Mae tref Cydweli ond tafliad carreg i'r Dwyrain o tref Caerfyrddin. Mae'r tref yma yn gartref i nifer o gewri Cymru.
Dyma un o gestyll fwyaf y Sir. Castell Cydweli. Mae'n bosib i chi fynd i fewn i'r castell am dro a chaiff ei ofalu gan CADW. Nid yn bell o'r castell mae fferm o'r enw Maes Gwenllian.
Beth i'w wneud yno?
Siop gardd
Cychod gwenyn
parc i plant
siop fferm
bwyti
ac mae caffi yno hefyd
Dyma lle i chi ymlacio a chwrdd a ffrindiau a teulu. Mae'n addas tuag at anghenion pawb.
Twysoges Gwenllian yw ferch Gruffudd ap Cynan ac mae nhw yn byw yn Mynydd y Garreg yn Nyfed, heb fod ymhell o dref a Chastell Cydweli, mae fferm o'r enw maes Gwenllian. Merch dlos iawn oedd Gwenllian. Roedd ganddi wallt hir a gyrhaeddai at waelod ei chefn a hwnnw'n euraid fel heulwen Mai. Roedd ei chroen fel eira a'i gruddiau fel afalau cochion y hydref .
Normaniaid
Eu gelyn mawr oedd dyn o'r enw Maurice De Londres. Roedd yn greulon iawn gyda'i ddynion ei hun heb son am y Cymry ac roedd wedi codi castell mawr yng Nghydweli, ar dir Gruffudd.
Daeth brwydir enfawr ar faes y castell. Doedd dim dianc i fod, felly sodrodd y dywysoges ei baner gyda'r ddraig goch arni yn naear gwastad gwaelod y cwm a bloeddi 'Dros Gymru! Daliwch eich tir! Yn anffodus, bu farw Gwenllian ar faes y gad, a dyna pham enwi'r y fferm yn Maes Gwenllian.
Darllenwch fwy am hanesio y Dywysoges Gwenllian yn y comig gwych yma gan CADW.
Castell pren oedd y castell yn wreiddiol. Roedd y castell yn gyson o dan ymosodiad tywysogion o Gymru a'r Normaniaid. Llwyddodd Yr Arglwydd Rhys i gipio'r castell yn 1159. Mab Gwenllian oedd Yr Arglwydd Rhys.
Mae Gruffudd Ap Cynan yn tad i Gwenllian ac mae Gruffudd Ap Cynan yn hen taid i Llywelyn fawr,Tywysog Cymru.