EBSA ac Awtistiaeth 

Mae llawer o dystiolaeth fod gorbryder a sialensau rheoli straen yn gyffredin mewn plant a phobl ifanc awtistig a gall gorbryder waethygu yn ystod y glasoed, gan fod pobl ifanc yn wynebu rhyngweithiadau cymdeithasol cymhleth ac yn aml yn dod yn fwy ymwybodol o’u gwahaniaethau ac anawsterau rhyngberthnasol. Hyd yn hyn, ychydig iawn o ymchwil sydd i Awtistiaeth ac EBSA, ond mae tystiolaeth a phrofiad yn awgrymu yn sgil y gorbryder gall plant a phobl ifanc Awtistig ei brofi, maent o dan risg cynyddol o EBSA.

Mae’r ffactorau sy’n dylanwadu ar lefelau gorbryder mewn unigolion Awtistig, yn yr un modd ag unrhyw blentyn, yn niferus ac yn aml yn gymhleth; yn gysylltiedig â dallineb cyd-destun, swyddogaethau gweithrediaeth, damcaniaeth meddwl cyfyngedig, anawsterau prosesu iaith, canolbwyntio ar fanylion, gwahaniaethau prosesu synhwyraidd. Mae ymchwil diweddar hefyd yn ystyried diffyg goddefgarwch i wahaniaethau fel ffactor cyfrannu allweddol i orbryder mewn plant a phobl ifanc Awtistig. 

Bydd ysgolion yn ymwybodol eu bod yn medru bod yn amgylcheddau cymdeithasol cymhleth y gall plant a phobl ifanc Awtistig ei weld yn flinedig; maent yn defnyddio egni gwybyddol yn rheoli profiadau cymdeithasol a gall hyn eu gorlwytho. Yn wir, gall eu gorbryder ‘orlifo’ fel y dangosir isod, a’u rhoi mewn risg o EBSA.

O ystyried y risg cynyddol y gall unigolion Awtistig sy'n profi lefelau uchel o orbryder mewn amser brofi EBSA, mae’n hanfodol fod sylw ac ymyrraeth cynnar i ddatblygu sgiliau cymdeithasol y plentyn neu berson ifanc, llythrennedd emosiynol, gwydnwch a’u gallu i hunanreoleiddio. Mae’r camau i fynd i’r afael â rhain wedi’u nodi isod.

Gweithio gyda’r plentyn/person ifanc

Mae tystiolaeth a phrofiad yn dangos y gall lefelau gorbryder disgyblion Awtistig gael ei leihau drwy fabwysiadu dulliau arferion da sy’n unigryw i anghenion penodol y plentyn/person ifanc. Gall hyn gynnwys cymorth gweledol, strwythur, rheoli newid a chynyddu sicrwydd y diwrnod ysgol yn gyffredinol. Gellir dod o hyd i ragor o fanylion ar strategaethau arferion da yn adnoddau, a dylai gynnwys fod pob oedolyn sy’n gweithio gyda phlentyn neu berson ifanc yn ymwybodol o effaith eu harddull cyfathrebu.

Camau i gefnogi lleihau gorbryder

Cam 1

Dylid sicrhau fod gan yr holl oedolion sy’n gweithio gyda’r plentyn neu berson ifanc ddealltwriaeth o Awtistiaeth a chyfathrebu’n briodol, a bod oedolion wedi gweithredu strategaethau ‘arferion da’ cyffredinol pan yn cefnogi unigolion Awtistig e.e. mae’r plentyn yn defnyddio ac yn ymgysylltu ag amserlen gweledol, cymorth gweledol perthnasol, man tawel.

Cam 2

Yn allweddol i effeithiolrwydd unrhyw ymyrraeth yw bod â dealltwriaeth gadarn o anghenion y plentyn a sut mae’r cyflwr ar y sbectrwm awtistiaeth yn benodol yn effeithiol ar y plentyn. Ystyriwch ddefnyddio offer:


Cam 3

Cynllunio a gweithredu strategaethau unigryw i ddatblygu sgiliau cymdeithasol ac emosiynol a nodir yng ngham 2. Gall y strategaethau gynnwys y rhai a ddisgrifir yn EBSA- Canllaw Ysgolion. 

Cam 4

Adolygu effaith yr ymyraethau. Efallai, er gwaethaf arferion da ac ymyraethau, fod gorbryder y plentyn yn parhau i gynyddu gan eu rhoi mewn risg o EBSA a bydd angen gweithredu ymyraethau ychwanegol.

Nodwch bod y cyngor yn y penodau blaenorol o ran Cynllun Gweithredu  hefyd yn berthnasol yma a dylid ei ddilyn. 

Os oes unrhyw ddangosyddion fod y plentyn mewn risg o EBSA bydd yn bwysig adeiladu darlun clir o’r union elfennau o fynychu’r ysgol sy’n cynyddu eu gorbryder, er mwyn i bob ymdrech posibl gael ei wneud i liniaru’r gorbryder gan ddefnyddio adnoddau a awgrymir yn yr  Adran Adnoddau a Chymorth Lleol Ychwanegol.

Efallai y bydd yn briodol ceisio cymorth asiantaeth allanol arbenigol megis Tîm Allgymorth Awtistiaeth, seicoleg addysg, Canolfannau i Deuluoedd a/neu Gweithwyr Cymdeithasol Addysg.

Gweithio gyda rhieni/gofalwyr

Gall ysgolion ystyried cyrsiau hyfforddi a all fod ar gael i rieni e.e. Early Birds Plus. Gall sefydliadau trydydd sector ddarparu hyfforddiant, megis STANDNW, maent yn cynnig mynediad at ystod o hyfforddiant yn lleol. Mae gan Awtistiaeth Cymru a'r National Autistic Society nifer o adnoddau ar gael ar gyfer ysgolion a rhieni/gofalwyr.  Gellir cael mynediad at  raglenni cefnogi rhieni/gofalwyr trwy Ganolfannau Teulu Conwy.


Linciau perthnasol: 

Bywyd Teuluol yng Nghonwy - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy 

(STAND North Wales – Stronger Together for Additional Needs and Disabilities (standnw.org) 

Hafan - Awtistiaeth Cymru | Autism Wales | National Neurodivergence Team  

National Autistic Society (autism.org.uk)