Dref mawr yn y Gorllewin yw Caerfyrddin yn llawn siopiau a lleoedd bwyta, clybiau chwaraeon a mwy.
Mae nifer iawn o clybiau chwaraeon i gael yng nghaerfyrddin, hefyd mae yna ganolfan hamdden.
Caerfyrddin yw un o'r drefi mwya yn y gorllewin oherwydd mae lot o bethau yma yn enwedig siopiau.
Mae castell Caerfyrddin yn un o'r cestyll gorau yn Sir Gar, mae lot o bobl lleol yn ei anog.
Bachgen ifanc o Gaerfyrddin oedd Myrddin - nid bachgen cyffredin mohonno, ond Dewin ydoedd. Mae gan Myrddin gyswllt agos iawn â thref Caerfyrddin, gyda'i ogof ar gyrion y dref a'r goeden dderwen enwog, mae yna lawer o dystiolaeth yn y dref o'i fodolaeth.
Yn ôl proffwydoliaeth Myrddin, pan gwympai’r Dderwen ‘Llanllwch a fu, Caerfyrddin a sudd, Abergwili a saif.'
Mae tref Caerfyrddin hyd yn oed wedi ei henwi ar ôl y Dewin Myrddin.
Caiff stori Myrddin ei wneud yn fyd-enwog gyda'r Brenin Arthur. Mae Disney ac Hollywodd wedi creu nifer o ffilmiau yn adrodd stori Myrddin, yn ogystal â'r gyfres teledu BBC 'Merlin'.
Mae tua 12,700 o fyfyrwyr yn dysgu yn Coleg Y Drindod. Mae hefyd yn adeilad hen iawn.
Blynyddoedd maith yn ôl fe roedd carchar yng nghaerfyrddin a Myrddin oedd ei berchen, yn anffodus does dim carchar rhagor, mae yna swyddfeydd y Sir.
Yn ogystal, yng Nghaerfyrddin cafodd y carcharwr olaf ei grogi.
Mae cyswllt agos gyda Myrddin a stori'r ddwy ddraig. Roedd Brenin Gwrtheyrn eisiau adeiladu castell ar dir Dinas Emrys, ond roedd y castell yn cwympo i lawr pob tro. Roedd angen gwaed bachgen heb dad i ddatrys y broblem. Danfonodd Brenin Gwrtheyrn ei filwyr i cwilio am y bachgen yma. Daeth un o'i filwyr ar draws Myrddin yng Nghaerfyrddin. Fe welodd Myrddin mai nid dyna'r broblem a bod dwy ddraig yn ymladd yn yr ogof o dan ddaear.