Hyfforddiant EBSA

Ymwybyddiaeth o Osgoi’r Ysgol ar Sail Emosiwn

Cymraeg- Emotional Based School Avoidance Awareness Final Version.pptx

Cliciwch ar y botwm llwytho i lawr i gael mynediad at hyfforddiant Ymwybyddiaeth EBSA. Rydym wedi creu’r hyfforddiant hwn i’w rannu ag ysgolion ac i godi ymwybyddiaeth o EBSA. Mae'r hyfforddiant yn addas ar gyfer unrhyw un sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc.

Cyfarwyddiadau

Mae'r hyfforddiant wedi'i greu i'w rannu â staff yr ysgol ac i'w gyflwyno mewn lleoliadau grŵp. Ar ôl ei lawrlwytho, cliciwch ar y botwm Chwarae PowerPoint a sicrhau bod eich cyfaint ymlaen. Dylai'r hyfforddiant gymryd tua 60 munud i'w gwblhau ac efallai y byddwch am gael papur a beiro i wneud nodiadau.

Bydd y PowerPoint yn chwarae'n awtomatig unwaith y bydd y botwm wedi'i wasgu, ond efallai y bydd adegau pan fydd angen i chi glicio neu oedi ar gyfer trafodaeth grŵp.

Hyfforddiant cydlynydd EBSA

Bydd gwybodaeth am hyfforddiant cydlynydd EBSA ar gael yn gynnar yn nhymor y gwanwyn. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu os hoffech fynegi diddordeb yn yr hyfforddiant, cysylltwch â ni ar EBSA@conwy.gov.uk