Gorweddai pentref morol Pentywyn i'r De Ddwyrain o tref San Clêr ac heibio i Dalacharn. Yno mae traeth llyfn ac atyniadau sy'n addas i'r teulu cyfan.
Mae'r traeth yn 7 milltr o hyd ac yn draeth neis iawn yn enwedig yn yr haf.
Gwelir amrywiaeth o lefydd bwyta ym Mhentywyn. Gyda'r datblygiad newydd ar wyneb y traeth, cewch chi hufen iâ hyfryd, bywd Tsieiniaidd a nifer o dafarndai traddodiadaol.
Mae nifer o lwybrau cerdded ar hyd yr arfordir yn arwain tuag at Talacharn a thraethau cyfagos megis Amroth.
Peirianydd Cymreig a gyrrwr oedd J.G Parry-Thomas. Roedd yn awyddus iawn i dorri record byd am y car cyflymaf ar dir. Mentrodd y tro cyntaf ar draeth Pentywyn yn 1925 ond methodd i dorri'r record byd. Dychwelodd yn 1926 a llwyddo i dorri'r record byd. Ar y diwrnod cyntaf llwyddodd i gyrraedd y cylymder 169 mya yna ar yr aill ddiwrnod torrodd y record eto gyda 171 mya. Heriodd Parry-Thomas ei hun eto i dorri'r record ym mis Mawrth 1927 ond yn anffodus bu farw ar ôl iddo bwrw i fewn i'r twyni tywod.
Yn 1969, codwyd y car o'r twyni a'i adnewyddu. Cymerodd 16 mlynedd i adnewyddu'r car. Bu Babs ar ddangos yn yr amgueddfa yn Pentywyn am amser hir, ond pellach mae ond modd gweld Babs yn ystod yr haf ym Mhentywyn.
Dathlwyd 90 mlynedd o Babs yn y flwyddyn 2016. Gyrrwyd Babs ar y traeth unwaith eto.
Mae Gwersyll ar gyfer ysgolion wedi bod ym Mhentywyn ers blynyddoedd maith erbyn hyn. Mae nifer o blant wedi bod yn ffodus i ddatblygu sgiliau newydd a chael llawer o hwyl yn y gwersyll.
Yma mae un o wersylloedd saethu'r fyddin. Ar adegau mae'r traeth yn cael ei gau er mwyn i'r fyddin ymarfer saethu.
Gyferbyn â'r traeth, mae Parc Carafannau. Mae pobl yn dod o ar draws y byd i aros yn y parc yma ac i fwynhau diwylliant Pentywyn.