam datblygu llwybr EBSA Conwy, cynhaliodd Gwasanaeth Seicoleg Addysg Conwy a’r Gwasanaeth Gwaith Cymdeithasol Addysg, ymchwil er mwyn ymchwilio i’r rhesymau pam fod rhai plant a phobl ifanc yn ei gweld yn anodd mynychu’r ysgol yng Nghonwy.

Holiadur Lles Disgyblion

Hefyd cynhaliwyd holiaduron lles electronig gyda 52 o ddisgyblion ar draws ysgolion Conwy o flwyddyn 3 i flwyddyn 11. Roedd y disgyblion hyn yn cynrychioli trawstoriad o bobl ifanc oedd yn derbyn cymorth gan y Gwasanaeth Ieuenctid a’r Gwasanaeth Gwaith Cymdeithasol Addysg, ac oedd yn ei chael yn anodd mynychu’r ysgol.

O’r ymchwil hwn, canfuwyd 3 thema allweddol a oedd yn bwysig i blant a phobl ifanc a oedd yn ei chael yn anodd mynychu ysgol yng Nghonwy;

Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr (2019), Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion

Mae canfyddiadau diweddaraf o Adroddiad Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion ar gyfer Conwy wedi cael eu hadolygu yng ngoleuni ymchwil EBSA er mwyn canfod unrhyw themâu cyffredin ac sy’n digwydd yn aml. Gofynnwyd i holl fyfyrwyr o flwyddyn 7 hyd at 11 mewn ysgolion uwchradd ar draws Conwy, gwblhau’r arolwg yn ystod y cyfnod o fis Medi i fis Rhagfyr 2019. Roedd rhai o’r themâu trawsbynciol yn cynnwys teimlo pwysau o ran gwaith ysgol, ddim yn teimlo cysylltiad cryf â’r ysgol ac anawsterau gyda pherthnasau â chyfoedion. Mae’r data canlynol o adroddiad y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion yn amlygu rhai o’r themâu hyn. 

Holiadur Gweithwyr Proffesiynol Conwy

Hefyd anfonwyd holiaduron at ysgolion Conwy ac ystod o wasanaethau ar draws Cyngor Sir Conwy er mwyn casglu ciplun o’r nifer o achosion o EBSA sydd ar hyn o bryd yn derbyn cymorth gan wasanaethau Conwy. Roedd hefyd yn ceisio dod o hyd i’r hyn sy’n gweithio ar hyn o bryd, a pha gymorth yr oedd ysgolion a gwasanaethau yn credu y fyddai’n ddefnyddiol wrth symud ymlaen.

Roedd mwyafrif y gwasanaethau ac ysgolion a ymatebodd yn adrodd am gynnydd yn y nifer o achosion EBSA dros y 12 mis ddiwethaf. Hefyd nododd yr ysgolion a gwasanaethau fod gorbryder rhieni ac anawsterau o fewn y cartref yn aml yn cael effaith arwyddocaol ar ddisgyblion EBSA. Roedd disgyblion hefyd yn dangos arwyddion o rwystrau eraill megis Anghenion Dysgu Ychwanegol a bod yn Ofalwyr Ifanc.

Roedd achosion EBSA fel arfer yn cyflwyno’r dangosyddion canlynol:

Grwpiau Ffocws

Er mwyn cael gwell dealltwriaeth o brofiadau plant a phobl ifanc yng Nghonwy ac i archwilio’r 3 thema allweddol a gododd o ymchwil EBSA ymhellach, cynhaliwyd grwpiau ffocws dilynol a chyfweliadau lled-strwythuredig unigol gyda myfyrwyr o sampl o ysgolion Conwy.

Roedd y grwpiau ffocws hyn yn pwysleisio pwysigrwydd y 3 thema allweddol a ganfuwyd drwy Holiaduron Lles Disgyblion ac hefyd fe amlygwyd ffactorau allweddol eraill ar gyfer eu hystyried wrth ddatblygu dull EBSA Conwy. Gweler archwiliad pellach o’r canfyddiadau hyn isod:

 Mae'n bwysig cefnogi disgyblion i ddatblygu eu sgiliau cadernid ac ymdopi er mwyn eu galluogi i reoli eu teimladau o straen a phryder ar sail dydd i ddydd.

Beth fyddai’n helpu?

Yn olaf, gofynnwyd i fyfyrwyr ac ysgolion a gwasanaethau Conwy eu barn am yr hyn fyddai’n ddefnyddiol i’w cynnwys mewn unrhyw ddull i gefnogi disgyblion sy’n profi EBSA. Mae strategaethau ac adnoddau a allai helpu yn cynnwys:

Gorbryder ac EBSA 

Mae gorbryder hefyd wedi cael ei nodi fel nodwedd allweddol o EBSA. Er fod lefel penodol o bryder yn cael ei ystyried yn normal ac yn ran naturiol o dyfu i fyny, mae rhai pobl ifanc yn profi lefelau uchel o bryder sy’n effeithio ar eu gweithgarwch a phrofiadau ysgol.  

 

Os yw’r pryder yn cael ei gysylltu ag osgoi’r ysgol, gall yr unigolyn ifanc brofi meddyliau pryderus ac ofnus o ran mynychu’r ysgol a’u gallu i ymdopi â’r ysgol. Gall y teimladau hyn hefyd ddod gyda symptomau seicolegol pryder, megis teimlo’n sâl, chwydu, crynu, chwysu ac ati, a gall hyn ddechrau y noson gynt, neu hyd yn oed ychydig o ddyddiau cyn yr ysgol.  

 

Er mwyn osgoi’r emosiynau llethol hyn a’r ofn sy’n gysylltiedig â phresenoldeb yn yr ysgol, gall yr unigolyn ifanc dynnu yn ôl o’r sefyllfa, gwrthod paratoi ar gyfer yr ysgol neu wrthod gadael y tŷ neu fynd mewn i’r ysgol. Gall yr unigolyn ifanc hefyd droi tuag at ymddygiad cas fel modd o osgoi’r sefyllfa bygythiol ac i geisio rheoli’r hyn sy’n teimlo fel sefyllfa sydd ‘allan o reolaeth’.  

 

Gall yr ymddygiad hyn, ac osgoi ysgol, gyfrannu tuag at gynnal EBSA dros amser. Mae’n hanfodol ystyried teimladau’r plentyn o ran eu gallu i ymdopi yn gymdeithasol ac yn addysgol, oherwydd gall deimladau negyddol am eu gallu i ymdopi, arwain at deimladau pellach o bryder.        

Ffactorau Risg a Gwydnwch

Bydd gwahanol blant yn gyndyn o fynychu ysgol am wahanol resymau. Mae fel arfer yn gyfuniad unigryw o ffactorau amrywiol a’u rhyngweithiad yn hytrach nac un achos sy’n arwain at EBSA.

RISG: Yn yr un modd ag iechyd meddwl cyffredinol mae ffactorau wedi’u nodi sy’n rhoi plant mewn mwy o risg o EBSA. Mae fel arfer yn gyfuniad o ffactorau blaenorol yn rhyngweithio gyda newid mewn amgylchiadau sy’n arwain at batrwm o ymddygiad a ddisgrifir fel EBSA. Gall y ffactorau blaenorol gyflwyno yn natur yr ysgol, teulu’r plentyn neu’r plentyn ei hun.

GWYDNWCH: Wrth weithio gydag unigolion mae’n hynod o bwysig canfod ac adeiladu agweddau o gryfder neu wydnwch y plentyn, teulu ac ysgol hefyd, a all helpu i ‘ddiogelu'r plentyn a hybu presenoldeb ysgol.

Ffactorau ‘gwthio’ a ‘tynnu’

Mae’r ffactorau ‘risg a gwydnwch’ sy’n cyfrannu, hefyd yn gallu cael eu rhannu, a’u deall yn nhermau ffactorau ‘gwthio’ a ‘thynnu’.


Mae Osgoi’r Ysgol ar Sail Emosiynol yn fwy tebygol o ddigwydd pan mae’r risgiau yn fwy na’r gwydnwch, pan fo’r straen a gorbryder yn fwy na’r gefnogaeth, a phan mae’r ffactorau ‘tynnu’ sy’n hybu osgoi ysgol yn rhagori’r ffactorau ‘gwthio’ sy’n annog mynychu’r ysgol. 

Enghraifft o ffactorau ‘Gwthio’ a ‘Thynnu’ posibl

Cefnogi plant sydd mewn risg o neu yn profi EBSA

Adnabod, casglu gwybodaeth a chynllunio 

Mae’r ysgol yn chwarae rhan allweddol o ran adnabod plant a phobl ifanc sydd yn profi, neu mewn risg o EBSA ar hyn o bryd. Mae’n bwysig i ysgolion;

Dangosyddion posibl

Mae’n bwysig iawn bod yn rhyngweithiol gydag EBSA. Os nad eir i’r afael â phroblemau yn syth, ni fydd y canlyniad gystal oherwydd gall yr anawsterau a’r ymddygiadau gael eu sefydlu. Rhaid i ysgolion fod yn wyliadwrus wrth fonitro presenoldeb pobl ifanc, gan adnabod unrhyw batrymau o absenoldebau neu newid mewn ymddygiad. Gellir dod o hyd i Broffil Risg EBSA yn adnoddau. Gall hyn helpu ymarferwyr ganfod meysydd o risg. Mae’r proffil yn edrych ar 5 maes risg allweddol ar gyfer EBSA. Dylid defnyddio’r rhestr wirio ar y cyd â’r systemau monitro presenoldeb arferol yn yr ysgol, er mwyn sgrinio am EBSA posibl mewn perthynas ag absenoldeb.

Casglu gwybodaeth a dadansoddi

Unwaith i anhawster gael ei ganfod, mae’n hanfodol cael dealltwriaeth o’r agweddau amrywiol sy’n achosi a chynnal ymddygiadau EBSA.

Prif nod y dadansoddiad hwn yw:

Yn aml, mae’n demtasiwn i geisio cael rheswm syml a datrysiad syml ar gyfer yr ymddygiad. 

Fodd bynnag, fel y nodwyd yn flaenorol, yn aml mae’n rhyngweithiad rhwng nifer o ffactorau ac wrth geisio dod o hyd i reswm syml gall hyn annog beio ac yna gall unigolion ddod yn orbryderus ac amddiffynnol. Gall rieni deimlo eu bod yn cael y bai am yr absenoldebau, gallent hefyd deimlo bod eu sgiliau rhianta yn cael eu beirniadu a gallent fod ag ofn mynd i drwbl neu gael eu herlyn am yr absenoldeb. Gall blant deimlo’n euog neu ofn y byddent yn cael eu gorfodi i fynychu’r ysgol. 

Gall bob person fod â safbwynt gwahanol ar EBSA a stori wahanol i’w adrodd. Mae’n hanfodol fod safbwyntiau gwahanol pobl yn cael eu parchu a bod gwahaniaethau mewn safbwyntiau yn cael eu cydnabod. Os oes safbwyntiau gwahanol yn aml mae’n fwy defnyddio i ganolbwyntio ar sut mae’r ymddygiad yn digwydd yn hytrach na pham.

Yn sgil natur cymhleth EBSA, ni ellir dilyn un ‘proses asesu’ sefydlog. Fodd bynnag, ymhob achos mae’n hanfodol fod barn yr unigolyn ifanc, y teulu a phersonél allweddol yr ysgol yn cael eu casglu a’u hystyried.

Gweithio gyda’r plentyn 

Gall rai enghreifftiau o weithgareddau neu gwestiynau gynnwys:

o Pa enw fyddech chi’n rhoi ar y teimlad rydych yn ei brofi pan rydych yn meddwl am fynd i’r ysgol?

o Os fuasai’n beth, sut fyddai’n edrych? Beth fyddai’n ei ddweud?

o Sut mae’r ________ yn rhwystro i chi fynychu’r ysgol? Pryd mae’r ______ yn rheoli a phryd ydych chi’n rheoli?

o   Yr amgylchedd ffisegol e.e. toiledau, coridorau, neuadd

o   Amseroedd yn y diwrnod neu ryngweithio cymdeithasol e.e. cyrraedd yr ysgol, amser chwarae ac egwyl, ciwio i fynd i’r ysgol neu ddosbarth, amser cinio, mynd adref, newid ar gyfer addysg gorfforol

o   Gwersi neu weithgareddau penodol o fewn gwersi e.e. ysgrifennu, gweithio fel rhan o grŵp, darllen yn uchel, ateb cwestiwn ar lafar

Gweithio gyda Rhieni/ Gofalwyr 

Fel y nodwyd yn flaenorol, gall rhieni/gofalwyr ei gweld yn anodd siarad am y pryderon sydd ganddynt a’r anawsterau maent yn ei brofi wrth geisio cael eu plentyn i fynychu’r ysgol. Mae’n bwysig bod yr ysgol yn cymryd amser i adeiladu partneriaeth cydweithredol i gydweithio er lles gorau’r plentyn. Weithiau gall rhieni/gofalwyr fod â phrofiadau tebyg i’w plentyn a gallent brofi eu gorbryder eu hunain gan ei wneud yn sefyllfa anodd iddynt.

Mae gweithio gyda rhieni/gofalwyr yn hanfodol i gael canlyniadau llwyddiannus. Er fod y canolbwynt ar y plentyn mae hefyd yn bwysig cofio y gall rieni fod angen cefnogaeth eu hunain a dylid ystyried os oes angen gwneud atgyfeiriad i wasanaethau megis Cymorth i Deuluoedd Conwy. Mae mwy o fanylion i'w gweld drwy glicio ar y ddolen ganlynol:  Bywyd Teuluol Conwy

Yn ystod y cyfarfod cychwynnol, mae’n bwysig casglu gwybodaeth gefndirol, gan sefydlu’r sefyllfa bresennol a barn y rhieni. Dylai’r cwestiynau fod yn sensitif a dylai’r unigolyn sy’n gofyn y cwestiynau ddefnyddio sgiliau gwrando gweithredol. Gellir dod o hyd i gwestiynau i’w gofyn yn y tabl isod. Cynghorir fod cyswllt rheolaidd yn cael ei wneud gyda’r rhieni a dylai staff yr ysgol ganfod pwy fydd yr unigolyn allweddol i gyfathrebu gyda rheini a chytuno ar sut i wneud hyn.

Gweithio gyda staff yr ysgol 

Mae’n hanfodol fod cynrychiolwyr o ysgolion yn ceisio gwybodaeth gan aelodau o staff sy’n gweithio agosaf gyda’r plentyn neu unigolyn ifanc. Rydym oll yn ymateb yn wahanol yn unol â’r amgylchedd, sefyllfa neu dasg a gyda phobl wahanol. Efallai bydd gan bob aelod o staff wybodaeth werthfawr i helpu adnabod sbardunau gorbryder a strategaethau y mae’r unigolyn ifanc yn ymateb iddynt yn gadarnhaol. Yn benodol, mae’n bwysig ceisio barn unrhyw aelod o staff mae’r unigolyn ifanc yn siarad amdanynt mewn modd cadarnhaol ac unrhyw aelod o staff sydd â pherthynas mwy anodd gyda’r plentyn.

Mae gwybodaeth allweddol i gasglu yn cynnwys:

·         Beth yw cryfderau’r unigolyn ifanc?

·         Beth sy’n mynd yn dda?

·         Unrhyw anawsterau maent wedi sylwi arnynt?

·         Perthnasoedd â chyfoedion

·         Perthnasau gydag oedolion

·         Ymateb i dasgau academaidd

·         Os ydynt wedi bod yn dyst i drallod emosiynol, sut oedd hyn yn edrych a beth achosodd hyn?

·         Pa gymorth neu wahaniaethau sydd mewn lle a sut mae’r unigolyn ifanc yn ymateb i hyn

·         Unrhyw syniadau ar gyfer cymorth ychwanegol

Mae hefyd yn hanfodol ystyried os oes gan y plentyn Anghenion Dysgu Ychwanegol heb eu nodi, anghenion meddygol neu anabledd. Os nad ydynt eisoes ynghlwm, dylai staff ysgol ymgynghori gyda Chydlynydd ADY yr ysgol. 


Gellir dod o hyd i enghraifft o ffurflen ‘casglu gwybodaeth’ yn lawrlwythiadau

Dehongli’r wybodaeth a chynllunio

Ar ôl casglu gwybodaeth gan y plentyn, teulu a’r ysgol ac unrhyw weithiwr proffesiynol arall, mae’n hanfodol fod y wybodaeth yn cael ei roi ynghyd er mwyn gwneud synnwyr ohono. Bod trosolwg o’r darlun cyflawn a ffactorau amrywiol sydd ynghlwm yn cael eu casglu a bod damcaniaeth posibl yn cael ei ffurfio. Yna dylai’r rhain lywio’r cynllun cefnogi dychweliad i’r ysgol.

Mae’r ffurflen isod wedi’i ddylunio i’ch helpu i integreiddio’r wybodaeth a gesglir gan yr unigolyn ifanc, yr ysgol a’r teulu. Nid yw wedi cael ei ddylunio i fod yn holiadur, ond yn hytrach, adnodd i’w gwblhau ar ôl casglu gwybodaeth i’ch helpu goladu, integreiddio a dadansoddi’r wybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau. Gellir dod o hyd i gopi gwag yn Lawrlwythiadau.

Ar y Cam Ffurfio ac Integreiddio gall ysgolion gael mynediad at gymorth trwy ddilyn llwybr EBSA Conwy er mwyn eu cynorthwyo i ganfod nodwedd yr ymddygiad EBSA a llywio’r cynllun gweithredu ac ymyrraeth dilynol.

Cynllun Gweithredu

Ar ôl i’r broses casglu gwybodaeth a dadansoddi ddigwydd, dylid gwneud cynllun cefnogi neu ddychwelyd i’r ysgol. Rhaid i’r holl gynlluniau gael eu cyd-gynhyrchu gyda rhieni, y plentyn ac unrhyw asiantaethau priodol eraill. Rhaid i’r holl bartïon fod yn rhan.  Bydd pob cynllun yn wahanol yn ôl y camau gweithredu a nodwyd yn yr asesiad, bydd yr hyn a weithiodd gydag un plentyn, ddim o reidrwydd yn gweithio gyda phlentyn arall.

Dylai’r cynlluniau bob amser fod yn realistig ac yn gyflawnadwy  gyda’r nod o ailintegreiddio’r unigolyn ifanc Bydd cynllun sy’n rhy uchelgeisiol yn debygol o fethu. Dylai’r dychweliad fod yn raddol a fesul cam a dylai pawb gydnabod nad yw ‘datrysiad sydyn’ bod amser yn bosibl. Efallai bydd angen amserlen rhan amser fel rhan o’r broses hon, ond dylai hyn fod yn ddatrysiad dros dro ac nid fel dewis hirdymor, oherwydd bod gan holl blant yr hawl i addysg llawn amser.

Dylai holl bartïon fod yn ymwybodol y gall anawsterau godi wrth weithredu’r cynllun, a dylid rhagweld y rhain a chanfod datrysiadau. Dylid cymryd dull optimistaidd, os yw’r plentyn wedi methu â mynd i’r ysgol un diwrnod, dechreuwch eto’r diwrnod canlynol.  Dylai rhieni a’r ysgol ragweld y bydd mynd i'r ysgol ar ôl gwyliau ysgol, cyfnod o salwch neu ar ôl y penwythnos, yn debygol o fod yn anoddach. 

Ar ddechrau’r cynllun mae’r plentyn yn debygol o ddangos mwy o drallod a dylai pawb fod yn ymwybodol o hyn. Rhaid i staff ysgol a rhieni gydweithio er mwyn cytuno ar ddull cadarn a chyson. Ni ddylid rhannu unrhyw bryder am y broses gyda’r plentyn, argymhellir eich bod chi’n ‘sefyll ynghyd’ yn gadarnhaol.  Dylai unrhyw bryderon gael eu codi heb y plentyn.

Dylai ysgolion gymryd dull unigol a hyblyg  i anghenion yr unigolyn ifanc. Dylai holl staff ysgol sy’n dod i gyswllt gyda’r unigolyn ifanc fod yn ymwybodol o’r cynllun dychwelyd i’r ysgol ac unrhyw addasiadau o’r arferion neu ddisgwyliadau sydd mewn lle i gefnogi’r plentyn.

Unwaith y cytunir ar y camau gweithredu yn y cynllun cefnogi gyda’r unigolyn ifanc, e.e. dychwelyd i’r ysgol mewn camau graddol, dylid glynu at yr hyn sydd wedi cael ei gytuno ar yr wythnos honno, hyd yn oed os yw pethau’n mynd yn dda iawn, oherwydd gall wthio pethau ymlaen yn gyflymach na’r hyn a gytunwyd, godi gorbryder, lleihau ymddiriedaeth a chael effaith negyddol ar y cyfan. Dylai fformat y cynllun cefnogi fod yn hyblyg. Os yw’n briodol, dylid creu fersiwn unigolyn ifanc. Gellir dod o hyd i enghreifftiau o gynllun cefnogi yn lawrlwythiadau.

Mae llenyddiaeth wedi canfod elfennau allweddol i gymorth a ddylai fod mewn lle er mwyn i gynllun gweithredu ailintegreiddio fod yn llwyddiannus.

Ymyraethau a strategaethau 

Mae ymchwil yn awgrymu y dylai’r dewis o ymyrraeth gael ei lywio gan ddadansoddiad gweithredol gofalus o ymddygiad osgoi’r ysgol. Mae pedwar math o amrywioldeb a all gynnal ymddygiad osgoi’r ysgol. Mae ymyraethau yn seiliedig ar y wybodaeth a gasglwyd yn cam asesu ac integreiddio.

1. Osgoi rhywbeth neu sefyllfaoedd sy’n peri teimladau negyddol neu lefelau uchel o straen (e.e. ofn y toiledau; y sŵn ar y buarth; llawer o bobl yn symud ar yr un pryd yn y coridorau rhwng dosbarthiadau, profion / arholiadau)

Dylai ymyraethau gynnwys dysgu am orbryder a phoeni, sut mae’n effeithio ar ein meddyliau, teimladau ac ymddygiad. Sut mae osgoi’r sefyllfa sy’n peri ofn yn gwneud pethau’n waeth. Dylid dysgu technegau rheoli gorbyrder i’r plentyn, megis hyfforddiant ymlacio ac anadlu’n ddwfn. Mae dolenni i adnoddau i gefnogi ysgolion yn yr lawrlwythiadau.

Dylid dod yn ôl i gysylltiad gydag amgylchedd yr ysgol yn raddol gan ddefnyddio hierarchaeth osgoi a grëwyd gyda’r unigolyn ifanc o’r sefyllfaoedd ysgol sy’n peri’r gofid lleiaf i’r mwyaf.  Dylai’r ysgol ystyried darparu mannau diogel i’r disgyblion fynd, megis ardal fugeiliol, a’r llyfrgell, gall y rhain osgoi stigmateiddio ar gyfer rhai disgyblion yn hytrach nac ardaloedd cefnogi dysgu.

Er mwyn creu hierarchaeth gorbyrder/osgoi, gellir gofyn i’r unigolyn ifanc enwi sefyllfaoedd (neu ddangos cardiau yn cynrychioli ofnau posibl) ac yna eu rhoi mewn trefn o sut maent yn teimlo am y sefyllfa neu’r gwrthrych o’r lleiaf pryderus i’r mwyaf pryderus. Wrth ystyried y camau nesaf mae’n bwysig dechrau gyda’r eitem sy’n achosi’r gorbryder lleiaf, gan eu helpu i feddwl am ffyrdd i ymdopi â’r sefyllfa a pha gymorth fyddent ei angen. Unwaith iddynt oresgyn yr ofn a gwneud hyn nifer o weithiau, gallent ddechrau gweithio eu ffordd i fyny’r hierarchaeth 

Mae enghraifft o hierarchaeth gorbryder wedi'i chynnwys isod:

2. Dianc oddi wrth sefyllfaoedd cymdeithasol anodd (e.e. teimlo eu bod yn cael eu gadael allan yn ystod amser chwarae; darllen yn uchel o flaen y dosbarth neu dasg siarad cyhoeddus / grŵp arall; gweithio fel grŵp)

Yn debyg i’r swyddogaeth cyntaf, dylai ymyraethau gynnwys dysgu am orbryder a phoeni, sut mae’n effeithio ar ein meddyliau, teimladau ac ymddygiad. Sut mae osgoi’r sefyllfa sy’n peri ofn yn gwneud pethau’n waeth. Dylid dysgu technegau rheoli gorbyrder i’r plentyn, megis hyfforddiant ymlacio ac anadlu’n ddwfn. Yn ogystal â hyn, dylid dysgu sgiliau cymdeithasol i’r plentyn a rhoi cyfleoedd i ymarfer sgiliau ymdopi mewn sefyllfaoedd cymdeithasol go iawn a sefyllfaoedd gwerthuso, gan ddechrau’n fach ac adeiladu at y rhai mwyaf heriol. Gellir addysgu’r gwaith allweddol a fethwyd, cyfeillio, mentora cyfoedion a chwarae rôl yr hyn maent am ei ddweud pan fydd cyfoedion yn gofyn am eu habsenoldeb o’r ysgol.


3. Cael sylw gan neu dreulio mwy o amser gyda phobl arwyddocaol eraill (e.e. newid yn neinameg y teulu, pryderu am les rhiant)


4. Treulio mwy o amser y tu allan i’r ysgol gan fod hynny'n fwy o hwyl ac yn fwy symbylol (e.e. gwylio teledu, mynd i siopa, chwarae gemau cyfrifiadurol, treulio amser gyda ffrindiau)

Adolygu 


Arferion Da Ysgol Gyfan

Rhaid i unrhyw waith llwyddiannus gydag unigolyn gael ei sefydlu i mewn i systemau ysgol gyfan. Mae arferion da cyffredinol ar gyfer hyrwyddo lles emosiynol ac iechyd meddwl cadarnhaol hefyd yn gymwys i EBSA. Mae’r ffigwr isod yn amlinellu diwylliant, strwythurau, adnoddau ac arferion o fewn ysgol a all hyrwyddo lles staff a phobl ifanc, gyda chyfeiriad penodol at EBSA. Gellir dod o hyd i restr wirio arferion da ysgol gyfan yn lawrlwythiadau

Trosglwyddiad 

Mae llenyddiaeth wedi dangos fod niferoedd uchel o bobl ifanc gydag EBSA yn cyd-fynd â throsglwyddiad mewn camau addysgol. Nid yw hyn yn syndod gan fod pobl ifanc yn wynebu newidiadau sylweddol.

Mae trosglwyddiad llwyddiannus yn golygu bod angen i’r unigolyn ifanc gael ei gefnogi i allu gwneud addasiadau er mwyn ffitio mewn gyda’u amgylchedd newydd.

Mae’r mwyafrif o blant yn addasu i’r newidiadau hyn dros amser. Fodd bynnag mae pobl ifanc sy’n profi lefelau uwch o orbryder neu sydd wedi profi colled neu wahaniad yn fwy agored i ddatblygu neu brofi cynnydd mewn ymddygiadau EBSA. Mae’n bwysig bod ysgolion a rhieni yn darparu cymorth priodol a bod unrhyw bobl ifanc diamddiffyn yn cael ei hadnabod yn gynnar gan yr ysgol fwydo a bod dull unigol yn cael ei gymryd.

Mae arferion trosglwyddo da yn cynnwys cyfnewid gwybodaeth fugeiliol ac academaidd yn effeithiol o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd. Mae’n bwysig iawn i ysgolion bwydo yn codi unrhyw anawsterau gwahanu cynnar ac achosion o EBSA yn y gorffennol, hyd yn oed os oedd y materion yn rhai cymedrol a bod presenoldeb yn iawn erbyn hyn. Cynghorwn i ysgolion uwchradd ofyn yn benodol am y wybodaeth hon ar unrhyw ffurflenni trosglwyddo.

Mae trosglwyddiad da hefyd yn cynnwys cyfathrebu da gyda’r unigolyn ifanc a’u rhieni. Yr allwedd i hyn yw rhoi gwybodaeth ymarferol i bobl ifanc a’u rhieni.

Dylai staff ysgol cyfarwydd drafod gyda phobl ifanc a’u rhieni yr hyn maent yn edrych ymlaen ato a’r hyn maent yn poeni amdano, a dylid mynd i’r afael â hyn yn unigol. 

EBSA, presenoldeb ysgol a’r gyfraith 

Mae’r Ddeddf Addysg 1996 yn rhoi dyletswydd cyfreithiol ar holl rieni i sicrhau fod eu plentyn yn derbyn addysg. Os yw’r addysg hwn yn cael ei ddarparu mewn ysgol, rhaid i rieni sicrhau fod eu plentyn yn mynychu’n rheolaidd. Os nad all y rhiant sicrhau hyn, gallent fod yn atebol am drosedd o dan A.444 Deddf Addysg 1996; methiant i sicrhau presenoldeb ysgol rheolaidd plentyn. Mae’r term rheolaidd wedi cael ei ddiffinio yn ddiweddar i olygu ‘fel y rhagnodir gan yr ysgol’. Ar gyfer mwyafrif y disgyblion, mae hyn yn golygu mynychu’r ysgol yn llawn amser. Felly mae unrhyw absenoldeb anawdurdodedig yn bresenoldeb afreolaidd.

Fel unrhyw gyfraith, mae’r paramedrau yn llym ac mae’r Ddeddf Addysg 1996 yn mynd ymhellach gan fod y drosedd yn un gydag atebolrwydd llym. Golyga hyn mai dim ond amddiffyniadau penodol gall y rhieni eu defnyddio os yw eu plant yn colli’r ysgol. Un amddiffyniad o’r fath yw nad yw y plentyn yn gallu mynychu’r ysgol yn sgil salwch. Rhaid i’r rhiant brofi mai hyn yw’r achos. Dim ond y Pennaeth all awdurdodi absenoldeb o’r ysgol. Gallent ofyn am dystiolaeth meddygol cefnogol gan y rhieni i ddangos nad all y disgybl fynychu’r ysgol.

Gwneir y cais yn aml er mwyn rhwystro’r mater rhag symud ymlaen i broses gyfreithiol. Gall dystiolaeth meddygol gynnwys cardiau apwyntiad; presgripsiynau; adroddiadau gan weithwyr meddygol proffesiynol ac ati. Mae pwysau a gwerth y dystiolaeth yn un i’r Pennaeth ystyried wrth wneud penderfyniad os ddylai’r absenoldeb gael ei awdurdodi ai peidio.

Pan fydd absenoldeb anawdurdodedig yn digwydd, yn dibynnu ar yr hyd a rheswm dros yr absenoldeb, bydd yr ysgol yn dilyn eu protocol presenoldeb ac yn ymgynghori/atgyfeirio at y Gwasanaeth Gwaith Cymdeithasol Addysg a fydd yn asesu, cefnogi a rhoi canllawiau.

Cynigir ymyraethau o fewn fframwaith cyfreithiol gydag ymchwiliad i sefydlu os ellir profi bod trosedd. Gall hyn arwain at amrywiaeth o gamau gweithredu gan gynnwys y defnydd o Rybuddion Cosb Benodedig a/neu achos llys mewn llys troseddol (troseddau o dan y Ddeddf Addysg) neu yn y llys teulu wrth geisio Gorchymyn Goruchwylio Addysg.

Os gwneir y penderfyniad i symud ymlaen gydag erlyniad, rhoddir ystyriaeth os fydd hyn yn lwybr cyflym, trosedd waethygedig neu arferol. Yn gyffredinol, ystyrir y llwybr cyflym yn briodol os oes cymorth yn ei le ar gyfer y teulu gan asiantaethau eraill, ac yn darparu cyfnod o 12 wythnos arall lle disgwylir i’r rhiant ddangos gwelliant sylweddol ym mhresenoldeb eu plentyn. Fel arall, efallai y bydd gorchymyn goruchwylio addysg yn briodol.

Gwneir cais i’r llys teulu am orchymyn goruchwylio am flwyddyn. Nodir swyddog goruchwylio a’u rôl yw bod yn ffrind, cynnig cyngor a chymorth i’r disgybl a rhiant, er mwyn gwella presenoldeb ysgol yn sylweddol. Os fydd y rhiant yn methu bodloni disgwyliadau a chyfarwyddiadau’r gorchymyn, gellir hyn arwain at erlyniad.

Ar gyfer ysgolion gyda phobl ifanc sy’n profi EBSA ac yn ei chael yn anodd mynychu, penderfyniad y Pennaeth yw awdurdodi absenoldeb ai peidio. Os yw’r ysgol yn penderfynu atgyfeirio disgyblion at yr Awdurdod Lleol, disgwylir i’r ysgol fod wedi rhoi cynnig ar amrywiaeth o strategaethau i annog a chefnogi presenoldeb yr unigolyn ifanc, fel y rhai a amlinellir yn y ddogfen hon yn ogystal â gwneud cais am unrhyw wybodaeth gefnogi gan weithwyr meddygol proffesiynol.

EBSA a Cheisiadau am Gynlluniau Datblygu Unigol (CDU) 

Bydd anghenion y mwyafrif o blant a phobl ifanc gydag EBSA yn cael eu bodloni o fewn darpariaeth cynhwysol.  Mewn rhai achosion, gall blant a phobl ifanc sy’n dangos ymddygiad EBSA fod ag anghenion dysgu ychwanegol tanategol. Nid yw EBSA ei hun yn angen dysgu ychwanegol. 

Bydd gan blant a phobl ifanc gydag ADY Gynllun Datblygu Unigol mewn lle. Bydd y CDU yn cael ei gynnal gan yr ysgol neu’r Awdurdod Lleol.

Nid yw CDU yn angenrheidiol er mwyn ceisio cyngor ac ymgynghoriad gan asiantaethau allanol a ellir eich cefnogi i fodloni anghenion plant gydag EBSA.